(Cwrs Byr) Sylfaen Rhagnodi Cymdeithasol
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
8 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae polisi a deddfwriaeth yng Nghymru yn cydnabod fwy a mwy yr angen am gysylltu unigolion â ffynonellau cymorth anfeddygol yn y gymuned a gwerth hynny er mwyn hyrwyddo a gwella iechyd a lles. Mae hyn wrth wraidd rhagnodi neu bresgripsiynu cymdeithasol.
Prif nodweddion y cwrs
- Bydd y cwrs yn cyflwyno’r wybodaeth a’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i weithio ym maes rhagnodi cymdeithasol, gan gynnwys:
- Elfennau cyd-destunol; megis y cefndir gwleidyddol a deddfwriaethol, beth yw rhagnodi cymdeithasol a sut mae’n gweithio.
- Elfennau damcaniaethol; megis deall ymddygiadau iechyd a newid mewn ymddygiad.
- Elfennau cymhwysol; megis ymddygiad proffesiynol, cyfweld i ysgogi a dulliau sy’n canolbwyntio ar atebion.
- Caiff y cwrs ei addysgu trwy gyfres o weithdai rhyngweithiol, a fydd yn cynnwys sleidiau darlithoedd, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp.
- Rhoddir cymorth â thasgau a gwaith darllen annibynnol, ynghyd â thiwtorialau unigol fel y bo’n briodol a rhoddir deunyddiau ar-lein trwy’r amgylchedd dysgu rhithwir.
Beth fyddwch chin ei astudio
- Cefndir a sail resymegol ar gyfer rhagnodi cymdeithasol.
- Deall ymddygiadau iechyd a newid ymddygiad.
- Rhagnodi cymdeithasol - beth ydyw a sut i'w wneud.
- Sgiliau cyfathrebu ar gyfer rhagnodi cymdeithasol.
- Ymgymryd â chyngor byr ac ymddygiad proffesiynol.
- Egwyddorion cyfweld ysgogol a dulliau sy'n canolbwyntio ar atebion.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.
Addysgu ac Asesu
Yn ystod y modiwl bydd myfyrwyr yn cwblhau portffolio o waith, gan gynnwys:
- Fforwm drafod ar gefndir a chyd-destun rhagnodi cymdeithasol.
- Astudiaeth achos yn archwilio'r seiliau damcaniaethol ar gyfer rhagnodi cymdeithasol.
- Traethawd myfyriol yn ystyried y sgiliau sydd eu hangen i weithio ym maes rhagnodi cymdeithasol.
Efallai y bydd elfennau'r portffolio yn destun newid i adlewyrchu unrhyw ddatblygiadau newydd mewn rhagnodi Cymdeithasol.
Ffioedd a chyllid
£95
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim - Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon
Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol
Dyddiadau'r cwrs
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.
Cyflwynir y cwrs ar-lein gyda sesiynau byw ar-lein yn cael eu cynnal bob yn ail wythnos rhwng 14:00yp a 16:00yp