SUT I GONCRO MIS YSGRIFENNU NOFEL CENEDLAETHOL
Mae Tachwedd 1af yn nodi dechrau Mis Ysgrifennu Nofel Cenedlaethol neu’r NaNoWriMo fel y’i gelwir yn y gymuned ysgrifennu. Y syniad yw eich bod yn ysgrifennu 50,000 o eiriau ym mis Tachwedd tuag at eich nofel. Efallai mai’r nofel gyfan yw’r 50,000 neu fe all gyfrif tuag at eich cyfanswm geiriau terfynol.
Gall y syniad o ysgrifennu 50,000 o eiriau mewn mis ymddangos yn llethol neu du hwnt i’ch cyrraedd, yn enwedig os mai dyma'r tro cyntaf ichi ysgrifennu nofel, ond pob blwyddyn mae miloedd o awduron yn cyflawni’r nod yma, ac yn sicr mi fedrwch chi hefyd.
Dyma 5 awgrym defnyddiol ar goncro NaNoWriMo ac ysgrifennu drafft cyntaf eich nofel yn llwyddiannus mewn 30 diwrnod.
1. Gosodwch nod cyfanswm geiriau dyddiol
I gyrraedd y targed o 50,000 yn llwyddiannus, mae angen ichi ysgrifennu 1667 o eiriau'r dydd. Mae hyn yn hollol bosib, ac nid mor anodd ag y tybiwch.
2. Lluniwch amserlen
Nodwch amser penodol yn eich calendr ar gyfer ysgrifennu. Efallai y bydd angen ichi godi awr yn gynt i wneud hyn, os oes gennych chi amserlen Prifysgol lawn neu blant. Rydw i’n ysgrifennu’n well gyda’r nos, felly’n amserlennu cyfnod rhwng 9-10pm unwaith bod y plant yn cysgu.
3. Cadwch eich hun yn atebol
I mi, roedd ymuno â chymuned NaNoWriMo yn ffordd o sicrhau fy mod i’n parhau i gael fy ysgogi a chadw at y nod. Ar y wefan, mae modd olrhain eich cynnydd a chynnydd ysgrifenwyr eraill, ac mae yna fforymau cefnogi am gyngor ac anogaeth. Mae’n ffordd wych o wneud ffrindiau ysgrifennu newydd.
4. Peidiwch â golygu
Bydd golygu yn eich arafu. Cofiwch mai dim ond mis sydd gennych chi i gyrraedd 50,000 o eiriau, felly bydd golygu wrth ichi fynd yn eich blaen yn cymryd llawer o amser y gellid ei ddefnyddio tuag at gyrraedd eich nod. Bydd digon o amser i olygu unwaith i fis Tachwedd ddirwyn i ben. Cofiwch mai drafft cyntaf fydd hwn nid y cynnyrch gorffenedig.
5. Gwobrwywch eich hun
Os ydych chi’n taro’ch cyfanswm geiriau dyddiol, yna beth am wobrwyo eich hun. Mi fydda i’n bwyta siocled drud neu’n gwylio pennod o beth bynnag yw’r obsesiwn Netflix ar y pryd. Os ydw i’n ysgrifennu bob dydd am wythnos, mi fydda i’n prynu llyfr neu’n llogi ffilm. Peidiwch â bod yn rhy galed arnoch chi eich hun os ydych chi’n methu dyddiau. Mae bywyd yn digwydd, ac mi fedrwch chi ddal i fyny mewn sesiynau ysgrifennu eraill.
Mae modd dweud yr un peth ar ddiwedd mis Tachwedd, os ydych chi’n brin o’r 50,000 gair. Cadwch mewn cof eich bod wedi gwneud cynnydd gyda’ch llyfr a dyna’r unig beth sydd o bwys.
Pob lwc ichi, awduron.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am Ysgrifennu Creadigol? Dysgwch fwy am ein cwrs gradd.