Two students wearing safety goggles working under the bonnet of a car

Manylion cwrs

Côd UCAS

H331

Blwyddyn mynediad

2025

Hyd y cwrs

4 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

48-72

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

*Yn amodol ar ail-ddilysu

Course Highlights

Addysgu

perthnasol i'r diwydiant.

Mynediad

i weithdy chwaraeon modur arbenigol.

Gradd sy'n canolbwyntio ar yrfa

gyda chyfle am Ardystiad Catia*.

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r radd anrhydedd hon wedi ei ddylunio ar gyfer y diwydiant modurol mewn ymateb i'r diffyg mewn peirianwyr mecanyddol. Mae’r cwrs ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb cryf mewn peirianneg fecanyddol ac awydd clir i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn peirianneg fodurol.

Mae’r cwrs yn archwilio peirianneg, dyluniad, dadansoddiad a datblygiad ceir modern yn llawn, gan ddefnyddio ceir rasio amrywiol i gefnogi'r addysgu. Mae hefyd yn rhoi pwyslais ar ddysgu sgiliau trosglwyddadwy sy’n gymwys ar gyfer nifer o ddiwydiannau eraill.

O astudio’r Flwyddyn Sylfaen, bydd dysgwyr yn gallu datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn disgyblaethau Peirianneg a’u cymwysiadau sydd yn helpu dysgwyr i baratoi ar gyfer blynyddoedd pellach o astudio a llwyddiant mewn gradd beirianneg.

 

*Mae ein maes pwnc Peirianneg yn y 10 uchaf yn y DU am Asesu ac adborth, adnoddau dysgu a llais myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2024) 

*Mae ein maes pwnc Peirianneg yn gydradd 3ydd allan o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon am foddhad cyffredinol. (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2024) 

Gallwch hefyd ddewis astudio’r cwrs yma fel rhaglen tair blynedd (heb flwyddyn Sylfaen) BEng (Anrh) Peirianneg Fodurol Cod UCAS: H431

Peirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam

Meddwl am yrfa mewn Peirianneg? Clywch gan ddarlithwyr a myfyrwyr am ein graddau Peirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam.

Prif nodweddion y cwrs

Byddwch yn:

  • cael mynediad at weithdy chwaraeon modur arbenigol yn ogystal â gweithdy cynhyrchu o safon diwydiant i gael profiad o ddefnyddio peiriannau.
  • cael cyfle i weithio ar brosiectau amrywiol sy'n esblygu'n barhaus. Mae prosiectau cyfredol yn cynnwys: car ras wedi'i bweru gan feiciau un sedd, Westfield SEi, Renault 5 RWD Electric, Toyota Auris hybrid ymysg llawer o rai eraill) * yn amodol ar newid. Mae myfyrwyr hefyd yn rhedeg tîm Formula Student ar hyn o bryd. 
  • astudio yn un o ddau ddarparwr addysg yn y DU sy'n ganolfannau Ardystio Catia swyddogol, sy'n golygu bod myfyrwyr yn gallu ennill Ardystiad Catia yn ogystal â'u hastudiaethau gradd. (*Mae'n ofynnol i fyfyrwyr dalu ffi Ardystio o £50). 

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)

Bydd y flwyddyn sylfaen yn rhoi sail i fyfyrwyr ym mhob agwedd o Beirianneg a Dylunio er mwy eu paratoi ar gyfer blynyddoedd pellach o astudio.

BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)

Mae'r rhan helaeth o'r wybodaeth sylfaenol beirianneg yn cael ei chyflwyno/ei hadolygu a'i ehangu ar hyn o bryd. Dilynir yr holl ddarlithoedd gan diwtorialau ac arddangosiadau ymarferol/arddangosiadau er mwyn sicrhau eich bod yn cymhathu'r wybodaeth yn llawn.

