(Cwrs Byr) Rheoli Tîm Hybrid

Manylion cwrs
Hyd y cwrs
4 wythnos
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y cwrs hwn yn cynnig dull strwythuredig i fyfyrwyr o gefnogi unigolion wrth iddyn nhw a'u sefydliadau drawslinio’r heriau cyfredol o amgylchedd busnes sy’n newid yn gyflym lle mae gofyn i arweinwyr busnes gyfathrebu’n effeithiol i osgoi gwrthdaro a rheoli diwylliant sefydliadol ystwyth.
Mae deall beth yw’r rhwystrau i gyfathrebu gwych ac archwilio rhai o’r arferion rheoli hybrid sy’n dechrau ymddangos yn faes gwybodaeth a sgìl allweddol mewn oes lle mae sefydliadau yn wynebu newidiadau mawr, cymhleth a rhyngddibynnol lle mae'r hyn oedd yn sicr yn nhermau modelau busnes, grymoedd y farchnad a galluoedd doniau sy'n ofynnol bellach yn ofer. Drwy ddysgu sgiliau i reoli tim hybrid bydd myfyrwyr yn gallu cynyddu eu gallu i gyflwyno rheolaeth tim hybrid effeithiol, a rhoi i'w sefydliad yr offer a'r technegau sy'n ofynnol i ymateb yn fwy effeithlon i hwyluso gwaith yn y swyddfa ac o bell eu gweithwyr.
Prif nodweddion y cwrs
- Wedi'i gyflwyno'n gyfan gwbl ar-lein
- Bydd y cynnwys ar ffurf darlithoedd wedi'u recordio, a deunyddiau dysgu fel dolenni i fideos a darllen pellach
- Mae fforymau trafod a fforymau deialog byw yn rhan o'r cwrs i ysgogi meddwl
Beth fyddwch chin ei astudio
- Cyflwyniad i Reoli Tîm Hybrid
- Manteision a heriau defnyddio model gweithio hybrid
- Tyfu a chadw diwylliant o gwmni gyda gweithlu sydd ar chwâl
- Sut i weithredu model gweithio hybrid yn llwyddiannus.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk
Addysgu ac Asesu
Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau fforwm trafod ar-lein ar bob pwnc a gyflwynir yn wythnosol. Bydd y fforymau yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio a dangos yr hyn a ddysgwyd. Bydd log dysgu a myfyrdodau myfyrwyr ar drafodaethau am y pynciau gwahanol bob wythnos yn cyfuno i greu’r asesiad. Y lleiafswm ar gyfer cyfanswm y nifer geiriau yw 2,000 o eiriau.
Bydd dilyn y cwrs hwn yn golygu:
- 16 awr o Oriau Dysgu ac Addysgu wedi’u hamserlennu
- 2 awr o ddosbarthiadau Ymarferol
- 82 awr o Astudiaeth Annibynnol dan Arweiniad
Ffioedd a chyllid
£50
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau'r cwrs
I gael ei gadarnhau