BEng (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig
Manylion cwrs
Côd UCAS
H600
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
3 BL (llawn-amser)
Tariff UCAS
96-112
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Mynediad
at ganolfan cymorth mathemateg bwrpasol
Yn y 10 uchaf
yn y DU am Llais Myfyrwyr*
Achrediad
gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg
Peirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam
Meddwl am yrfa mewn Peirianneg? Clywch gan ddarlithwyr a myfyrwyr am ein graddau Peirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam.
Pam dewis y cwrs hwn?
O drafnidiaeth ac ynni adnewyddadwy i awyrofod a roboteg, bydd ein gradd Drydanol ac Electronig yn eich rhoi ar flaen y gad o ran technolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg yn y maes peirianneg. Wedi'i achredu gan y Cyngor Peirianneg, mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y mae cyflogwyr gorau eu hangen yn y diwydian
Byddwch yn:
- Derbyn achrediad gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET), gan helpu i wella eich rhagolygon cyflogadwyedd.
- Dysgwch mewn cyfleusterau peirianneg drydanol o'r radd flaenaf.
- Defnyddiwch becynnau meddalwedd o safon diwydiant, sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau ymarferol y mae arweinwyr diwydiant yn gofyn amdanynt.
- Cael mynediad i ganolfan cymorth mathemateg bwrpasol os bydd ei hangen arnoch
- Manteisiwch ar gysylltiadau cryf ag arbenigwyr diwydiant lleol a chenedlaethol, gan roi cyfleoedd i chi fynychu ymweliadau safle a chael mewnwelediadau byd go iawn.
*Mae ein maes pwnc Peirianneg yn y 10 uchaf yn y DU am Asesu ac Adborth, Adnoddau Dysgu a Llais Myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2024)
*Mae ein maes pwnc Peirianneg yn gydradd 3ydd allan o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon am foddhad cyffredinol. (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2024)
Mae’r cwrs hwn hefyd ar gael gyda blwyddyn sylfaen BEng (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig (gyda blwyddyn sylfaen) Cod UCAS: H603
Prif nodweddion y cwrs
- Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar arbenigeddau o fewn Pŵer, Electroneg, Offeryniaeth a Rheolaeth.
- Byddwch yn ennill profiad ymarferol yn ein labordai dylunio a phrofi electronig, labordai electroneg pŵer, labordai rheolwyr rhesymeg rhaglenadwy (PLC) a labordai dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD).
- Byddwch yn archwilio pecynnau meddalwedd Arduino, Raspberry Pi, MATLAB a Simulink, Multisim ac Ultiboard.
- Nod y cwrs hwn yw datblygu eich sgiliau hanfodol: byddwch yn adeiladu eich galluoedd dadansoddi, cyfrifiannu a dylunio, yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy i hybu eich rhagolygon cyflogadwyedd.
- Bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth i chi o oblygiadau cymdeithasol, amgylcheddol a moesegol sy'n effeithio ar y diwydiant.
*Mae 92.8% o’n graddedigion Peirianneg mewn gwaith cyflogedig neu’n astudio 15 mis ar ôl graddio yn unol â’n Harolwg Canlyniadau Graddedigion, 21/22’
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
Bydd modiwlau lefel 4 yn gosod y sylfaeni ar gyfer gweddill eich rhaglen gradd ac yn eich arfogi gyda’r sgiliau damcaniaethol ac ymarferol sydd eu hangen arnoch i gwblhau’n llwyddiannus y blynyddoedd astudio sydd yn weddill gennych.
MODIWLAU
- Mathemateg Beirianyddol
- Cyflwyniad i Wyddoniaeth Drydanol a Mecanyddol
- CAD a Gwyddoniaeth Cynhyrchu
- Datblygiad Proffesiynol Peirianneg
- Hanfodion Rhaglennu
- Electroneg Analog a Digidol
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
Yn y flwyddyn hon byddwch yn arbenigo yn y llwybr o’ch dewis. Byddwch yn astudio cyfuniad o fodiwlau craidd a naill ai’r modiwlau trydanol neu electronig ar lefel 5, yn ddibynnol ar y llwybr astudio a ddewiswyd gennych.
