Byddwch yn Rhan Ohono
Byddwch yn Rhan o Rywbeth Mawr.
Mae llawer yn digwydd ym Mhrifysgol Wrecsam. Mae Prifysgol Wrecsam yn parhau i fod yn rhif un yng Nghymru a Lloegr ar gyfer Cynhwysiant Cymdeithasol am y chwerched flwyddyn yn olynol, ac mae wedi cael ei rhestru yn y 10 uchaf am Ansawdd Dysgu, yn Nghanllaw Prifysgolion Da The Times & Sunday Times 2024. Yn ogystal, mae ein datblygiadau Campws 2025 wedi golygu bod ein cyfleusterau wedi'u huwchraddio ac i roi lleoedd gwych i'n myfyrwyr ar y campws i ddysgu, astudio ac ymlacio.
Ac mae Wrecsam yn bendant yn lle gwych i fod. Gan bontio arfordir a chefn gwlad hyfryd Cymru gyda phrysurdeb bywyd dinas Gogledd Orllewin Lloegr, yma yn Wrecsam mae rhywbeth i bawb.
Byddwch yn Rhan o Wrecsam
Mae Wrecsam yn ffynnu - gan ei gwneud yn lle gwych i fyw, astudio a gweithio ynddo. O'n bariau a'n bwytai annibynnol, i'n cymdogion Hollywood iawn... mae llawer i'w archwilio, a llawer i'w garu.
Bydwch yn Rhan o PGW
Rydym yn buddsoddi yn ein campysau ac yn datblygu ein cyrsiau i ddarparu'r profiad myfyrwyr gorau yn PGW.
Ewch ar Daith
Prif Dderbynfa'r Daith
O'ch diwrnod cyntaf o ddysgu i raddio a thu hwnt, mae ein prif dderbynfa yn ganolbwynt i'n campws.
Ewch ar daith o’r Oriel
Mae'r Oriel yn fan dysgu cymdeithasol modern a chroesawgar, gyda thechnoleg o'r radd flaenaf, bythau eistedd cyfforddus a llawer o socedi codi tâl.
Ewch ar daith o Bentref Wrecsam
Mae Pentref Wrecsam yn cynnig llety pwrpasol, ar y campws i'n myfyrwyr. Mae pob fflat yn cynnwys 6-8 ystafell wely ac yn rhannu cegin fodern ac ardaloedd byw wedi'u dodrefnu'n llawn.