BSc (Anrh) Cyfrifiadura (gyda Lleoliad Diwydiant)

Manylion cwrs
Côd UCAS
COIP
Blwyddyn mynediad
2023
Hyd y cwrs
4 BL (llawn-amser)
Tariff UCAS
80-112
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae galw mawr am arbenigwyr cyfrifiadura wrth i dechnoleg bellach chwarae rôl yn bron popeth wnawn. Mae ein gradd cyfrifiadura'n cyfuno egwyddorion craidd y maes ag ymagwedd edrych ymlaen at gofleidio a gyrru datblygiadau newydd.
Bydd myfyrwyr yn:
- Cael eu paratoi ar gyfer gyrfa mewn diwydiant cyffrous gydag eich sgiliau mae llawer yn chwilio amdanynt mewn. rhaglennu cyfrifiadurol, datblygu cronfeydd data, rhwydweithio, datblygu gwefannau a dylunio systemau gwybodaeth.
- Datblygu sgiliau ymarferol sy'n ddefnyddiol mewn unrhyw faes busnes, megis datrys problemau, gwaith tîm, rheoli prosiect a sut i ddefnyddio technoleg gwybodaeth yn effeithiol a deall meddalwedd arbenigol.
- Ennill profiad ymarferol trwy leoliadau gwaith a gweithio ar brosiectau bywyd go iawn.
- Cael yr opsiwn o Flwyddyn Lleoliad Diwydiant.
- *Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 3ydd yn y DU ac yn 1af yng Nghymru am foddhad ag addysgu ac yn ail yn y DU ac yn 1af yng Nghymru am foddhad gyda’r cwrs yn nhablau cynghrair pwnc Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth, The Guardian University Guide 2022.
- *Astudio cwrs sy'n rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 4ydd yn y DU am brofiad y myfyriwr yn nhablau cynghrair pwnc Cyfrifiadura, Times and Sunday Times Good University Guide 2022.


Cyfrifiadura Mhrifysgol Wrecsam
Prif nodweddion y cwrs
- Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan Gymdeithas Cyfrifaduron Prydain.
- Mae’r cyrsiau hyn yn ymateb i fylchau sgiliau cydnabyddedig. Byddant yn rhoi’r wybodaeth, dealltwriaeth a'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogaeth lwyddiannus.
- Mae Cynllunio Datblygiad Personol wedi'i integreiddio trwy’r cwrs cyfan er mwyn datblygu'r fframwaith sgiliau angenrheidiol ar gyfer rheoli effeithiol yn bersonol, yn academaidd ac o ran gyrfa.
- Mae’r Brifysgol yn gartref i CARDs – sef canolfan ymchwil adnabyddus ar gyfer ymchwil i gymdeithas ddigidol/labordai TG newydd eu hadnewyddu
- Lleoliad cynhadledd ymchwil rhyngrwyd ddwyflynyddol sy'n denu dirprwyon o bob cwr o'r byd.
- Mae Blwyddyn Lleoliad Diwydiannol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr cael profiad cyflogaeth uniongyrchol a gwerthfawr yn y gweithle ar gyfer y dyfodol.
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
Mae'ch blwyddyn gyntaf yn cynnwys deunydd sylfaenol hanfodol sy'n berthnasol i bob un o'n rhaglenni cyfrifiadurol. Byddwch yn dysgu sgiliau sy'n benodol i'r pwnc ynghyd â sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu eich rhagolygon cyflogadwyedd.
Gyda chefnogaeth eich tiwtoriaid, byddwch yn dysgu am rai o'r ffeithiau, cysyniadau, egwyddorion a damcaniaethau hanfodol sy'n berthnasol i gymwysiadau cyfrifiadurol a chyfrifiadura. Byddwch yn gallu dangos gwybodaeth ymarferol am rai o'r offer, arferion a methodolegau a ddefnyddir i fanylebu, dylunio, gweithredu a phrofi systemau meddalwedd cyfrifiadurol.
