(Cwrs Byr) Mentora Hyfforddwyr mewn Pêl-droed
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2024, 2025
Hyd y cwrs
10 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae mentora yn un o egwyddorion craidd addysg hyfforddi chwaraeon. Mae’r cwrs hwn yn rhoi modd i chi ddatblygu eich mentora i fod yn adnodd ar gyfer cefnogi datblygu gwybodaeth, sgiliau a chyflwyniad ymarferwyr.
Prif nodweddion y cwrs
- Cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau mentora drwy gefnogi eu cyd-fyfyrwyr.
- Astudio am ddim.
- Llwybr gwych i’n rhaglen BSc (Anrh) Hyfforddi Pêl-droed a’r Arbenigwr Perfformiad.
Beth fyddwch chin ei astudio
O fewn y modiwl, bydd myfyrwyr yn archwilio’r egwyddorion damcaniaethol o fewn ymarfer mentora hyfforddwyr, cyfathrebu ac adborth fel mentor yn ogystal â phryd i herio neu gefnogi hyfforddwyr.
Bydd y cwrs yn helpu i ddarparu'r set sgiliau a'r gallu i gefnogi hyfforddwyr yn yr amgylchedd cymhwysol. Yn ei dro, bydd hyn o fudd i ddarpariaeth gyffredinol yr hyfforddwyr ac o ganlyniad yn helpu i ddatblygu perfformiad y chwaraewyr.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.
Addysgu ac Asesu
Asesiad Llafar
Bydd y myfyriwr yn cael eu cyflwyno â senario hyfforddi pêl-droed cymhwysol damcaniaethol gyda deunydd ategol.
Bydd y senario’n tynnu sylw at y canlynol:
- Pwnc y sesiwn
- Oed a nifer y chwaraewyr sy’n cymryd rhan
- Lefel y perfformiad
- Profiad yr hyfforddwr (cymwysterau presennol etc.)
Yna bydd y myfyriwr yn defnyddio ymchwil a theori gyfoes i drafod sut y byddant yn gweithredu fel mentor o fewn y senario, gan dynnu ar y cysyniadau a’r egwyddorion y tafodwyd yn y modiwl
Traethawd
Yn ystod y cwrs bydd y myfyrwyr yn defnyddio’r ymarfer ddamcaniaethol yn eu hamgylchedd eu hunain. Bydd y traethawd yn disgrifio profiad mentora ymarferol y myfyriwr, gan gysylltu’r theori gyda’u harfer eu hunain a thynnu sylw at eu cryfderau personol a meysydd i’w datblygu a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol.
Ffioedd a chyllid
Am ddim
dyddiadau cyrsiau
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.