MODIWLAU:

  • Mathemateg Beirianyddol
  • Cyflwyniad i Wyddoniaeth Peirianneg Drydanol a Mecanyddol
  • Gwyddoniaeth CAD a Chynhyrchu
  • Datblygiad Proffesiynol Peirianneg
  • Deunyddiau a’r Amgylchedd
  • Systemau Modurol

BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)

Ar y lefel hon, byddwch yn cael eich annog i weithio a dysgu'n fwy annibynnol. Rydym nid yn unig yn eich paratoi i fod yn ymarferydd gwybodus, ond rydym hefyd yn eich paratoi i ddod yn ddatryswr problemau dibynadwy ac annibynnol. 

MODIWLAU:

  • Dyfodol Peirianneg – Ymchwil, Moeseg a Chynaliadwyedd 
  • Mathemateg Beirianyddol Bellach
  • Mecaneg, Strwythurau a FEA
  • Gweithgynhyrchu drwy Gymorth Cyfrifiadurol
  • Dylunio Modurol
  • Trenau Pŵer Modurol a Hylifau

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)

Dyma flwyddyn olaf y radd Baglor. Yn gyffredinol, mae'r semester cyntaf yn canolbwyntio ar ddatblygu'r wybodaeth fodurol benodol. Bydd eich prosiect unigol yn eich galluogi i arbenigo ymhellach i faes o'ch dewis. Ar ddiwedd hyn, byddwch yn beiriannydd graddedig yn barod ar gyfer diwydiant!

MODIWLAU:

  • Modelu ac Efelychu Peirianneg Fecanyddol
  • Dynameg Fodurol
  • Trenau Pŵer Modurol Modern
  • Prosiect

Opsiynol (1 i’w ddewis)

  • Peirianneg Broffesiynol
  • Ymarfer Chwaraeon Modurol

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Ein gofynion mynediad cyffredinol ar gyfer y flwyddyn sylfaen yw 48-72 pwynt tariff UCAS ond caiff pob cais ei ystyried yn unigol ac rydym yn ystyried profiad gwaith, hyfforddiant/cymwysterau galwedigaethol, yn ogystal â chymhelliant a’r potensial i lwyddo.

Addysgu ac Asesu

Defnyddir nifer o ddulliau asesu; mae'r rhain yn cynnwys ymarferion seiliedig ar dasgau, cyflwyniadau llafar a phoster, traethodau ac adroddiadau labordy ac arholiadau ysgrifenedig. Asesir pob modiwl trwy amrywiaeth o ddulliau, gan alluogi myfyrwyr i ddangos eu llawn botensial. Bydd traethawd estynedig y prosiect yn ffurfio un o rannau terfynol eich asesiad.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau.Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall gwasanaethau cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae’r amrywiaeth gyffrous o ddewisiadau gyrfa sydd ar gael i chi pan fyddwch yn graddio yn cynnwys gweithio gyda gweithgynhyrchwyr ceir a’u rhwydwaith gyflenwi, ymchwilio a datblygu cerbydau modur, gwaith ymgynghori, rheoli peirianneg, dylunio moduron, yn ogystal ag yn y diwydiant chwaraeon modur.

Mae prinder cenedlaethol o beirianwyr sydd â chymwysterau llawn yn y diwydiant moduron; drwy fod â gradd mewn technoleg cerbydau byddwch yn rhagori ar y rhelyw pan ddaw hi i chwilio am waith.

Mae cyfleoedd yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i):

  • dynameg car rasio
  • electroneg chwaraeon modurol
  • peirianneg y ffrâm
  • strwythurau ceir rasio
  • technolegau electronig
  • peiriannau perfformio.

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

 Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.

 

Yn amodol ar ail-ddilysu

Fel rhan o’i phroses barhaus o sicrhau a gwella ansawdd, mae’r Brifysgol yn adolygu ei chyrsiau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr. Pob yn bum mlynedd mae angen cynnal adolygiad cyfnodol o’r holl raglenni cyfredol, ac mae’n bosib y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i raglenni yn ystod y broses o ail-ddilysu.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn ‘amodol ar ail-ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.

Rhyngwladol

Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.

I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.