(Cwrs Byr) Arlunio

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
8 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r cwrs hwn yn cyfuno elfennau technegol arlunio â damcaniaethau ymarfer Celf Gain. Drwy hyn, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i sicrhau manwl gywirdeb technegol ar yr un pryd â datblygu dealltwriaeth nad yw arlunio wedi’i ddiffinio’n llwyr gan ffiniau dynwared.
Prif nodweddion y cwrs
- Darganfod egwyddorion technegol gwahanol wrth arlunio a dysgu defnyddio’r rhain wrth i chi ddarlunio bywyd llonydd.
- Theori Celf Gain wedi’i chynnwys er mwyn i dechneg a theori ddatblygu gyda’i gilydd.
- Cymryd rhan mewn trafodaethau.
- Datblygu eich doniau mewn ymarferion ymarferol a sesiynau sgiliau manylach mewn theori.
Beth fyddwch chin ei astudio
Cyflwynir myfyrwyr i'r canlynol:
- Ystod o egwyddorion technegol gan gynnwys persbectif, cyfansoddiad, tôn a ffurf.
- Amrywiaeth o gyfryngau a'u cymhwysiad priodol.
- Dadansoddi eu gwaith a gwaith eraill yn feirniadol i lywio eu hymarfer.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Addysgu ac Asesu
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu yn eu hwythnos olaf, gan gynhyrchu darn o waith terfynol ynghyd ag aseiniad llafar o'u dilyniant a'r defnydd o'r wybodaeth y maent wedi'i chaffael yn eu darn ymarferol. Bydd yr asesiad ar sail pasio a methu.
Ffioedd a chyllid
I ddarganfod y ffioedd mwyaf diweddar ar gyfer y cwrs hwn, anfonwch e-bost at shortcourses@wrexham.ac.uk.
Os ydych chi'n staff neu'n fyfyriwr yn prifysgol wrecsam presennol neu'n byw yng Nghymru, efallai y byddwch chi'n gymwys i gael gostyngiad neu hepgoriad ffi ar gyrsiau cymwys.
Cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk am fanylion pellach.
dyddiadau cyrsiau
Dyddiad Cychwyn:
- Dydd Llun 30 Mehefin 2025
Bydd y sesiynau yn rhedeg bob dydd llun rhwng 6:00yh a 8:00yh - campws stryt y rhaglaw