Datblygu Rhagnodi Cymdeithasol

Manylion cwrs
Hyd y cwrs
6 wythnos
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae polisi a deddfwriaeth yng Nghymru yn cydnabod fwy a mwy yr angen am gysylltu unigolion â ffynonellau cymorth anfeddygol yn y gymuned a gwerth hynny er mwyn hyrwyddo a gwella iechyd a lles. Mae hyn wrth wraidd rhagnodi neu bresgripsiynu cymdeithasol.
Prif nodweddion y cwrs
- Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad o ragnodi cymdeithasol ac a fyddai’n hoffi datblygu eu gyrfa yn y maes hwn neu sydd am wella neu ddatblygu’r gwasanaeth y maent yn gweithio ynddo.
- Bydd y cwrs yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o elfennau cyd-destunol, damcaniaethol a chymhwysol yn ymwneud â rhagnodi cymdeithasol, o gamau cynnar ymgysylltu â’r gymuned i werthuso llwyddiant rhaglenni.
- Caiff y cwrs ei addysgu trwy gyfres o weithdai rhyngweithiol, a fydd yn cynnwys sleidiau darlithoedd, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp.
- Cewch gymorth gyda thasgau a gwaith darllen annibynnol, ynghyd â thiwtorialau unigol fel y bo’n briodol a chael deunyddiau ar-lein trwy’r amgylchedd dysgu rhithwir.
Beth fyddwch chin ei astudio
- Cyflwyniad i fodelau iechyd meddygol a chymdeithasol
- Tirwedd wleidyddol a deddfwriaethol ar gyfer rhagnodi cymdeithasol
- Modelau rhagnodi cymdeithasol
- Ymgysylltiad cymunedol
- Gweithgareddau rhagnodi cymdeithasol
- Gwerthuso cynlluniau rhagnodi cymdeithasol
- Y daith o asesu angen at werthuso llwyddiant
Addysgu ac Asesu
Ar ddiwedd y cwrs bydd myfyrwyr yn dangos beth maen nhw wedi dysgu mewn astudiaeth achos rhagnodi.
Ffioedd a chyllid
£295
dyddiadau cyrsiau
17 Ebrill 2023 - 6 wythnos
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.