(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Cyd-gynhyrchu

Manylion cwrs
Hyd y cwrs
4 wythnos
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r cwrs byr hwn yn edrych ar ddull cydgynhyrchu mewn gwasanaethau cyhoeddus sy’n seiliedig ar asedau. Cewch ddarganfod sut y mae’n galluogi’r bobl sy’n darparu gwasanaethau a’r bobl sy’n eu derbyn i rannu pŵer a chyfrifoldeb, ac i weithio gyda’i gilydd mewn perthynas sy’n gyfartal, yn ddwyochrog ac yn ofalgar.
Prif nodweddion y cwrs
- Cyflwyniad manwl i egwyddorion allweddol cydgynhyrchu a’r defnydd arno wrth gomisiynu, dylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau.
- Mae’r cwrs yn addas ar gyfer y rhai sydd yn hollol newydd i gydgynhyrchu, yn ogystal â’r rheiny sydd am adfyfyrio ar eu harfer cyfredol a’i ddatblygu.
- Cyflwynir y cwrs mewn partneriaeth â Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
- Astudio ar-lein yn ddi-dâl.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno egwyddorion cyd-gynhyrchu ac yn archwilio amrywiaeth o ddulliau gweithredu a thechnegau sydd ynghlwm â phob egwyddor yn ogystal ag enghreifftiau o gyd-gynhyrchu ar waith.
Gwahoddir myfyrwyr i adlewyrchu ar gymhwyso'r egwyddorion hynny yn eu gwaith eu hunain.
Pynciau yr ymdrinnir â nhw ar y cwrs hwn;
- Diffiniadau cyd-gynyrchu
- Astudiaethau achos cyd-gynhyrchu ar waith
- Cyd-gynhyrchu yn y sector iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, tai, y celfyddydau a datblygiad cymunedol
- Y comisiynu, y cyd-dylunio, cyd-trosglwyddiad a chyd-gymhwyso
- Adnoddau ymarferol, cymorth a chefnogaeth ar gyfer ymarfer cyd-gynhyrchu
- Cyflwyniad i theori cymhlethdod yng nghyd-destun cyd-gynhyrchu
- Cyd-gynhyrchu ar-lein
Bydd cynnwys y modiwl yn cael ei gyflwyno ar-lein yn llwyr dros gyfnod o 4 wythnos;
- Podlediadau dyddiol: yn cynnwys ystod amrywiol o ymarferwyr cyd-gynhyrchu yn rhannu eu meddyliau a'u profiadau.
- Seminarau byw: i drafod a myfyrio ar gynnwys y cwrs.
- Briffiau tasg ymarferol: i gefnogi cynnwys cwrs yn ymarferol
- Sesiynau 'Gofynnwch unrhyw beth': ar gyfer sgyrsiau uniongyrchol gyda thiwtor y cwrs.
- Fforwm drafod.
- Cysylltiadau â darllen argymelledig a chyfryngau eraill; tynnu ar gronfa wybodaeth helaeth Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru.
Addysgu ac Asesu
Bydd asesiad ar ffurf cwblhau 'canfas cynllun gweithredu'. Bydd y dyfarniad yn amodol ar y lefel leiaf o ymgysylltiad â phob agwedd ar ddarpariaeth y cwrs, a bodloni'r meini prawf asesu lleiaf.
Ffioedd a chyllid
Am ddim
Dyddiadau Cwrs
Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.
Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.
Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.