BSc (Anrh) Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol (Prentisiaeth Gradd)

A computer monitor shows a project that a student is working on. In the backgroun, a student is wearing motion capture equipment.

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2025

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae galw mawr am Beirianwyr Meddalwedd, gyda'r sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth i ddatblygu, datblygu, dylunio a chynnal cymwysiadau a systemau cyfrifiadurol modern. Bydd y radd hon yn edrych ar sgiliau Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol craidd, systemau a thechnolegau sylfaenol sy'n parhau i effeithio ar ddiwydiant a chymdeithas.

 

Bydd myfyrwyr yn:

  • Ennill gradd lawn mewn tair blynedd o astudiaeth ran-amser
  • Astudio un diwrnod yr wythnos, gan dreulio’r pedwar diwrnod sydd yn weddill yn y gwaith
  • Datblygu sgiliau y mae galw mawr amdanynt mewn rhaglennu cyfrifiadurol, datblygu cronfeydd data, rhwydweithio, datblygu gwefannau a dylunio systemau gwybodaeth
  • Datblygu sgiliau ymarferol a fydd yn ddefnyddiol mewn unrhyw faes busnes, megis datrys problemau, gwaith tîm, rheoli prosiect a sut i ddefnyddio technoleg gwybodaeth yn effeithiol a deall meddalwedd arbenigol
  • Cymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau proffesiynol sy’n cael eu datblygu yn y rhaglen i’w gweithle eu hunain.

Prif nodweddion y cwrs

  • Bydd myfyrwyr yn datblygu a chymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau proffesiynol a ddatblygwyd gyda’r rhaglen hon o ddysgu i’w gweithle.
  • Bydd y llwybr hwn, a ddatblygwyd fel partneriaeth tair ffordd rhwng y cyflogwr, y myfyriwr a’r tîm rhaglen academaidd, yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau y bydd galw mawr amdanynt i’r dyfodol, gan gwrdd â bylchau sgiliau rhanbarthol.
  • Drwy ddefnyddio’r flwyddyn galendr lawn a chymhwyso daliadau craidd dysgu seiliedig ar waith, bydd myfyrwyr yn cyflawni eu dyfarniad yn yr un cyfnod â myfyriwr amser llawn safonol.
  • Labordai TG newydd eu hadnewyddu.
  • Cynhaliwr cynhadledd ymchwil rhyngrwyd bob dwy flynedd yn denu cynrychiolwyr o bob cwr o'r byd.
  • *Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 4ydd yn y DU am brofiad y myfyriwr yn nhablau cynghrair pwnc Cyfrifiadura, Times and Sunday Times Good University Guide 2022.

 

 
 

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Mae Lefel 4 yn cynnwys deunydd sylfaenol hanfodol sydd yn berthnasol i bob un o’n rhaglenni cyfrifiadura. Byddwch yn dysgu sgiliau sy’n benodol i’r pwnc ynghyd â sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu eich rhagolygon cyflogadwyedd.

Gyda chefnogaeth eich tiwtoriaid, byddwch yn dysgu am rai o’r ffeithiau, cysyniadau, egwyddorion a damcaniaethau hanfodol sy’n berthnasol i gyfrifiadura a chymwysiadau cyfrifiadurol. Byddwch yn gallu arddangos gwybodaeth ymarferol am rai o’r offer, arferion a methodolegau a ddefnyddir i lunio manylebau, dylunio, gweithredu a phrofi systemau meddalwedd cyfrifiadurol.

MODIWLAU

  • Systemau Cyfrifiadurol
  • Rheoli Data
  • Datrys Problemau gyda Rhaglennu
  • Dylunio a Datblygu Gwefannau
  • Methodolegau Dylunio
  • Llywodraethu

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Yn lefel 5 byddwch yn parhau i ddysgu hanfodion y ddisgyblaeth, gyda modiwlau mwy arbenigol yn dechrau cael eu cyflwyno. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect grŵp lle byddwch yn datblygu sgiliau pwysig mewn technegau rheoli prosiectau a materion proffesiynol a moesegol rheoli prosiect. Byddwch hefyd yn dyfnhau eich gwybodaeth o gysyniadau a dulliau rhaglennu yn ogystal â chael cyflwyniad i dechnegau datblygu systemau a materion proffesiynol, cyfreithiol a moesegol sydd yn berthnasol i’r diwydiant cyfrifiadura a TG.

