(Cwrs Byr) Rheoli Heriau AD mewn Gweithle sy’n Datblygu

Manylion cwrs
Hyd y cwrs
4 wythnos
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y cwrs Rheoli Newid a Newid Sefydliadol yn cynnig dull strwythuredig i fyfyrwyr o gefnogi unigolion wrth iddynt a'u sefydliadau lywio'r newidiadau sy'n ofynnol i greu momentwm mewn amgylchedd busnes dyrys.
Prif nodweddion y cwrs
- Deall heriau AD ac archwilio arferion rheoli AD sy'n dod i'r amlwg.
- Dysgwch sgiliau i adnabod a rheoli'r heriau hyn a chynyddu eich gallu i fynd i'r afael â heriau AD lluosog ar unwaith
- Ennill yr offer a'r technegau sydd eu hangen i ymateb yn fwy effeithlon i weithle sy'n esblygu.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â'r canlynol:
- Cyflwyniad i reoli heriau AD mewn gweithle sy’n datblygu
- Datblygu ystwythder i weithredu strategaethau addasol AD yn y gweithle
- Rheoli cylch gwaith y gweithiwr sy’n datblygu mewn gweithle sy’n datblygu
- Goblygiadau a gweithrediad strategaethau addasol AD yn y gweithle
Bydd dilyn y cwrs hwn yn golygu:
- 16 awr o Oriau Dysgu ac Addysgu wedi’u hamserlennu
- 2 awr o ddosbarthiadau Ymarferol
- 82 awr o Astudiaeth Annibynnol dan Arweiniad
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Addysgu ac Asesu
Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau fforwm trafod ar-lein ar bob pwnc a gyflwynir yn wythnosol. Bydd y fforymau yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio a dangos yr hyn a ddysgwyd. Bydd log dysgu a myfyrdodau myfyrwyr ar drafodaethau am y pynciau gwahanol bob wythnos yn cyfuno i greu’r asesiad. Y lleiafswm ar gyfer cyfanswm y nifer geiriau yw 2,000 o eiriau.
Ffioedd a chyllid
£50
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau'r cwrs
Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.
Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.
Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes