Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

1 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

A ydych chi erioed wedi ystyried hyfforddi o fewn ysgol? Bydd y cwrs byr hwn yn eich cyflwyno at nifer o rolau wrth ddarparu Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgol (PESS).

Bydd y cwrs yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i allu cefnogi'r ddarpariaeth o Addysg Gorfforol a gweithgareddau chwaraeon mewn amgylchedd chwaraeon mewn ysgol. Wrth i'r cwrs gael ei gynnig drwy gyfrwng PESS, efallai y defnyddir y sgiliau gan ddysgwyr sy'n awyddus i weithio mewn rolau chwaraeon eraill, megis hyfforddi.

Prif nodweddion y cwrs

Mae'r tîm yn falch o gynnig strategaethau dysgu arloesol a chreadigol sydd yn manteisio ar dechnolegau a dulliau newydd wedi eu dylunio i roi i chi'r sgiliau hanfodol i lwyddo wrth gwblhau eich cymhwyster.  Rydym yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o fusnesau ac asiantaethau i barhau i ddatblygu cyfleoedd ychwanegol i'n holl ddysgwyr ym mhob cam o'r cwrs hwn.

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Deall y brif ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig ag Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgol
  • Egwyddorion Dysgu Addysg Gorfforol a Hyfforddi
  • Egwyddorion Arferion Diogel mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol
  • Egwyddorion Datblygiad Plant drwy Symudiad
  • Archwilio'r pwysigrwydd o gynllunio arferion diogel
  • Paratoi ar gyfer Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol
  • Arwain Gweithgareddau Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol
  • Hyrwyddo iechyd a llesiant gydol oes
  • Cyflwyniad i Lythrennedd Corfforol

Yn ogystal â hyn, bydd myfyrwyr yn cael 1 diwrnod llawn o ddysgu ymarferol wyneb yn wyneb.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y dyddiad cau ar gyfer y cwrs yma yw wythnos cyn y dyddiad dechrau'r cwrs. 

Addysgu ac Asesu

Bydd pob myfyriwr yn creu portffolio yn darparu tystiolaeth o wybodaeth mewn perthynas â'r amgylchedd chwaraeon ac yn ffocysu ar faterion sy'n berthnasol â galluoedd proffesiynol ac ymarfer myfyriol.  Yn ogystal â hyn, bydd pob myfyriwr y cynnal sesiwn addysgu 20 munud i arddangos eu gwybodaeth wrth gefnogi dysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgol.

Ffioedd a chyllid

Am ddim.

Dyddiadau'r cwrs

Os ydych chi am ddarganfod mwy am ddyddiadau'r cwrs hwn yn y dyfodol, cofrestrwch eich diddordeb.