Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2025

Hyd y cwrs

9 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r dosbarth min nos yma yn cynnwys cyflwyniad fforddiadwy a phleserus i rai o brif dechnegau gwneud printiau mewn stiwdio.

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae’r dosbarthiadau yn rhai bychain gan ganiatáu mynediad da i staff a chyfleusterau.
  • Yn dilyn arddangosiad o dechneg printio a chyflwyniad i drin deunyddiau ac offer yn ddiogel, fe’ch anogir i archwilio eich syniadau ar gyfer cynhyrchu delweddau.
  • Mae’r cwrs yn addas ar gyfer pobl gydag ychydig neu ddim profiad o wneud printiau.

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i rai o brosesau gwneud printiau yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Prifysgol Wrecsam. Bydd y cyfranogwyr yn dysgu gwneud printiau intaglio a cherfwedd; monoprint; torlunio pren; colagraff, ysgythru sych a thorri leino. Cewch arweiniad i gynhyrchu eich syniadau dylunio unigol eich hun gan ddefnyddio dulliau abrofol a arweinir gan arddangosiadau o brint mewn ymarfer.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y dyddiad cau ar gyfer cadw lle ar y cwrs hwn yw wythnos cyn y dyddiad dechrau.

Addysgu ac Asesu

Gall y portffolio o waith a gasglwyd yn ystod y cwrs byr gael ei gyflwyno i’w asesu, gan ddarparu 10 credyd AU. 

Ffioedd a chyllid

I ddarganfod y ffioedd mwyaf diweddar ar gyfer y cwrs hwn, anfonwch e-bost at shortcourses@wrexham.ac.uk.

Os ydych chi'n staff neu'n fyfyriwr yn prifysgol wrecsam presennol neu'n byw yng Nghymru, efallai y byddwch chi'n gymwys i gael gostyngiad neu hepgoriad ffi ar gyrsiau cymwys.

Cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk am fanylion pellach.

Dyddiadau’r cwrs

Ar hyn o bryd nid oes dyddiadau cychwyn ar gyfer y cwrs hwn.   

Os hoffech gael eich ychwanegu at restr ymholiadau fel y gellir cysylltu â chi pan fydd dyddiadau newydd yn cael eu cadarnhau cofrestrwch eich diddordeb.