BEng (Anrh) Dylunio Peirianneg Diwydiannol Prentisiaeth Gradd (Mecanyddol)

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
3 BL (rhan-amser)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Arianwyd yn llawn
y brentisiaeth gradd
Astudiaeth ran-amser
i ategu eich gwaith amser llawn
Dysgu cymhwysol
sy'n cyfuno hyfforddiant ystafell ddosbarth ac ymarfer ymarferol yn y gweithle
Pam dewis y cwrs hwn?
Datblygwch eich gyrfa mewn peirianneg ddiwydiannol gyda chwrs prentisiaeth gradd. Caiff myfyrwyr wybodaeth academaidd wrth roi eu sgiliau newydd ar waith.
Mae’r cwrs:
- Wedi’i ariannu’n llawn, ar yr amod eich bod yn cael eich cyflogi yng Nghymru am 51% o’r amser fel rhan o gynllun Prentisiaeth Graddau Cymru
- Yn rhoi sylfaen mewn hanfodion peirianneg i lwyddo yn eich gyrfa
Byddwych yn:
- Ennill gradd lawn mewn tair blynedd o astudio rhan-amser
- Astudiwch un diwrnod yr wythnos, gyda'r pedwar diwrnod arall mewn cyflogaeth
- Datblygu sgiliau ymarferol sy'n ddefnyddiol mewn unrhyw faes busnes, megis datrys problemau, gwaith tîm a rheoli prosiectau
- Cymhwyso’r wybodaeth a'r sgiliau proffesiynol a ddatblygwyd o fewn y rhaglen i'w gweithle
*Mae ein maes pwnc Peirianneg yn y 10 uchaf yn y DU am Asesu ac adborth, adnoddau dysgu a llais myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2024)
*Mae ein maes pwnc Peirianneg yn gydradd 3ydd allan o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon am foddhad cyffredinol. (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2024)
Prif nodweddion y cwrs
- Gweithredu eich dysgu mewn prosiectau yn y gweithle
- Dim ffioedd cwrs*
- Llwybr clir i wireddi eich uchelgeisiau yn y gweithle
- Wedi'i gynllunio i uwchsgilio gweithwyr a hefyd gyflwyno talent newydd i gwmnïau
- Hyfforddi a rhwydweithio gyda phrentisiaid eraill yn Prifysgol Wrecsam
- Mae modiwlau ac addysgu yn y radd hon sy'n canolbwyntio ar y diwydiant wedi'u hadeiladu o amgylch eich gweithle eich hun. Mae gan bob lefel o'r radd brosiect sy'n gweithredu fel carreg gap i'ch dysgu ac yn caniatáu ichi gymhwyso'ch gwybodaeth i broblemau'r byd go iawn.
*yn amodol ar gyllid
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd myfyrwyr yn datblygu ac yn cymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau proffesiynol a ddatblygir o fewn y rhaglen ddysgu hon i'w gweithle. Wedi'i ddatblygu fel partneriaeth tair ffordd rhwng y cyflogwr, y myfyriwr a thîm y rhaglen academaidd. Bydd y llwybr hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau y bydd angen arnynt yn y dyfodol, gan gwrdd â bylchau sgiliau rhanbarthol.
Trwy ddefnyddio'r flwyddyn galendr lawn a chymhwyso sgiliau sy'n seiliedig ar y gweithle, bydd myfyrwyr yn cyflawni eu dyfarniad o fewn yr un cyfnod â myfyriwr amser llawn safonol.
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
MODIWLAU
- Technegau Peiranneg Dadansoddol
- Hanfodion Peirianneg Drydanol ac Electronig
- Peirianneg Mecanyddol
- Ymchwilio a Hyfforddi yn y Gwaith
- Peirianneg a Rheoli Gweithrediadau
- Dylunio a Chynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD)
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
MODIWLAU
- Prosiect diwydiannol
- Technegau Rheoli Dadansoddol
- Gweithgynhyrchu, Cynaladwyedd a Diwydiant 4.0
- Deunyddiau a Phrosesau
- Awtomatiaeth Ddiwydiannol a PLC
- Gweithredu Mecantroneg a Systemau Gweithgynhyrchu
BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)
MODIWLAU
- Prosiect
- Rheoli'r Gweithlu, Ymgysylltu ac Ymrwymiad
- Systemau Cynnal a Chadw a Diogelwch
- Modelu ac Efelychu Peirianneg Fecanyddol
- Dylunio Cynnyrch
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Gofynion mynediad safonol y Brifysgol i'r rhaglen hon ydy (am fynediad lefel 4):
- 48 pwynt tariff UCAC o gymhwyster lefel 3 addas fel Lefelau A
- 5 TGAU gradd A*-C, yn cynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg
Ystyrir ymgeiswyr heb y pwyntiau tariff UCAC angenrheidiol, neu sydd â chymwysterau heb y pwyntiau, ar sail eu profiad proffesiynol yn niwydiant y brentisiaeth. Bydd pob ymgeisydd sydd ddim yn ateb yr ofynion uchod yn cael eu cyfweld cyn gwneir cynnig, gan roi cyfle iddynt dangos sut mae eu sgiliau a phrofiadau o'r diwydiant yn eu gwneud yn addas i'r rhaglen.
Addysgu ac Asesu
DYSGU AC ADDYSGU
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau.
Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Gall cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus arwain at astudio llu o gymwysterau eraill a llwybrau eraill yn cynnwys (ond nid dim ond):
- Astudiaeth peirianneg ôl-raddedig yn PGW
- Astudiaeth peirianneg ôl-raddedig mewn sefydliad Addysg Uwch yn y DU
- Cymwysterau proffesiynol trwy gyrff proffesiynol sydd yn rhan o Fwrdd Achrediad Peirianneg (EAB) a sefydliadau proffesiynol eraill
- Statws CEng fel y bo'n briodol i lwybr proffesiynol/gyrfa
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.Llety
Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn cynnig ystafelloedd en-suite ar y campws yn ein Pentref Myfyrwyr Wrecsam. Mae'r mannau preifat, wedi'u dodrefnu'n llawn hyn mewn lleoliad cyfleus, gan ddarparu mynediad hawdd i gyfleusterau campws, ardaloedd astudio, a mannau cymdeithasol. Hefyd, dim ond 10 munud ar droed ydych chi o ganol y ddinas!
Gyda'r holl filiau wedi'u cynnwys, Wi-Fi am ddim, diogelwch 24/7, a meysydd cymdeithasol mawr, fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer profiad myfyriwr gwych.
Archwiliwch ein hopsiynau llety i ddod o hyd i'ch cartref perffaith oddi cartref.