Football coaching students

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2025

Hyd y cwrs

10 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae mentora yn un o egwyddorion craidd addysg hyfforddi chwaraeon. Mae’r cwrs hwn yn rhoi modd i chi ddatblygu eich mentora i fod yn adnodd ar gyfer cefnogi datblygu gwybodaeth, sgiliau a chyflwyniad ymarferwyr.

Prif nodweddion y cwrs

Beth fyddwch chin ei astudio

O fewn y modiwl, bydd myfyrwyr yn archwilio’r egwyddorion damcaniaethol o fewn ymarfer mentora hyfforddwyr, cyfathrebu ac adborth fel mentor yn ogystal â phryd i herio neu gefnogi hyfforddwyr.

Bydd y cwrs yn helpu i ddarparu'r set sgiliau a'r gallu i gefnogi hyfforddwyr yn yr amgylchedd cymhwysol. Yn ei dro, bydd hyn o fudd i ddarpariaeth gyffredinol yr hyfforddwyr ac o ganlyniad yn helpu i ddatblygu perfformiad y chwaraewyr.

 

Addysgu ac Asesu

Asesiad Llafar

Bydd y myfyriwr yn cael eu cyflwyno â senario hyfforddi pêl-droed cymhwysol damcaniaethol gyda deunydd ategol.

Bydd y senario’n tynnu sylw at y canlynol:

  • Pwnc y sesiwn
  • Oed a nifer y chwaraewyr sy’n cymryd rhan
  • Lefel y perfformiad
  • Profiad yr hyfforddwr (cymwysterau presennol etc.)

Yna bydd y myfyriwr yn defnyddio ymchwil a theori gyfoes i drafod sut y byddant yn gweithredu fel mentor o fewn y senario, gan dynnu ar y cysyniadau a’r egwyddorion y tafodwyd yn y modiwl

Traethawd

Yn ystod y cwrs bydd y myfyrwyr yn defnyddio’r ymarfer ddamcaniaethol yn eu hamgylchedd eu hunain. Bydd y traethawd yn disgrifio profiad mentora ymarferol y myfyriwr, gan gysylltu’r theori gyda’u harfer eu hunain a thynnu sylw at eu cryfderau personol a meysydd i’w datblygu a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol.

Ffioedd a chyllid

Am ddim

dyddiadau cyrsiau

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.