woman working on a laptop

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2025

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Ers y pandemig COVID-19, mae Cwnsela a Seicotherapi wedi mynd trwy newidiadau mawr o ran y ffordd y mae ymarferwyr yn gweithio gyda chleientiaid a hefyd o ran goruchwylio, gan symud oddi wrth sesiynau a gâi eu cyflwyno’n bennaf wyneb yn wyneb at gynnig amrywiaeth o opsiynau ar-lein a dros y ffôn.

Mae’r cwrs Cwnsela ar-lein a dros y ffôn a gyflwynir ym Mhrifysgol Wrecsam yn anelu at roi dealltwriaeth ddamcaniaethol i’r cyfranogwyr o’r modd y gellir gweithio trwy gyfrwng y dulliau hyn, yn ogystal â chynnig y sgiliau ymarferol angenrheidiol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno ar ffurf dau fodiwl 20 credyd, ar lefel 6. Ceir 30 o oriau cyswllt gyda thiwtor ar gyfer pob modiwl, a chyflwynir y cyswllt hwnnw ar ffurf darlithoedd ar-lein ac wyneb yn wyneb am 10 wythnos. Bydd y darlithoedd hynny’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau perthynol. Bydd y rhaglen yn cynnwys ymchwil gyfredol yn y maes hwn.
  • Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn meddu ar y sgiliau a’r gallu angenrheidiol i weithio gyda chleientiaid, ar-lein a dros y ffôn. Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rhai sydd wrthi’n ymarfer, pa un a ydynt yn hyfforddeion neu’n weithwyr proffesiynol cymwysedig.

Beth fyddwch chin ei astudio

Dros y 10 wythnos, byddwn yn ymdrin â’r pynciau canlynol:

•    Canfyddiadau Cwnselwyr/Cleientiaid o gwnsela ar-lein a dros y ffôn
•    Theori cwnsela ar-lein/dros y ffôn.
•    Contractio ac asesu
•    Rheoli risgiau
•    Cyfrifoldebau cyfreithiol a moesegol
•    Cyfathrebu dieiriau
•    Hunanofal i gwnselwyr
•    Y Dechrau a’r Diwedd
•    Goruchwylio
•    Meddalwedd ar-lein
•    Rhwydweithio cymdeithasol
•    Cyfrinachedd/Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Gofynion mynediad a gwneud cais

Bydd y modiwlau hyn yn addas i Gwnselwyr cymwysedig sy’n awyddus i ddatblygu eu gallu i weithio gyda chleientiaid mewn dulliau ac eithrio dulliau wyneb yn wyneb.

Addysgu ac Asesu

Mae pob modiwl yn cynnwys 2 asesiad – un aseiniad ysgrifenedig 2500 o eiriau yn ymwneud â moeseg neu asesiadau wrth weithio ar-lein neu dros y ffôn; a hefyd darn myfyriol 500 o eiriau lle bydd angen i’r myfyrwyr sôn am eu profiadau o weithio ar-lein / dros y ffôn. Nodir y dyddiadau cyflwyno yn llawlyfrau’r modiwlau – maent wedi’u lanlwytho ar Moodle.

Ffioedd a chyllid

£295