MYFYRWYR YN CYMRYD RHAN YM MIS RHANNWCH STORI
Mae rhannu straeon gyda’n gilydd yn ysbrydoli, yn uno ac yn addysgu. I ddathlu mis Rhannwch Strori, rydym wedi gofyn i rai o’n myfyrwyr Ysgrifennu Creadigol rannu eu straeon, a sôn am y straeon sydd yn eu hysbrydoli.
Ysgrifennodd Peter Evans gerdd ar ffurf soned. Mae hi wedi ei hysbrydoli a’i henwi ar ôl y paentiad swrrealaidd o 1931, The Persistence of Memory gan Salvador Dali.
“Roedd y clociau wedi toddi yn apelio ataf, yn fy atgoffa o wyliau yn Sbaen ble roedd amser yn ymddangos bron yn elastig,” medd Peter.
The persistence of memory
Melted clocks, a dreamlike scene is unveiled:
To those who stand and take the time to look,
A distant scene of sea and cliffs revealed,
Behind a man-made world of tick and tock.
A composite lifeform slips in sand,
The arm of a naked tree, long since dead,
Where stretching, folded time is draped and hangs,
The bluntness of man muscles in: sharp edged.
But memories endure, of Figueres,
And the warm arc of the Bay of Rosas,
A boozy morning trip to Cadaques,
A seaside house, ten to ten moustaches,
Photos, neurons in the hippocampus,
Cannot hold that, which time will re-possess.
Mae Gillian Hughes yn rhannu gyda ni:
“Fy hoff stori yw’r clasur oesol Wuthering Heights gan Emily Brontë.
“Darllenais i hi am y tro cyntaf yn bedair ar ddeg mlwydd oed; roeddwn i wedi fy nghyfareddu erbyn diwedd y bennod gyntaf ac rwyf wedi ei darllen sawl tro dros y blynyddoedd.
“Mae’n stori am gariad nas dychwelir, edifeirwch galarus, dialedd, trasiedi a cholled; cymysfa a ddefnyddiwyd dro ar ôl tro mewn testunau llenyddol eraill – ond yn Wuthering Heights, fe’i cyfleir mewn modd unigryw. Daeth Emily Brontë â’i chymeraidau’n fyw, gan adrodd ei stori mewn ffurf naratif atmosfferig ac anarferol. Roedd yn cludo’r darllenydd ar don o angerdd, anobaith, hiraeth, gyda diweddglo trasig a thrist iawn. Nid yw paragraff olaf y llyfr byth yn methu â chynhyrfu’r emosiynau; mae’n gwneud ichi feddwl am freuder bywyd a pha mor fregus ydym ni oll.
“I lingered round them, under that benign sky: watched the moths fluttering among the heath and harebells, listened to the soft wind breathing through the grass, and wondered how anyone could ever imagine unquiet slumbers for the sleepers in that quiet earth."
Rhannu eich straeon trwy ysgrifennu creadigol
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut i rannu eich straeon drwy’r gair ysgrifenedig, beth am roi cynnig ar ein cwrs byr Mynd ati i Ysgrifennu’n Greadigol neu ein BA (Anrh) Ysgrifennu Creadigol neu BA (Anrh) Ysgrifennu Creadigol gyda Blwyddyn Sylfaen.
“Rwy’n argymell y cwrs gradd BA Anrh Ysgrifennu Creadigol yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn fawr iawn” medd Gillian Hughes.
“Mae’n cynnwys sawl modiwl, ble byddwch yn dysgu’r sgiliau hanfodol ar gyfer amrywiaeth eang o arferion ysgrifennu. Mae’r arddysgu a’r arweiniad ar y cwrs yn rhagorol; mae pob un o’r ddarlithwyr yn drwyadl, yn eich annog ac yn barod iawn i’ch cynorthwyo.
“Mae’n radd sydd yn addas ar gyfer pob grŵp oedran. Rhyddhewch eich dychymyg – ymunwch â’r cwrs gradd BA Anrh Ysgrifennu Creadigol yng Nglyndŵr, wnewch chi ddim difaru!”