MODIWLAU
- Systemau Cyfrifiadurol
- Rheoli Data
- Datrys Problemau trwy Raglenni
- Peirianneg Gwybodaeth a Systemau
- Dylunio a Datblygu i’r Wê
- Datblygu Ased Gemau
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
Mae'r ail flwyddyn yn parhu i ddysgu hanfodion y ddisgyblaeth ichi, ac mae modiwlau mwy arbenigol yn dechrau cael eu cyflwyno. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect grŵp lle byddwch yn datblygu sgiliau pwysig mewn technegau rheoli prosiectau a materion proffesiynol a moesegol rheoli prosiect.
Byddwch hefyd yn dyfnhau eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o gysyniadau a dulliau gweithredu cyfrifiadurol yn ogystal â chael eich cyflwyno i dechnegau datblygu systemau a'r materion proffesiynol, cyfreithiol a moesegol sy'n berthnasol i'r diwydiant cyfrifiadura a TG.
MODIWLAU
- Cronfeydd Data a Systemau Gwybodaeth Ar-lein
- Cynllunio Profiad Defnyddiwr
- Rhaglenni Ar-lein a Symudol
- Cyfrifiadura Cyfrifol
- Rhaglenni Cymhwysol
- Prosiect Grŵp
BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)
Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn datblygu eich sgiliau ymhellach trwy fodiwlau a addysgir ac ymchwil, gan ganolbwyntio ar y datblygiadau diweddaraf yn eich dewis ddisgyblaeth. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect unigol blwyddyn olaf, a fydd yn eich helpu i baratoi at y math o dasgau a sefyllfaoedd y gallech ddod ar eu traws yn y gweithle. Bydd gwaith ymarferol a phrosiect y flwyddyn olaf angen y math o werthuso ar ffactorau technegol ac annhechnegol a rheoli methodolegau a thechnegau datblygu systemau y mae gweithwy TG proffesiynol yn ymarfer yn gynnar yn eu gyrfaoedd.
MODIWLAU
- Rheoli Prosiect TG
- Data Dosranedig Dadansoddi Data
- Datblygu Symudol Uwch
- Technolegau’r Dyfodol
- Prosiect
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwyntiau tariff UCAS yn TAG lefel A neu gyfatebol gan gynnwys TG, cyfrifiadura, mathemateg neu ffiseg.
Bydd ymgeiswyr sydd ddim yn cyrraedd â'r meini prawf uchod yn cael eu hasesu ar sail unigol trwy gyfweliad.
Addysgu ac Asesu
Ystyrir asesu fel rhan annataod o ddysgu ac mae meini prawf asesu yn gysylltiedig â chanlyniadau dysgu modiwlau unigol. Mae'r dulliau asesu yn cynnwys asesiadau ymarferol, adroddiadau a thraethodau, dadansoddi astudiaethau achos, cyflwyniadau llafar, papurau seminar, gwaith prosiect, Portffolio Datblygiad Personol, arholiadau a phrofion dosbarth dibaratoad. Bydd asesu yn cynnwys aseiniadau unigol a rhai grŵp/tîm.
Yn ystod eich ail flwyddyn byddwch yn ymgymryd â lleoliad gwaith fel rhan o'r cwrs gradd. Yn ogystal â hyn, byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol megis datrys problemau agan arbenigo mewn amgylcheddau technolegol a chymdeithasol amrywiol, gwneud penderfyniadau, cyfathrebu effeithiol, yn ogystal â'ch galluogi i ennill hunan-hyder, gwybodaeth a hunan-gred.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae cyfrifiadura'n hanfodol i'r rhan fwyaf o yrfaoedd y dyddiau hyn, fodd bynnag, bydd y cwrs hwn yn eich paratoi yn benodol ar gyfer nifer o swyddi penodol sy'n gysylltiedig â diwydiant, megis:
- Dylunydd rhwydwaith/cronfeydd data
- Rheolwr rhwydwaith/cronfeydd data
- Datblygwr gwe
- Datblygwr/datblygwr cymwysiadau meddalwedd
- Swyddi rhyngweithiol amlgyfrwng
- Cymorth TG
- Ymgynghoriaeth TG
- E-fasnach
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ffioedd dysgu Prifysgol Wrecsam 2023/24 ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.
Rhyngwladol
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.