(Cwrs Byr) GDPR: Ei ddeall a'i ddefnyddio

Manylion cwrs
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yw'r rheoliad diogelu data newydd ar gyfer y Deyrnas Unedig. Pan ddaeth i rym ym mis Mai 2018, rhoddodd fwy o reolaeth a dewis i ddinasyddion dros sut y defnyddir eu data. Mae'n rhaid i bob sefydliad sy'n prosesu data personol gydymffurfio â'r GDPR.
- Ymunwch â'r cwrs hwn i ddysgu mwy am sut y mae'r rheoliad newydd yn effeithio arnoch chi fel unigolyn, yn ogystal â deall sut fydd angen i'ch cwmni neu ddiwydiant addasu i gydymffurfio â'r rheoliad.
- • Cynlluniwyd y cwrs hwn gan gyn Bennaeth Polisi Technoleg Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Yr ICO).
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y modiwl hwn yn ymdrin â'r canlynol:
- Yr hawliau sydd gan unigolion.
- Y sail gyfreithiol y bydd sefydliad yn ei defnyddio i brosesu data personol.
- Siwdo-anhysbysu.
- Asesiadau Effaith Diogelu Data.
- Data categori arbennig.
- Preifatrwydd drwy ddylunio a rhagosod.
Bydd y cwrs hefyd yn ymdrin â sut y mae'r GDPR yn gysylltiedig â'r PECR (Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig). Mae'r PECR yn eistedd ochr yn ochr â'r Ddeddf Diogelu Data a'r GDPR. Maent yn rhoi hawliau preifatrwydd penodol i bobl mewn perthynas â chyfathrebu electronig.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Addysgu ac Asesu
Bydd yr astudiaeth achos drwy ddatblygiad y DPIA, ble bydd myfyrwyr yn cael tasg mewn sesiynau tiwtora ac yn cynhyrchu ac yn adnabod yr angen am DPIA, gan ddisgrifio natur prosesu ac asesu angen a chymesuredd asesiadau effaith diogelu data. Bydd hyn yn cael ei gwblhau gan brawf o fewn y dosbarth, gan archwilio dealltwriaeth p derminoleg a’r defnydd o GDPR.
Ffioedd a chyllid
£195
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau cyrsiau
Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.
Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.
Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes