BN (Anrh) Nyrsio Oedolion

Manylion cwrs
Côd UCAS
ANJN (Maw '23) GM1Q (Medi '23)
Blwyddyn mynediad
2024
Hyd y cwrs
3 BL (Llawn-amser)
Tariff UCAS
80-112
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
St Asaph, Wrecsam
Course Highlights
Mae'r maes pwnc hwn yn 1af
ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (Nghanllaw Prifysgol Cyflawn, 2024)
Bwrsariaeth y GIG
Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG, gan gynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw'n ad-daladwy ar gyfer costau byw, ar gael ar gyfer y rhaglen
Safle 1af yn y DU
am ragolygon graddedigion (Nghanllaw Prifysgol Cyflawn, 2024)

Nyrsio Mhrifysgol Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae nyrsio yn broffesiwn gwerth chweil yn gofalu am unigolion trwy gydol eu hoes. Ym Mhrifysgol Wrecsam byddwn yn eich paratoi a'ch arfogi â'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn fyfyriwr graddedig ac yn nyrs oedolion ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).
- *Mae'r cwrs hwn mewn maes pwnc a raddiwyd yn 1af yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr yn nhablau cynghrair pwnc Nyrsio, Complete University Guide 2023.
- *Mae’r cwrs hwn wedi’i raddio fel rhan o grŵp pwnc CHA3 sy'n gydradd 4ydd yn y DU ac yn 1af allan o brifysgolion Cymru am addysgu ar fy nghwrs ac yn y 10 uchaf yn y DU ac yn 1af allan o brifysgolion Cymru am foddhad cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.
- *Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc sydd wedi’i raddio’n 1af yn y DU am foddhad addysgu yn ogystal â 2il yn y DU am foddhad ar gyfer y cwrs (1af yng Nghymru a Lloegr) ac yn y 10 uchaf yng Nghymru a Lloegr (14eg yn y DU) yn gyffredinol, yn nhablau cynghrair pynciau Nyrsio Cyffredinol, The Guardian University Guide 2023.
- Trwy gydol eich astudiaethau bydd gennych diwtor personol a fydd yn eich cefnogi ac yn eich arwain yn eich datblygiad personol a phroffesiynol.
- Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi gan addysgwr/mentor ymarferydd tra byddwch chi'n gweithio mewn lleoliad clinigol.

Nyrsio aIechyd perthynol
Prif nodweddion y cwrs
- Wedi'u gymeradwyo gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
- Amrywiaeth o leoliadau dysgu ymarfer a gynigir gyda BIPBC
- Ymrwymiad cryf i ddatblygiad personol a phroffesiynol myfyrwyr.
- Niferoedd carfan myfyrwyr nyrsio oedolion cyn-gofrestru bach – "Mae'r brifysgol yn ddigon bach i chi fod yn enw ac nid yn rhif," cyn-fyfyrwraig Katy Fortune-Probert.
- Cyfle ar gyfer lleoliadau dysgu ymarfer dewisol ym mlwyddyn 2 a blwyddyn 3 y rhaglen.
- Bydd lleoliadau ar draws y tair blynedd yn cael eu cynnal yng Nghymru o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer comisiynu (lleoedd a ariennir). Bydd y lleoliadau wedi'u lleoli mewn amrywiaeth eang o leoedd.
- Fel arall, cynigir lleoliadau nad ydynt wedi'u comisiynu (heb eu hariannu) (cyfyngedig) yn Lloegr ar gyfer Nyrsio Oedolion. Rydym yn cynnig amrywiaeth o leoliadau mewn 7 o ardaloedd Ymddiriedolaeth GIG Lloegr. Noder nad ydym yn defnyddio BIPBC ar gyfer profiadau dysgu lleoliadau ar gyfer y lleoedd yn Lloegr nad ydynt wedi'u comisiynu.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae gan y rhaglen tair modiwl craidd ym mhob blwyddyn o'r rhaglen. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu i gyflwyno'r cwrs. Er enghraifft, rydym yn defnyddio darlithoedd rhyngweithiol, fforymau ar-lein, astudiaethau achos ac efelychu.
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn canolbwyntio ar y sgiliau gofalu sylfaenol sydd eu hangen i ymarfer fel gweithiwr proffesiynol gofalgar, caredig, tosturiol sy'n gwerthfawrogi ac yn parchu anghenion unigol y claf, y teulu a'r gofalwyr.
Modiwlau
- Hanfodion Gofal
- Cymdeithas a Phobl Agored i Niwed
- Sylfeini Iechyd a Lles
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
Ym mlwyddyn dau byddwch yn canolbwyntio ar y gyfraith a moeseg, gofalu am glaf a chanddo salwch acíwt a chronig, ymchwil a gofal person-ganolog.
Modiwlau
- Datblygu ymarferwyr yn seiliedig ar dystiolaeth
- Diwallu anghenion cleifion a theuluoedd yn achos salwch aciwt a chronig
-
Hybu ymddygiad iach
BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)
Yn flwyddyn tri byddwch yn canolbwyntio ar reoli newid, grymuso defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, biowyddoniaeth gymhwysol a datblygiad personol a phroffesiynol i'ch paratoi i ddod yn nyrs gofrestredig.
Modiwlau
- Arloesiadau Ymarfer
- Cydgysylltu Gofal Cymhleth yn Holistaidd
- Arwain a Rheoli Gofal Nyrsio
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae'n rhaid i chi gael o leiaf pum TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg, Mathemateg (neu gyfwerth) a thystiolaeth o sgiliau TG.
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol.
Fel arall, mae'n ofynnol bod gennych un o'r canlynol:
NVQ 3 (gyda thystiolaeth o Saesneg, Mathemateg a TGCh fel uchod)
neu
Wedi cwblhau naill ai ‘Mynediad i Iechyd’ neu ‘Mynediad i Nyrsio’ (o Goleg Addysg Bellach sydd wedi ei gymeradwyo gan naill ai Agored Cymru neu OCN Gogledd-orllewin Lloegr (cymeradwywyd gan ASA) a'i fod wedi'i gyflawni ar y lefel canlynol: 112 o bwyntiau tariff UCAS).
Ar ben hyn:
- Cynhelir cyfweliadau ar 'Teams' gyda staff academaidd, defnyddwyr gwasanaeth a/neu staff o'r GIG.Bydd prawf rhifedd a llythrennedd yn cael ei gynnal yn y cyfweliad.
- Mae profiad o weithio mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol yn werthfawr.
- Bydd angen GDG os yn llwyddiannus yn y cyfweliad.
- Bydd angen sgrinio iechyd galwedigaethol os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad.
- Gellir gwneud cynigion amodol i'r bobl hynny sy'n astudio ar hyn o bryd ac yn aros am ganlyniadau academaidd.
- Gofynnir am arholiad IELTS os ystyrir bod angen, gyda sgôr cyffredinol o 7 yn ofynnolar gyfer mynediad i'r rhaglen yn unol â gofynion y brifysgol a'r corff proffesiynol
Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â meddalwedd 'Teams' cyn eich cyfweliad
Addysgu ac Asesu
Cwblhau'r canlynol yn foddhaol:
- Mae angen i chi gyflawni lleiafswm o 2300 o oriau damcaniaethol a 2300 o oriau o ymarfer clinigol ci ddod yn nyrs gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).
- Portffolio o ganlyniadau hyfedredd.
- Mae amrywiaeth o asesiadau damcaniaethol yn cael eu defnyddio ym mhob blwyddyn o'r rhaglen. Mae'r rhain yn cynnwys: traethodau, cyflwyniadau, astudiaethau achos, cyfrifo cyffuriau ac arholiad anatomeg a ffisioleg.
Mae cymorth tiwtorial academaidd, gan gynnwys cymorth anabledd ar gael gyda phob modiwl.
Dysgu ac Addysgu
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae'r rhagolygon gyrfa yn rhagorol gyda'r prinder nyrsys yn y DU ar hyn o bryd. Mae myfyrwyr wedi cael amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth yn gweithio fel nyrs staff yn y GIG a'r sector preifat yn y lleoliadau acíwt a chymunedol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, mae myfyrwyr wedi'u cofrestru gyda'r NMC fel nyrs oedolion gofrestredig.
Mae Prifysgol Wrecsam yn cynnig opsiynau ar gyfer astudiaeth bellach mewn perthynas â phroffesiynau fel ymweld ag iechyd, nyrsio ysgol, nyrsio cymunedol, ymarfer nyrsio uwch, cyrsiau presgripsiynu nyrsys, MSc ac astudiaethau PhD.
Ffioedd a chyllid
Rhaglen a gomisiynir gan Fwrsariaeth Llywodraeth Cymru yw hon.
Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG, gan gynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw'n ad-daladwy ar gyfer costau byw, ar gael ar gyfer y rhaglen hon ar yr amod eich bod yn cytuno i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cofrestru (yn amodol ar newid).
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ym Mhentref Wrecsam.
Rhyngwladol
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.