FdA Gofal Plant Therapiwtig

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2023, 2024
Hyd y cwrs
2 BL (rhan-amser)
Tariff UCAS
48-72
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Cydradd 1af yn y DU
ar gyfer rhagolygion graddedigion (Complete University Guide 2022)*
Arbenigwch
mewn pwnc gradd prin
Seiliedig ar waith
sy'n galluogi myfyrwyr i integreiddio eu hastudiaeth ochr yn ochr â'u gwaith neu wirfoddoli
Pam dewis y cwrs hwn?
Cynlluniwyd ein cyrsiau arloesol ar gyfer y rhai sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda phlant sy’n delio â thrawma. Mae'r cwrs arbenigol yn rhoi cipolwg hanfodol i drawma plentyndod a thwf ôl-drawmatig ac yn sicrhau bod y rhai sy'n gweithio gyda'r plant mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael eu hyfforddi i'r safon uchaf.
Mae'r cwrs yn:
- ymgorffori arfer gorau yn y sector.
- canolbwyntio ar feysydd allweddol a fydd yn eich galluogi i fod yn arbenigwr gweithgar.
- *mewn maes pwnc a raddiwyd yn gyntaf yng Nghymru am foddhad myfyrwyr ac yn gydradd gyntaf yn y DU am ragolygon graddedigion yn nhablau cynghrair pwnc Gwaith Cymdeithasol, Complete University Guide 2022.
Bydd myfyrwyr yn:
- cael gyfleoedd i ryngweithio â chynrychiolwyr blaenllaw cenedlaethol a rhyngwladol o ymarfer ac ymchwil o fewn y sector Gofal Plant Therapiwtig.
- astudio gyda myfyrwyr eraill ar y rhaglen o leoliad daearyddol eang ledled y DU. Hefyd, cyfleoedd i glywed am fentrau ymarfer arloesol.
- cael cyfle i ‘atodi’ y wobr FdA i radd BA (Hosn) lawn mewn Gofal Plant Therapiwtig.
Prif nodweddion y cwrs
- Cwrs unigryw nad yw'n cael ei addysgu'n helaeth yn y DU, sy'n eich galluogi i ddod yn arbenigwr.
- Mae’r graddau hyn yn seiliedig ar waith ac yn alwedigaethol berthnasol sy'n eich galluogi i astudio ochr yn ochr â'ch swydd neu'ch gwaith gwirfoddol.
- Ar ôl darlith gychwynnol yn y brifysgol mae'r cyrsiau hyn yn cael eu cyflwyno'n bennaf ar-lein drwy ddefnyddio ein amgylchedd dysgu rhithiol drwy Moodle, gan gynnwys trafodaethau, seminarau a thiwtorialau ar-lein.
- Addysgir y cyrsiau gan staff arbenigol ac mae darlithwyr gwadd sy'n weithwyr proffesiynol lleol yn y diwydiant.
- *Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn gyntaf yng Nghymru am foddhad myfyrwyr ac yn gydradd gyntaf yn y DU am ragolygon graddedigion yn nhablau cynghrair pwnc Gwaith Cymdeithasol, Complete University Guide 2022.
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
Ym mlwyddyn un, byddwch yn gosod sylfeini eich sgiliau astudio academaidd tra hefyd dysgu elfennau sylfaenol gwaith sy'n seiliedig ar berthynas gyda phlant. Mae ffocws ar ddatblygu eich cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ochr yn ochr â dysgu am y gwerthoedd, y wybodaeth a'r sgiliau sy'n sail gofal plant therapiwtig.
MODIWLAU
- Theori Ymlyniad
- Datblygiad a Chwarae Plant
- Sgiliau Astudio mewn Addysg Uwch
- Ecsploetiaeth Rywiol Plant: persbectifau Beirniadol ar Ddiogelu
- Profiadau Croes mewn Plentyndod (ACE) a'r Amgylchedd Amddiffynnol
- Cydweithio i Ddiogelu'ch Hun ac Eraill
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
Mae blwyddyn dau yn canolbwyntio ar gymhwyso theori i ymarfer. Ym mlwyddyn dau byddwch yn cymhwyso modelau damcaniaethol i hyrwyddo modelau ymlyniad a modelau ymarfer ar sail trawma. Mae ffocws ar ddatblygu'r hunan drwy sgiliau therapiwtig ac adfyfyrio beirniadol.
MODIWLAU
- Datblygiad proffesiynol
- Trawma a Gwydnwch
- Damcaniaeth Ymlyniad Cymhwysol
- Dulliau Creadigol yn y Berthynas Therapiwtig
- Datblygiad Rhywiol ac effaith Cam-drin Rhywiol
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
- Rhaid i bob myfyriwr fod yn ymarferwyr gofal plant presennol a gwaith â thâl neu’n wirfoddol o o leiaf ddeg awr yr wythnos yn y sector gofal plant, o ddewis gyda phlant sy'n 'derbyn gofal'. Os nad oes gennych brofiad cyflogaeth perthnasol fe'ch cynghorir yn y lle cyntaf i gael sgwrs anffurfiol gydag un o'n tiwtoriaid.
- Rhaid i chi hefyd fod yn gallu trafod amser i ffwrdd oddi wrth eich gweithle i fynychu darlithoedd (tua deuddeg diwrnod bob blwyddyn academaidd).
- Diploma Lefel A 3 mewn Plant a Phobl Ifanc neu NVQ lefel 3 yn ymwneud â gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
- TGAU Saesneg / Cymraeg (Iaith Cyntaf) (gradd C/4 neu uwch) neu gymhwyster cyfwerth. Bydd lefel AS a chymwysterau lefel 3 Sgiliau Allweddol priodol 3 hefyd yn cael eu hystyried.
- Mae'n rhaid i chi gael mynediad i gysylltiad cyfrifiadurol a'r rhyngrwyd.
- Cwblhau'r ffurflen gais y brifysgol
- Cyfwelir bob ymgeisydd.
Addysgu ac Asesu
Mae pob asesiad yn seiliedig ar eich astudiaethau academaidd ac ar gasglu gwybodaeth yn y gweithle. Rydych yn cael eich asesu mewn amryw o ffyrdd drwy gydol y tair blynedd o astudio, gan gynnwys, traethodau, portffolio, llyfr gwaith, cyflwyniad, chwarae rôl ar fideo a sylwebaeth adfyfyriol.
Dysgu ac addysgu
Byddwch yn cael llawer o gefnogaeth yn enwedig wrth i chi ddechrau datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau asesiadau. Rhoddir adborth yn ystod ac ar ôl pob asesiad i'ch helpu i greu amrywiaeth o sgiliau ysgrifennu academaidd ac ymarferol.
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
I ychwanegu hyblygrwydd, addysgir rhan fawr o'r cwrs hwn ar-lein.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae'r gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion y graddau hyn yn cynnwys gweithio gyda phlant:
- mewn cartrefi ac ysgolion preswyl
- yn ogystal ag mewn gwaith gofal maeth
- a chymorth i'r teulu
Ar ôl cwblhau'r FdA yn llwyddiannus, mae myfyrwyr yn aml yn cael dyrchafiad yn eu waith. Mae rhai myfyrwyr yn mynd ymlaen i ychwanegu at eu FdA i BA (Anrh) Gofal Plant Therapiwtig llawn.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ffioedd dysgu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam 2023/24 ar gyfer BA (Anrh) Gofal Plant Therapiwtig yw £3250.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.
Rhyngwladol
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.