(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Ddylunio
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
9 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am ddylunio graffig? Os oes, bydd y cwrs byr hwn ym Prifysgol Wrecsam yn berffaith i chi. Bydd myfyrwyr yn dysgu am gysyniadau sylfaenol dylunio graffeg yn cynnwys i ddefnyddio pecynnau perthnasol meddalwedd Adobe.
Prif nodweddion y cwrs
- Yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu am gysyniadau dylunio graffeg.
- Bydd myfyrwyr yn astudio yr hanfodion lliw, teipograffeg a chynllun.
- Bydd yn cyflwyno myfyrwyr i becynnau perthnasol meddalwedd Adobe i helpu i gynhyrchu gwaith dylunio graffeg megis hysbysebion, logos neu bosteri.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal dros gyfnod o tua 9 wythnos ar ein Hysgol Celfyddydau Creadigol, 49-51 Regent Street, Wrecsam, gyda phwnc gwahanol yn cael i astudio bob wythnos.
- Wythnos 1 - Cyflwyniad - gwneud ymchwil ar arddulliau a fformatau
- Wythnos 2 - Cysyniad braslunio a sgiliau gosod - ymarfer braslunio a bloc-lythrennu
- Wythnos 3 - Teipograffeg - cyflwyniad i Illustrator
- Wythnos 4 - Eiconograffi - Darlunio gydag Illustrator
- Wythnos 5 - Cyflwyniad i hysbysebu a dylunio posteri - Cyflwyniad i InDesign
- Wythnos 6 - Damcaniaeth lliw - Gosod InDesign
- Wythnos 7 - Cyflwyniad i ddylunio logo - dylunio logo
- Wythnos 8 - Cyflwyniad i ddylunio golygyddol - dylunio set o dudalennau
- Wythnos 9 - Cyflwyniad (dewis o logos, golygyddol, neu friff poster)
Gofynion mynediad a gwneud cais
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.
Addysgu ac Asesu
Bydd y myfyrwyr yn cynhyrchu eu prosiect terfynol ar ffurf un ai logo, darn golygyddol neu friff poster. Bydd hyn yn dangos eu dealltwriaeth am y feddalwedd gyhoeddi berthnasol a sut i ddyfeisio strategaeth ddylunio graffeg.
Ffioedd a chyllid
£195
Staff a myfyrwyr cyfredol Prifysgol Wrecsam: Rhad ac am ddim
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Gwybodaeth am y cwrs
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.