Ysgol Haf Peirianneg

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2023, 2024
Hyd y cwrs
4 Wythnos
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae ein Hysgol Haf Peirianneg yn rhoi'r cyfle i chi brofi astudiaeth pwnc academaidd naill ai fel parhad o'ch astudiaethau cyfredol neu fel cyrsiau paratoi ar gyfer ymuno â blwyddyn olaf ein rhaglenni gradd. Byddwch yn astudio cymysgedd o ddarlithoedd academaidd, sesiynau astudio diddorol, a dosbarthiadau Saesneg.
Prif nodweddion y cwrs
- Gwerth cyfanswm o 60 credyd prifysgol y DU.
- Ar ôl cwblhau'r cwrs top-up, bydd cyfle i chi fynd ymlaen i flwyddyn olaf rhaglen radd Baglor Anrhydedd a chwblhau'r radd mewn blwyddyn, gan gynnwys eich ysgol haf.
- Dysgwch wybodaeth a sgiliau allweddol a fydd yn helpu i'ch paratoi ar gyfer astudiaethau academaidd ar flwyddyn olaf eich cwrs gradd israddedig.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae'r Ysgol Haf yn cynnig rhaglen ddwys o ddysgu gydag ystod o addysgu wedi'i chefnogi gan diwtorialau.
Byddwch yn astudio 3 modiwl sy'n ymdrin ag ystod o bynciau sy'n ymwneud ag astudiaethau Peirianneg gan gynnwys Busnes, Cyfathrebu, Ymchwil, Moeseg, a Chynaliadwyedd.
Bydd cwblhau'r Ysgol Haf Peirianneg yn llwyddiannus yn caniatáu i chi symud ymlaen i flwyddyn olaf gradd Baglor mewn unrhyw un o'n disgyblaethau Peirianneg gan gynnwys peirianneg awyrennol, modurol, trydanol ac electronig, peirianneg ddiwydiannol, mecanyddol, adnewyddadwy a chynaliadwy.
Ar ôl cwblhau blwyddyn olaf BEng byddwch wedyn yn cael cyfle i gwblhau Gradd Meistr mewn blwyddyn, ac felly dau gymhwyster mewn dwy flynedd yn unig.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae ein cyrsiau ar agor i fyfyrwyr rhyngwladol dros 18 oed, beth bynnag fo'ch cefndir neu'ch gwlad breswyl.
Mae ein Hysgolion Haf Peirianneg wedi'u dylunio ar gyfer myfyrwyr sydd ag o leiaf 1 flwyddyn o astudio ar lefel Addysg Uwch mewn pwnc sy'n gysylltiedig â Pheirianneg. Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol bydd angen dangos lefel B2 (neu gyfwerth) hefyd mewn Iaith Saesneg i ymuno â'r cwrs.
Os hoffech wneud cais am y cwrs hwn, cliciwch yma.
Ffioedd a chyllid
Opsiwn 1 (gyda llety): £1500
Opsiwn 2. (heb lety): £1000
- Mae'r gost yn cynnwys hyfforddiant technegol a hyfforddiant Saesneg, llety (opsiwn 1), a gweithgareddau penwythnos x2.
- Nid yw'r costau'n cynnwys: cludo i/o faes awyr, bwyd, gweithgareddau allgyrsiol
*Mae'r cyrsiau hyn yn aml mewn galw poblogaidd, fodd bynnag os oes gan gwrs nifer annigonol o fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ni fydd yn cael ei gynnig. Mewn digwyddiad o'r fath, bydd unrhyw fyfyrwyr cofrestredig yn cael cynnig rhaglen amgen neu'n cael ad-daliad llawn o unrhyw ffioedd a dalwyd.
Dyddiadau cwrs
Bydd y cwrs hwn yn rhedeg am 4 wythnos o ddydd Llun 31 Gorffennaf 2023 – dydd Gwener 21 Awst 2023.