MODIWLAU
- Peirianneg Bellach Mathemateg
- Dyfodol Peirianneg – Ymchwil, Moeseg a Chynaliadwyedd
- Dylunio System Reoli Deallus
- Peirianneg Pŵer Trydanol
- Automations Diwydiannol & PLCs
- Systemau Mewnblanedig
BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)
Bydd ffocws eich blwyddyn olaf ar eich prosiect peirianneg dan oruchwyliaeth. Bydd hyn yn gyfle ichi ddangos y sgiliau peirianneg rydych wedi eu datblygu yn y blynyddoedd blaenorol. Bydd gweddill y credydau lefel 6 ar gyfer eich blwyddyn olaf yn dod naill ai o fodiwlau trydanol neu electronig, yn ddibynnol ar y llwybr astudio a ddewiswyd gennych.
MODIWLAU
- Prosiect (40 credyd)
- Peirianneg Broffesiynol
- Dylunio a Phrofi Electronig
- Prosesu Signal Digidol
Y Llwybr Electronig (dewisol)
- Cyfathrebu ac Antenau Di-wifr
Y Llwybr Trydanol (dewisol)
- Electroneg Pŵer a Pheiriannau Trydanol
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Y gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn yw 96-112 pwyntiau tariff UCAS ar TAG Safon Uwch neu gyfatebol, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg.
Addysgu ac Asesu
Defnyddir nifer o ddulliau asesu; ymysg y rhain mae profion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos o waith labordy, a CAD. Gall cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad, ochr yn ochr ag arholiadau dan gyfyngiad amser. Mae pob modiwl yn cael ei asesu drwy ddulliau amrywiol, gan alluogi’r myfyrwyr i ddangos eu llawn botensial. Bydd traethawd estynedig yn ffurfio un o rannau terfynol eich asesiad.
DYSGU AC ADDYSGU
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau.
Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall gwasanaethau cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae’r cwrs yn eich arfogi gyda gwybodaeth a sgiliau trylwyr mewn peirianneg sydd ar flaen y gad pan ddaw hi i dechnolegau newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg. Bydd gan raddedigion y fantais o ddod yn arbenigwyr pwnc yn y diwydiant neu fynd ar drywydd gyrfaoedd ymchwil yn y byd academaidd.
Mae yna brinder peirianwyr trydanol/electronig cymwys yn y DU ar hyn o bryd. O ganlyniad bydd cymhwyster yn y maes hwn yn eich gwneud yn ddeniadol i gyflogwyr ar unwaith. Bydd gennych y sgiliau i gyfrannu i’r gwaith o ddylunio a datblygu systemau a phrosesau electronig. Mae cyfleoedd cyflogaeth ar gael yn y diwydiant awyrofod mewn systemau offeryniaeth electronig (lefel technegydd neu beiriannydd) neu yn y lluoedd arfog.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.
Yn amodol ar ail-achredu
Rhaid adnewyddu achrediad/cydnabyddiaeth allanol gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio (CPSRh) o dro i dro ar gyfer cyrsiau sy’n bodoli eisoes. Mae’r manylion ar y wefan yn seiliedig ar achrediad fersiwn flaenorol neu gyfredol y cwrs, a gwneir y diweddariadau a ragwelir cyn gynted ag y gwyddom amdanynt.
Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn dal i fod ‘yn amodol ar ail-achredu’ yn cael eu hachredu yn ôl y disgwyl, fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na chaiff yr achrediad ei gymeradwyo yn ôl y disgwyl, neu ei newid neu ei ohirio’n sylweddol, cewch eich hysbysu gan y Brifysgol.