(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Ddadansoddi Data Meintiol a Sgiliau Adrodd ar gyfer Seicoleg
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
3 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno chi i amrywiaeth o ddulliau dadansoddi meintiol a ffyrdd i adrodd am y canlyniadau yn defnyddio dulliau fformatio APA o fewn Seicoleg. Bydd cynnwys y cwrs yn cynnwys ystod eang o brofion ystadegol megis profion-t, ANOVAs, dadansoddi cydberthnasau ac atchweliad.
Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno chi i amrywiaeth o ddulliau dadansoddi meintiol a ffyrdd i adrodd am y canlyniadau yn defnyddio dulliau fformatio APA o fewn Seicoleg. Bydd cynnwys y cwrs yn cynnwys ystod eang o brofion ystadegol megis profion-t, ANOVAs, dadansoddi cydberthnasau ac atchweliad.
Bydd myfyrwyr hefyd yn:
- cael trosolwg o'r ddamcaniaeth tu ôl i'r profion ac yna'n dysgu sut i wneud gwahanol fathau o ddadansoddi mewn SPSS.
• datblygu mewnwelediad i'r penderfyniadau tu ôl i ddefnyddio pob un o'r dadansoddiadau sy'n perthnasu i gwestiynau ymchwil gwahanol - dysgu sgiliau gwerthfawr am sut i adrodd am y dadansoddiad yn unol â fformat arddull APA a ddefnyddir o fewn Seicoleg
- cael profiad o gynnal gwahanol fathau o brofion ystadegol mewn meddalwedd dadansoddi ystadegol a chael cyfle i fyfyrio a gofyn cwestiynau yn ystod sesiynau ar-lein ar ddiwedd yr wythnos
Bydd y cwrs hwn yn:
- darparu lle i ddysgu am ddadansoddi data a chyfle i roi cynnig ar ddefnyddio'r sgiliau newydd hyn cyn cyflawni modiwlau dulliau ymchwil fel rhan o'r brif radd
Prif nodweddion y cwrs
- Profiad ac ymarfer pecynnau meddalwedd ystadegol a fydd yn berthnasol i ddadansoddi data ar gyfer Seicoleg megis SPSS
- Ennyn dealltwriaeth o'r ddamcaniaeth tu ôl i brofion ystadegol a sut mae hyn yn trosi i ddadansoddi ystadegol
- Datblygu trosolwg o wahanol fathau o ddadansoddi ystadegol a pham ein bod yn eu defnyddio mewn Seicoleg
- Dysgu sut i adrodd am ddarganfyddiadau o ddadansoddiad ystadegol ar gyfer Seicoleg yn unol â fformat APA
- Astudio am ddim a-lein
- Gall myfyrwyr weithio ar eu cyflymder eu hunain drwy gynnwys a recordiwyd ymlaen llaw bob wythnos a chael cyfle i drafod ymholiadau a gwybodaeth gyda'u cyfoedion a thiwtoriaid mewn sesiynau ar-lein ar ddiwedd yr wythnos
Beth fyddwch chin ei astudio
- Bydd sesiynau wedi'u recordio ac adnoddau dysgu'n cael eu rhyddhau bob dydd Llun
- Disgwylir i fyfyrwyr fynychu sesiwn Teams bob dydd Gwener ar gyfer seminar i drafod ac ymgysylltu â'r dysgu ar gyfer y pwnc wythnosol
- Hefyd, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau i gymryd rhan mewn gweithgareddau hunangyfeiriedig yn dilyn cyngor y tiwtor cwrs yn y recordiadau wythnosol. Bydd hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn ymgysylltu gyda'r pwnc a'r dysgu, a fydd yn cael eu trafod ymhellach yn y sesiwn seminar i gadarnhau ac egluro
- Bydd y cwrs yn mynd i'r afael ag ystod o brofion dadansoddi mewn profion-t. ANOVAs, dadansoddi cydberthnasau ac atchweliad. Bydd myfyrwyr yn cael trosolwg o'r ddamcaniaeth tu ôl i'r profion ac yna'n dysgu sut i wneud gwahanol fathau o ddadansoddi mewn SPSS a'r penderfyniad tu ôl i ddefnyddio pob un o'r dadansoddiadau sy'n berthnasol i'r cwestiynau ymchwil gwahanol. Yn ychwanegol bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau gwerthfawr am sut i adrodd am y dadansoddiad yn unol â fformat arddull APA a ddefnyddir o fewn Seicoleg
- Bydd myfyrwyr yn cael profiad o gynnal gwahanol fathau o brofion ystadegol mewn meddalwedd dadansoddi ystadegol a chael cyfle i fyfyrio a gofyn cwestiynau yn ystod sesiynau ar-lein ar ddiwedd yr wythnos
Gofynion mynediad a gwneud cais
Ymgeiswyr ar gyfer rhaglen MSc Newydd mewn Seicoleg Trosi a myfyrwyr BSc (Lefel 4 sy'n mynd ymlaen i 5, lefel 5 sy'n mynd ymlaen i 6) a myfyrwyr presennol MSc Seicoleg Trosi Prifysgol Wrecsam yn unig mae'r cwrs byr hwn ar hyn o bryd.
I fynnu eich lle, anfonwch e-bost i PostGrad.Psychology@glyndwr.ac.uk
Addysgu ac Asesu
- Portffolio o asesiad i asesu'r canlynol:
- 1. Ymwybyddiaeth o ddyluniadau ymchwil gwahanol a dadansoddi
- 2. Ymwybyddiaeth o ddefnyddio offer ymchwil megis SPSS neu Jamovi ar gyfer dadansoddi gwahanol
- Y marc llwyddo ar gyfer y cwrs yw 40%
- Mae hwn yn gwrs tair wythnos, a disgwylir i'r holl fyfyrwyr weithio ar gynnwys y cwrs yn ystod y cyfnod hwn
Rhagolygon gyrfaol
Ffioedd a chyllid
AM DDIM
Manyleb y rhaglen
Llety
Dyddiadau cwrs
Chwefror 27 – Mawrth 17 2023
Aseiniad: Mawrth 20 2023
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.