(Cwrs Byr) Mynediad Gemau: Celf Gysyniadol

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
6 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dylunio ar gyfer y diwydiant gemau cyfrifiadurol ac mae'n darparu blas o'r hyn a gynigwn ar ein cyfres o gyrsiau Gemau Cyfrifiadurol, felly pam na wnewch chi roi cynnig arni.
Prif nodweddion y cwrs
Mynediad Gemau: Celf Gysyniadol - Wrexham Glyndŵr University
- Mae'r diwydiant Gemau Cyfrifiadurol yn ddiwydiant prysur sydd werth biliynau bob blwyddyn. Bydd y cwrs byr hwn yn eich cyflwyno i arferion cyfredol y diwydiant a llifau gwaith dylunio a ddefnyddir gan stiwdios gemau yn y diwydiant modern.
- Bydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau artistig mewn modd sy'n canolbwyntio mwy ar gemau gyda pherthnasedd i Gelf a Dylunio Gemau.
- Bydd yn eich galluogi i weithio ar eich portffolio eich hun o waith creu a dylunio. Gallwch hefyd yn gallu dangos i ddarpar gyflogwyr yn y diwydiannau gemau fideo a dylunio.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mynediad Gemau: Celf Gysyniadol - Wrexham Glyndŵr University
Addysgu ac Asesu
Mynediad Gemau: Celf Gysyniadol - Wrexham University
- Bydd asesu ar gyfer y modiwl hwn yn seiliedig ar y portffolio parhaus o waith a grëir drwy gydol y cwrs.
- Bydd disgwyl i fyfyrwyr adolygu/myfyrio ar a/neu anodi eu gwaith o fewn eu portffolio a chynhyrchu'r portffolio hwn fel prosiect unigol.
- Dylid cyflwyno'r darn asesu olaf fel llif gwaith unigol sy'n arddangos y daith ddylunio a gallai fod ar ffurf blog neu mewn fformat PDF.
Ffioedd a chyllid
£95 yw'r ffi safonol
Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cais am hepgor ffioedd bydd hyn yn mynd at ein tîm ariannu i’w brosesu, ac yna byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i roi gwybod i chi a ydych yn gymwys ai peidio i gael hepgor eich ffioedd..
Os ydych yn gymwys, byddwn wedyn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi sut i sicrhau eich lle ar y cwrs..
* Sylwch mai dim ond i fyfyrwyr sy'n astudio 30 credyd neu lai mewn blwyddyn academaidd y mae'r hepgoriad ffi ar gael. Os byddwch yn dechrau astudio ymhellach yn ystod y flwyddyn academaidd hon, a fydd yn mynd a chi dros 30 credyd, gall hyn olygu dileu'r hepgoriad ffioedd ac efallai y codir tâl arnoch am y cwrs byr.
Dyddiadau'r cwrs
Dyddiad Cychwyn: Dydd Llun 16 Mehefin 2025 - Archebwch Nawr
Bydd y sesiynau wyneb yn wyneb yn rhedeg bob dydd llun rhwng 09:00 - 16:00 -Campws Wrecsam