BN (Anrh) Nyrsio Oedolion
Manylion cwrs
Côd UCAS
ANJN (Maw '25) GM1Q (Medi '25)
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
3 BL (Llawn-amser)
Tariff UCAS
96-112
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
St Asaph, Wrecsam
Course Highlights
1af yn y DU
ar gyfer Boddhad Myfyrwyr*
1af yn y DU
ar gyfer Ansawdd Addysgu a Profiad Myfyrwyr*
Cydradd 1af yn y DU
ar gyfer Rhagolygon Graddedig*
Nyrsio Mhrifysgol Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae nyrsio yn broffesiwn gwerth chweil yn gofalu am unigolion trwy gydol eu hoes. Ym Mhrifysgol Wrecsam byddwn yn eich paratoi a'ch arfogi â'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn fyfyriwr graddedig ac yn nyrs oedolion ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).
Byddwch yn:
- Astudiwch radd a gymeradwyir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)
- Ennill profiad ymarferol mewn amgylchedd llawn bywyd gan ddefnyddio ein cyfleusterau gofal iechyd o'r radd flaenaf fel ein canolfan efelychu gofal iechyd modern, sydd ag ystafell archwilio bwrpasol a thechnolegau clyweledol uwch sy'n galluogi eich gwaith i gael ei fonitro. gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig.
- Astudio gradd sydd yn safle 1af yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwyr ac yn 1af yng Nghymru am Ragolygon Graddedigion yn nhablau cynghrair meysydd pwnc Nyrsio a Bydwreigiaeth yn y Complete University Guide, 2025.
*Mae'r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc sydd yn 1af yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwy yn y Canllaw Prifysgolion Cyflawn, 2025
*Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc sydd yn safle 1af yn y DU am Ansawdd Addysgu a Brofiad Myfyrwyr yn nhabl cynghrair maes pwnc Nyrsio yng Nghanllaw Prifysgolion Da’r Times a’r Sunday Times 2025.
*Mae’r maes pwnc hwn yn 2il yn y DU a 1af yng Nghymru yn nhabl cynghrair maes pwnc Nyrsio a Bydwreigiaeth yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion y Daily Mail, 2024.
*Mae'r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc sydd yn:
- 1af yn y DU am addysgu ar fy nghwrs ar fy nghwrs yn ogystal â chyfleoedd dysgu, asesu ac adborth a threfnu a rheoli, llais myfyrwyr, ac ymwybyddiaeth o gefnogaeth lles meddyliol
- 1af allan o Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon am foddhad cyffredinol.
- 2il yn y DU am gymorth academaidd
- Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, 2024
Nyrsio aIechyd perthynol
Prif nodweddion y cwrs
- Rhaniad yr astudiaeth 50/50 rhwng theori ac ymarfer clinigol i sicrhau bod gennych chi wybodaeth academaidd a phrofiad ymarferol.
- Bydd gennych fynediad i amrywiaeth o leoliadau gwaith a gynigir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) trwy gydol eich gradd i ddatblygu eich gwybodaeth, sgiliau, profiad ymarferol, a chyflogadwyedd.
- Wrth weithio yn yr amgylchedd clinigol, bydd ein haddysgwyr ymarfer profiadol, aseswyr academaidd, goruchwylwyr ymarfer, ac aseswyr ymarfer yn cynnig cymorth ac arweiniad personol i chi, gan gyfrannu at eich twf proffesiynol yn y maes nyrsio.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae gan y rhaglen tair modiwl craidd ym mhob blwyddyn o'r rhaglen. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu i gyflwyno'r cwrs. Er enghraifft, rydym yn defnyddio darlithoedd rhyngweithiol, fforymau ar-lein, astudiaethau achos ac efelychu.
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn canolbwyntio ar y sgiliau gofalu sylfaenol sydd eu hangen i ymarfer fel gweithiwr proffesiynol gofalgar, caredig, tosturiol sy'n gwerthfawrogi ac yn parchu anghenion unigol y claf, y teulu a'r gofalwyr.
Modiwlau
- Hanfodion Gofal
- Cymdeithas a Phobl Agored i Niwed
- Sylfeini Iechyd a Lles
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
Ym mlwyddyn dau byddwch yn canolbwyntio ar y gyfraith a moeseg, gofalu am glaf a chanddo salwch acíwt a chronig, ymchwil a gofal person-ganolog.
