(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Sgiliau Astudio ar gyfer Seicoleg

Group of students

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2025

Hyd y cwrs

2 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr MSc Trosi Newydd sydd heb astudio Seicoleg cyn hyn gan ei fod yn mynd i'r afael â sgiliausy'n cynnwys ymwybyddiaeth o adolygu llenyddol, sgiliau ysgrifennu, adnoddau cyfeirnodi ac ystyriaethau moesegol.

Bydd y cynnwys yn:

  • mynd i'r afael â dulliau ysgrifennu ar gyfer gwahanol fathau o aseiniadau o fewn seicoleg megis adroddiadau ymchwil a thraethodau fydd yn cynnwys cryn dipyn o sgiliau meddwl yn feirniadol, ynghyd â thempledi enghreifftiol
  • mynd i'r afael â dulliau cyfeirnodi penodol a ddefnyddir o fewn Seicoleg megis APA ac offer a all gynorthwyo hyn

Prif nodweddion y cwrs

  • Cyfle i ddatblygu gwybodaeth am sgiliau astudio penodol ar gyfer seicoleg megis ysgrifennu adroddiadau ymchwil a thraethodau, chwilio am adolygu llenyddiaeth, ystyriaethau moesegol, a defnyddio erthyglau cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid, sgiliau academaidd ar gyfer ysgrifennu a chyfeirnodi mewn fformat APA
  • Datblygu trosolwg o offer cyfeirnodi megis Mendeley
  • Ennyn dealltwriaeth o’r hyn yw gonestrwydd academaidd
  • Dysgu mwy am ein hadnoddau prifysgol ehangach a sut y mae'r rhain yn berthnasol i fyfyrwyr Seicoleg
  • Gall myfyrwyr weithio ar eu cyflymder eu hunain drwy gynnwys a recordiwyd ymlaen llaw bob wythnos a chael cyfle i drafod ymholiadau a gwybodaeth gyda'u cyfoedion a thiwtoriaid mewn sesiynau ar-lein ar ddiwedd yr wythnos
  • Astudio am ddim ar-lein
 
 

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Mae hwn yn gwrs pythefnos, a disgwylir i'r holl fyfyrwyr weithio ar gynnwys y cwrs yn ystod y cyfnod hwn
  • Bydd sesiynau wedi'u recordio ac adnoddau dysgu'n cael eu rhyddhau bob dydd Llun
  • Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau astudio hanfodol ar gyfer seicoleg, yn cynnwys ymwybyddiaeth o adolygiad llenyddol, sgiliau ysgrifennu, adnoddau cyfeirnodi ac ystyriaethau moesegol
  • Disgwylir i fyfyrwyr fynychu sesiwn Teams bob dydd Gwener ar gyfer seminar i drafod ac ymgysylltu â'r dysgu ar gyfer y pwnc wythnosol
  • Hefyd, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau i gymryd rhan mewn gweithgareddau hunangyfeiriedig yn dilyn cyngor y tiwtor cwrs yn y recordiadau wythnosol. Bydd hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn ymgysylltu gyda'r pwnc a'r dysgu, a fydd yn cael eu trafod ymhellach yn y sesiwn seminar i gadarnhau ac egluro
 
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Ymgeiswyr ar gyfer rhaglen MSc Seicoleg trosiad a myfyrwyr Trosiad presennol.

I fynnu eich lle, e-bostiwch PostGrad.Psychology@glyndwr.ac.uk

 
 

Addysgu ac Asesu

  • Portffolio o asesiad i asesu'r canlynol:
    • 1. Ymwybyddiaeth o strwythur traethawd, adroddiad ymchwil a chynnig ymchwil
    • 2. Ymwybyddiaeth o chwilio llenyddiaeth, defnyddio offer cyfeirnodi megis Mendeley, a thechnoleg ar gyfer hunan ddysgu
    • 3. Ymwybyddiaeth o foeseg mewn seicoleg
  • Y marc llwyddo ar gyfer y cwrs yw 40%
 
 

Rhagolygon gyrfaol

 

 
 

Ffioedd a chyllid

AM DDIM

 
 

Manyleb y rhaglen

 

 
 

Llety

 

 
 

Dyddiadau cwrs

Chwefror 6 - 17 2023 

Aseiniad: Chwefror 20 2023

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.