(Cwrs Byr) Ffiniau Hanesyddol: O Fur Hadrian i'r Ffin Rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico

Manylion cwrs
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni, mae trafodaethau am ffiniau ac ardaloedd ar y ffin yn dod yn fwy a mwy perthnasol. Ymunwch â’n cwrs i ddysgu mwy ynghylch sut y mae’r materion hyn wedi cael eu trin a’u trafod yn y gorffennol a sut y gall hyn helpu i lywio ein dyfodol.
Prif nodweddion y cwrs
- Ystyried cyfres o astudiaethau achos yn ymwneud â ‘ffin’, gan amrywio yn ddaearyddol ac yn gronolegol – o Fur Hadrian i’r ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico – ynghyd â’u heffaith ar gymdeithas a diwylliant.
- Pwyslais ar werthuso ffynonellau a meddwl yn feirniadol.
- Llwybr gwych ar gyfer astudio pellach, yn enwedig i’n rhaglen BA (Anrh) Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol.
Beth fyddwch chin ei astudio
Byddwch yn dysgu am leoli ffiniau, gororau a rhwystrau llinellol mewn amser a lle a bydd cyfle i chi archwilio materion nid yn unig ar raddfa leol, ond hefyd ar raddfa ryngwladol.
- Mur Hadrian a ffiniau Rhufeinig ym Mhrydain.
- Clawdd Offa a Chlawdd Wat: Gwaith ffin yr Oesoedd Tywyll ar y Gororau Cymreig.
- Wal Fawr Tsieina: ffin amddiffynedig yn Asia.
- Wal Berlin a Ffens y Ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico: atebion modern i her oesol?
Addysgu ac Asesu
Asesir myfyrwyr trwy bortffolio a fydd yn dogfennu'r gweithgareddau a gyflawnir yn ystod y cwrs. Bydd y rhain yn cynnwys ymarferion ar ffynonellau ysgrifenedig a dadansoddiad o dystiolaeth weledol a dogfennol.
Bydd y portffolio hefyd yn ystyried adroddiadau cyfoes o agweddau cadarnhaol a negyddol ffiniau a ffiniau.
Ffioedd a chyllid
£150
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.