(Cwrs Byr) Japaneg
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
13 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae dysgu unrhyw iaith newydd yn brofiad gwerth chweil, llawn hwyl. Ac nid yw dysgu Sbaeneg yn eithriad. Mae astudio Japaneg yn golygu dysgu iaith sydd mor wahanol i'r Saesneg felly gwneud ichi ailfeddwl am eich rhagdybiaethau mwyaf sylfaenol am sut mae iaith yn gweithio.
Prif nodweddion y cwrs
- Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r iaith.
- Dysgu gwybodaeth sylfaenol am y Sbaeneg.
- Ymarfer eich sgiliau gwrando a siarad.
- Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn derbyn 20 credyd HE y DU (10 ECTS)
Beth fyddwch chin ei astudio
Wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn medru:
- cyfathrebu a chyfnewid gwybodaeth mewn ffordd syml
- dangos dealltwriaeth a defnyddio ymadroddion cyfarwydd bob dydd ac ymadroddion sylfaenol iawn
- cyflwyno eu hunain
- gofyn ac ateb cwestiynau am wybodaeth bersonol fel lle mae rhywun yn byw, beth mae rhywun yn ei wneud ar gyfer bywoliaeth ac ati
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Y dyddiad cau ar gyfer cadw lle ar y cwrs hwn yw wythnos cyn y dyddiad dechrau.
Addysgu ac Asesu
Mae'r asesiad yn cynnwys y tasgau a restrir isod:
• sgiliau sgwrsio: defnyddio 3 enghreifftiau byr o natur bob dydd a tthrafodaeth rydd
• sgiliau ysgrifennu: testun byr, er enghraifft, cerdyn post neu lythyr
• sgiliau darllen: darllen a deall testun byr ac ateb cwestiynau yn Saesneg
• sgiliau gwrando: gwrando ar ddeunydd sain ac ateb cwestiynau am y deunydd yn Saesneg
Dyddiadau'r cwrs
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.