Modiwlau
- Datblygu ymarferwyr yn seiliedig ar dystiolaeth
- Diwallu anghenion cleifion a theuluoedd yn achos salwch aciwt a chronig
-
Hybu ymddygiad iach
BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)
Yn flwyddyn tri byddwch yn canolbwyntio ar reoli newid, grymuso defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, biowyddoniaeth gymhwysol a datblygiad personol a phroffesiynol i'ch paratoi i ddod yn nyrs gofrestredig.
Modiwlau
- Arloesiadau Ymarfer
- Cydgysylltu Gofal Cymhleth yn Holistaidd
- Arwain a Rheoli Gofal Nyrsio
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae'n rhaid i chi gael o leiaf pum TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg, Mathemateg (neu gyfwerth) a thystiolaeth o sgiliau TG.
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 96-112 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol.
Fel arall, mae'n ofynnol bod gennych un o'r canlynol:
NVQ 3 (gyda thystiolaeth o Saesneg, Mathemateg a TGCh fel uchod)
neu
Wedi cwblhau naill ai ‘Mynediad i Iechyd’ neu ‘Mynediad i Nyrsio’ (o Goleg Addysg Bellach sydd wedi ei gymeradwyo gan naill ai Agored Cymru neu OCN Gogledd-orllewin Lloegr (cymeradwywyd gan ASA) a'i fod wedi'i gyflawni ar y lefel canlynol: 112 o bwyntiau tariff UCAS).
Ar ben hyn:
- Cynhelir cyfweliadau ar 'Teams' gyda staff academaidd, defnyddwyr gwasanaeth a/neu staff o'r GIG.Bydd prawf rhifedd a llythrennedd yn cael ei gynnal yn y cyfweliad.
- Mae profiad o weithio mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol yn werthfawr.
- Bydd angen GDG os yn llwyddiannus yn y cyfweliad.
- Bydd angen sgrinio iechyd galwedigaethol os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad.
- Gellir gwneud cynigion amodol i'r bobl hynny sy'n astudio ar hyn o bryd ac yn aros am ganlyniadau academaidd.
- Gofynnir am arholiad IELTS os ystyrir bod angen, gyda sgôr cyffredinol o 7 yn ofynnolar gyfer mynediad i'r rhaglen yn unol â gofynion y brifysgol a'r corff proffesiynol
Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â meddalwedd 'Teams' cyn eich cyfweliad
Addysgu ac Asesu
Cwblhau'r canlynol yn foddhaol:
- Mae angen i chi gyflawni lleiafswm o 2300 o oriau damcaniaethol a 2300 o oriau o ymarfer clinigol ci ddod yn nyrs gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).
- Portffolio o ganlyniadau hyfedredd.
- Mae amrywiaeth o asesiadau damcaniaethol yn cael eu defnyddio ym mhob blwyddyn o'r rhaglen. Mae'r rhain yn cynnwys: traethodau, cyflwyniadau, astudiaethau achos, cyfrifo cyffuriau ac arholiad anatomeg a ffisioleg.
Mae cymorth tiwtorial academaidd, gan gynnwys cymorth anabledd ar gael gyda phob modiwl.
Dysgu ac Addysgu
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae'r rhagolygon gyrfa yn rhagorol gyda'r prinder nyrsys yn y DU ar hyn o bryd. Mae myfyrwyr wedi cael amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth yn gweithio fel nyrs staff yn y GIG a'r sector preifat yn y lleoliadau acíwt a chymunedol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, mae myfyrwyr wedi'u cofrestru gyda'r NMC fel nyrs oedolion gofrestredig.
Mae Prifysgol Wrecsam yn cynnig opsiynau ar gyfer astudiaeth bellach mewn perthynas â phroffesiynau fel ymweld ag iechyd, nyrsio ysgol, nyrsio cymunedol, ymarfer nyrsio uwch, cyrsiau presgripsiynu nyrsys, MSc ac astudiaethau PhD.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ym Mhentref Wrecsam.
Rhyngwladol
Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.
Gwneud Cais
Derbyniad Mawrth 2025:
Derbyniad Medi 2025: