BN (Anrh) Nyrsio Plant
Manylion cwrs
Côd UCAS
CN22
Blwyddyn mynediad
2024, 2025
Hyd y cwrs
3 BL (llawn-amser)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
St Asaph, Wrecsam
Course Highlights
Astudiaeth
50/50 rhwng ymarfer clinigol a theori
1af
yng Nghymru ar gyfer rhagolygon graddedigion (Nghanllaw Prifysgol Cyflawn, 2025)
Bwrsariaeth y GIG
Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG, gan gynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw'n ad-daladwy ar gyfer costau byw
Nyrsio ymMhrifysgol Wrecsam
Meddwl am yrfa mewn Nyrsio Plant? Clywch gan ddarlithwyr a myfyrwyr am ein graddau Nyrsio amrywiol ym Mhrifysgol Wrecsam.
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae nyrsio plant yn broffesiwn gweithgar sy’n rhoi ymdeimlad o bwrpas, ynghyd â boddhad anfesuradwy. Mae nyrsys plant yn sicrhau bod plant, unigolion ifanc, a’u teuluoedd wrth wraidd yr hyn a wneir ganddynt, gan ddangos gofal a thrugaredd sy’n cael effaith ystyrlon bob diwrnod, waeth pa mor fawr neu fach yw’r weithred.
Byddwch yn:
- Cael tiwtor personol a fydd yn eich cefnogi a’ch arwain trwy eich datblygiad personol a phroffesiynol.
- Astudio gradd a ddatblygwyd i fodloni safonau Nyrs y Dyfodol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) (2018).
- Mae cael cyfleoedd ar gyfer dysgu rhyngbroffesiynol yn galluogi cydweithio ag amrywiaeth o wahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
- Cael eich hyfforddi gan staff ymroddgar a gwybodus a fydd yn eich mentora a’ch arwain chi trwy’r ddarpariaeth o ofal iechyd ar gyfer plant a’u teuluoedd.
- Rhannu eich astudiaethau 50/50 rhwng ymarfer clinigol a theori.
- Ymgymryd â lleoliadau ymarfer mewn ystod eang o feysydd clinigol ar hyd a lled Cymru, sy’n cynnwys ysbytai, unedau gofal arbennig i fabanod, hosbisau, nyrsys ysgol, ymwelwyr iechyd, gwasanaethau iechyd meddwl, a thimau nyrsio plant yn y gymuned.
- Cael profi amrywiaeth o gyfleoedd dysgu ac yn ennill profiad clinigol gwerthfawr dan arweiniad staff ymarfer profiadol. Cefnogir lleoliadau gwaith gan oruchwylwyr ac aseswyr ymarfer, ynghyd ag aseswr academaidd a hwyluswyr addysg ymarfer.
- Cael mynediad i’r dechnoleg ddiweddaraf ynghyd â chyfleusterau o’r radd flaenaf a fydd yn eich trochi yn ein profiadau dysgu.
- Astudio gofal sy'n canolbwyntio ar y teulu ac sy'n canolbwyntio ar y plentyn drwy gydol y cwrs. Mae dysgu sy'n benodol i faes plant o'r dechrau yn rhoi cyfle i chi ddysgu am anghenion gofal plant, pobl ifanc a'u teuluoedd, ynghyd â dysgu a rennir rhwng meysydd nyrsio plant, oedolion ac iechyd meddwl ar themâu cyffredin sy'n berthnasol i bawb.
- Astudio gradd yn llawn amrywiaeth, o ofalu am fabanod newydd-anedig ar adeg eu geni, i ofalu am y glasoed wrth iddynt baratoi i fod yn oedolion.
- Cael profiadau a mireinio’r sgiliau a fynnir i gefnogi plant a’u teuluoedd ar adegau o drawsnewid, adfyd, a straen.
- *Astudio cwrs hwn mewn maes pwnc a raddiwyd yn 1af yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr yn nhablau cynghrair pwnc Nyrsio, Complete University Guide 2025.
Nyrsio aclechyd Perthynol
Prif nodweddion y cwrs
- Dysgu sy'n benodol i faes plant o'r dechrau
- Mae 50% o'r cwrs yn cael ei dreulio mewn ymarfer clinigol mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol
- Athroniaeth gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Cymryd rhan mewn dysgu rhyngbroffesiynol
- Datblygu annibyniaeth wrth ddysgu gydag ymrwymiad cryf i ddatblygiad personol a phroffesiynol myfyrwyr
- Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
- Bydd lleoliadau ar draws y tair blynedd yn cael eu cynnal yng Nghymru o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer comisiynu (lleoedd a ariennir). Bydd y lleoliadau wedi'u lleoli mewn amrywiaeth eang o leoedd.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd eich sesiynau theori yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu gan ddefnyddio dull cyfunol, gan ystyried Fframwaith Dysgu Gweithredol Prifysgol Wrecsam, gan gynnwys darlithoedd, dysgu seiliedig ar broblemau, trafodaethau asyncronnous, seminarau a sesiynau caffael sgiliau.
Mae mynediad i amgylcheddau dysgu rhithwir fel Moodle a Safemedicate - pecyn dysgu i helpu i ddatblygu sgiliau rhifedd a rheoli meddyginiaethau, yn nodweddion annatod o'ch dysgu. Mae'r rhaglen yn adeiladu o ran lefel academaidd a chyfrifoldeb proffesiynol wrth iddi fynd rhagddi drwy gydol y tair blynedd gan eich galluogi i ddod yn fwy hunangyfeiriedig yn eich dysgu gyda phwyslais tuag at ddiwedd eich rhaglen ar arweinyddiaeth a datblygiad fel nyrs gofrestredig.
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
Ym mlwyddyn un byddwch yn canolbwyntio ar y sgiliau gofal sylfaenol sydd eu hangen i ymarfer fel gweithiwr proffesiynol gofalgar, caredig, tosturiol sy'n gwerthfawrogi ac yn parchu anghenion unigol y claf, y teulu a'r gofalwyr.
Modiwlau
- Hanfodion Ymarfer (40 credyd)
- Rheoli Bregusrwydd mewn Cymdeithas (40 credyd)
- Sylfeini Iechyd a Lles (40 credyd)
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
Ym mlwyddyn dau byddwch yn canolbwyntio ar gyfraith a moeseg, gofalu am y plentyn acíwt a chronig, ymchwil a gofal sy'n canolbwyntio ar y plentyn.
Modiwlau
- Datblygu'r ymarferydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth (40 credyd)
- Diwallu anghenion plant a theuluoedd mewn salwch acíwt a chronig (40 credyd)
- Hyrwyddo Ymddygiad Iach (40 credyd)
BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)
Ym mlwyddyn tri byddwch yn canolbwyntio ar reoli newid, grymuso plant a theulu/gofalwyr, cymhwyso biowyddoniaeth ar gyfer gofal cymhleth a datblygiad personol a phroffesiynol i'ch paratoi ar gyfer dod yn nyrs gofrestredig.
Modiwlau
- Arloesi mewn Ymarfer (40 credyd)
- Cydlynu Gofal Nyrsio Plant Cymhleth yn Holistaidd (40 credyd)
- Arwain a Rheoli Gofal Nyrsio (40 credyd)
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae'n rhaid i chi gael o leiaf pum TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg, Mathemateg (neu gyfwerth) a thystiolaeth o sgiliau TG.
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol.
Fel arall, mae'n ofynnol bod gennych un o'r canlynol:
NVQ 3 (gyda thystiolaeth o Saesneg, Mathemateg a TGCh fel uchod)
neu
Wedi cwblhau naill ai ‘Mynediad i Iechyd’ neu ‘Mynediad i Nyrsio’ (o Goleg Addysg Bellach sydd wedi ei gymeradwyo gan naill ai Agored Cymru neu OCN Gogledd-orllewin Lloegr (cymeradwywyd gan ASA) a'i fod wedi'i gyflawni ar y lefel canlynol: 112 o bwyntiau tariff UCAS).
Ar ben hyn:
Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb i asesu eich addasrwydd ar gyfer nyrsio plant. Mae’r broses hon yn gyfle i’ch cyflwyno i Brifysgol Wrecsam, ac yn eich caniatáu i gyfarfod eich darlithwyr, staff ymarfer, a chyd-fyfyrwyr.
- Cynhelir cyfweliadau â staff academaidd, defnyddwyr gwasanaeth a/neu staff o’r GIG/darparwyr lleoliadau.
- Mae profiad o weithio mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol yn werthfawr.
- Bydd angen GDG os yn llwyddiannus yn y cyfweliad.
- Bydd angen sgrinio iechyd galwedigaethol os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad.
- Gellir gwneud cynigion amodol i'r bobl hynny sy'n astudio ar hyn o bryd ac yn aros am ganlyniadau academaidd.
- Gofynnir am arholiad IELTS os ystyrir bod angen, gyda sgôr cyffredinol o 7 yn ofynnolar gyfer mynediad i'r rhaglen yn unol â gofynion y brifysgol a'r corff proffesiynol.
- Mae maes nyrsio plant yn faes astudio y mae galw mawr amdano ym myd nyrsio. O ganlyniad i hynny, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno’ch ceisiadau mor gynnar â phosib.
Bydd tasg ysgrifenedig yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb cyn y cyfweliad. Mae'r dasg yn gofyn i chi drafod pwnc sydd yn ymwneud a'r maes nyrsio plant sydd wedi ennill eich diddordeb. Byddwch wedyn yn cael eich cyfweld ar sail unigol, lle bydd gofyn i chi ateb ychydig o gwestiynau byr i ganfod eich dealltwriaeth o nyrsio plant a gofalu am blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Bydd y tîm cyfweld yn cynnwys staff academaidd y brifysgol ac aelod o'r Bwrdd Iechyd/gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu ddefnyddiwr gwasanaeth.
Nid yw'r cwrs hwn ar gael ar hyn o bryd i'r rhai sydd angen fias Haen 4 i astudio yn y DU
Addysgu ac Asesu
Mae angen i chi gyflawni o leiaf 2300 awr o ymarfer damcaniaethol a 2300 o ymarfer clinigol i alluogi cofrestru fel nyrs plant gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Byddwch yn cael eich asesu gan amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys:
- Asesiad Ymarfer a phortffolio clinigol
- Aseiniadau ysgrifenedig
- Cyflwyniadau
- Arholiadau
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae nyrs plant yn blaenoriaethu lles pennaf y plentyn, gan weithredu fel ei eiriolwr, yn gwrando ar ei anghenion, ac yn diogelu ei iechyd. Bydd yn cydweithredu â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a gall weithio mewn amryw leoliadau, gan gynnwys mewn ysbytai plant byd enwog, ysbytai cyffredinol, lleoliadau yn y sector annibynnol, ynghyd â gofal yn y gymuned neu gartref. Gyda’r cymhwyster hwn, gallwch lywio dyfodol y maes nyrsio plant a dilyn gyrfa mewn amryw leoliadau.
Bydd cwblhau’r rhaglen radd hon yn eich cymhwyso i gofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) fel Nyrs Plant, gan eich caniatáu chi i weithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd, yn y DU a thrwy’r byd.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.