(Cwrs Byr) Gwneud Printiau Gartref
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
4 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Chwilio am rywbeth i’w wneud? Tybed hoffech chi roi cynnig ar grefft newydd yn eich cartref ac archwilio eich ochr greadigol? Beth am droi eich llaw at wneud printiau a dechrau dylunio eich cardiau eich hun, printiau ar gyfer defnydd ayyb.
Prif nodweddion y cwrs
- Astudio ar-lein yn eich amser eich hun.
- Cewch becyn dechreuwyr gydag offer sylfaenol ar gyfer eich astudiaethau.
- Creu portffolio o’ch dyluniadau print eich hun.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno a defnyddio pedair techneg wahanol, gan gynnwys:
- Monoteip a Mono argraffu
- Argraffu serigraff (stensil)
- Ceugerfio sychbwynt
- Argraffu cerfwedd
Bydd pob techneg yn cynnwys cyflwyniad i'r broses dechnegol, archwiliad cryno o'r arferion hanesyddol a chyfoes a fideo yn cyd-fynd â thaflen dechnegol.
Bydd 1 wythnos yn cael ei threulio ar bob techneg a byddwch yn cael pecyn dechrau gydag offer sylfaenol pan ydych yn cofrestru ar y cwrs.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae’r cwrs yn amodol ar isafswm o gyfranogwyr a bydd taliadau yn cael eu had-dalu'n llawn os na fydd y cwrs yn recriwtio’r isafswm yma.
Addysgu ac Asesu
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn creu portffolio unigol o waith er mwyn arddangos eich dealltwriaeth o'r technegau yr ydych wedi eu dysgu ac yn arddangos enghreifftiau o'ch gwaith ymarferol.
Eich dewis chi yw sut i ffurfio eich portffolio, a gallwch ddefnyddio sawl ffurf wahanol er enghraifft fideos, lluniau, darluniau neu gyflwyniad PowerPoint ac mae'n rhaid i'r portffolio hefyd gynnwys tystiolaeth o'r canlynol:
- Y gallu i ddefnyddio o leiaf tair techneg argraffu gan ddefnyddio offer elfennol sydd ar gael i chi.
- Y gallu i ddarparu canlyniadau addas.
- Gwerthusiad o'ch llwyddiannau a'ch methiannau
Ffioedd a chyllid
£45
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau'r cwrs
Yn dechrau ar Ionawr 31 2023
Dyddiadau cychwyn dyfodol:
- Ebrill 18 2023
- Mehefin 27 2023
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.