A glacier melting into the ocean

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2025

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r cwrs yn rhoi cyflwyniad gwych i’r rheiny sydd eisiau dysgu mwy am newidiadau amgylcheddol a’r hyn sy’n ysgogi’r newidiadau hynny. Byddant yn dod i werthfawrogi pa weithgarwch gan bobl yn cyfrannu at hyn gan eu galluogi i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Prif nodweddion y cwrs

  • Astudio ar-lein gyda darlithoedd a gweithgareddau bob wythnos.
  • Archwilio amryw o newidiadau amgylcheddol yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol ynghyd ag effaith y newidiadau hynny.
  • Dysgu sut i wneud dewisiadau ffordd o fyw sy’n fwy cynaliadwy.

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Systemau corfforol y Ddaear: nitrogen, ffosfforws, carbon, cylchoedd dŵr.
  • Cadwyni bwyd, gweoedd a lefelau troffig.
  • Maethiad awtotroffig a heterotroffig.
  • Hinsawdd a biomau.
  • Newidiadau amgylcheddol o’r gorffennol: oesoedd iâ’r gorffennol, difodiant torfol, esblygiad a drifft cyfandirol.
  • Newidiadau amgylcheddol presennol: capiau iâ yn dadmer, lefelau’r môr yn codi, cynhesu môr ac
    asideiddio, llifogydd.
  • Newidiadau amgylcheddol presennol: patrymau tywydd cyfnewidiol, colli bioamrywiaeth.
  • Newidiadau amgylcheddol y dyfodol: tymereddau byd eang cynhesach, ailddosbarthu poblogaethau byd-eang.
  • Llygredd byd-eang, newid yn yr hinsawdd, allyriadau gwenwynig, llygredd lleol.
  • Cyflwyniadau estron: planhigion ac anifeiliaid.
  • Gor-gynaeafu: morol, mamaliaid, planhigion.
  • Colli cynefinoedd a darnio cynefinoedd: amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd, trefoli.
  • Twf poblogaeth: rhagfynegiadau o'r gorffennol, presennol a’r dyfodol.

Disgwylir i fyfyrwyr ymuno â’r ddarlith ar-lein ac mae gweithgareddau dosbarth yn cychwyn yn wythnosol ar nosweithiau Mercher. Ni fydd unrhyw waith cartref na gwaith rheolaidd i’w gwblhau y tu hwnt i’r dosbarth, fodd bynnag, rhoddir darllen pellach a gall fyfyrwyr ddewis gwneud hyn. 

Gofynion mynediad a gwneud cais

If you would like to find out more about future dates for this course, register your interest.

Addysgu ac Asesu

Asesir Canlyniadau 1 a 2 drwy Gwestiynau Dewis Lluosog a bydd myfyrwyr yn cael 60 munud i gwblhau’r gwaith. Bydd hyn yn ffurfio’r 50% sy’n weddill o’u gradd asesu. Cynhelir hyn ar ddiwedd y cwrs.

Bydd Canlyniad 3 yn cael ei asesu drwy waith cwrs parhaus (ar ffurf taflenni gwaith) a bydd myfyrwyr yn cael tan ddiwedd y cwrs i gwblhau’r gwaith. Bydd gan y cwrs nifer geiriau sy’n cyfateb i 100 gair a bydd yn ffurfio'r 50% sy’n weddill o’u gradd asesu.

Ffioedd a chyllid

£95

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Course dates

If you would like to find out more about future dates for this course, register your interest.