MODIWLAU

  • Cronfeydd Data a Systemau Gwybodaeth Ar-lein
  • Cynllunio Profiad Defnyddiwr
  • Datblygu Apiau Rhyngrwyd a Symudol
  • Dylunio meddalwedd diogel
  • Strwythurau Data ac Algorithmau
  • Prosiect seiliedig ar waith

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

Unwaith ichi gyrraedd eich blwyddyn olaf, byddwch yn datblygu eich sgiliau ymhellach drwy fodiwlau a addysgir ac ymchwil, gan ganolbwyntio ar y datblygiadau diweddaraf yn y ddisgyblaeth o’ch dewis. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect blwyddyn olaf unigol, a fydd yn eich paratoi ar gyfer y math o dasgau a sefyllfaoedd y gallech ddod ar eu traws yn y gweithle. Bydd y gwaith ymarferol a gwaith prosiect yn eich blwyddyn olaf yn gofyn am y math o werthuso o ffactorau technegol ac annhechnegol a rheoli methodolegau a thechnegau datblygu systemau y mae gweithwyr TG proffesiynol yn eu defnyddio yn gynnar yn eu gyrfaoedd. 

MODIWLAU

  • Rheoli Prosiect TG
  • Data Gwasgaredig a Dadansoddeg Data
  • Datblygu Symudol Uwch
  • Technolegau’r Dyfodol
  • Prosiect

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Gofynion mynediad safonol y Brifysgol ar gyfer y rhaglen hon yw (ar gyfer mynediad lefel 4):

  • 48 pwynt tariff UCAS o gymhwyster lefel 3 priodol megis Safon Uwch 
  • 5 TGAU gradd A*-C, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith. 

Bydd ymgeiswyr heb y pwyntiau tariff UCAS angenrheidiol, neu sydd â chymwysterau heb bwyntiau tariff UCAS yn cael eu hystyried ar sail eu profiad proffesiynol yn y diwydiant maent yn bwriadu astudio’r brentisiaeth ynddo. Bydd yr holl ymgeiswyr nad ydynt yn cwrdd â’r gofynion uchod yn cael eu cyfweld cyn i gynnig o le gael ei wneud, gan roi cyfle i’r rhai hynny sydd heb bwyntiau tariff UCAS ffurfiol gael arddangos sut mae eu sgiliau a’u profiadau oddi mewn i’r diwydiant yn eu gwneud yn ymgeisydd addas ar gyfer y rhaglen hon o astudiaeth.

I wneud cais am y llwybr prentisiaeth gradd, defnyddiwch ein cliciwch yma.

Addysgu ac Asesu

Ystyrir asesu fel rhan annatod o ddysgu ac mae meini prawf asesu yn gysylltiedig â deilliannau dysgu modiwlau unigol.

Mae'r dulliau asesu yn cynnwys asesiadau ymarferol, adroddiadau a thraethodau, dadansoddi astudiaethau achos, cyflwyniadau llafar, papurau seminar, gwaith prosiect, portffolio datblygiad personol, arholiadau a phrofion dosbarth dibaratoad. Bydd asesu yn cynnwys aseiniadau unigol a rhai grŵp/tîm.

Yn y modiwlau diogelwch arbenigol, bydd myfyrwyr yn gallu cael profiad ymarferol o asesu ymarferol lle byddant yn ffurfweddu ystod o systemau cyfrifiadurol a mynd trwy brosesau profion hacio a hacio moesegol. 

Yn ychwanegol i’r asesiadau safonol, bydd disgwyl i brentisiaid arddangos cymwyseddau ac ymddygiad proffesiynol yn y gweithle. Mae cytundeb tair ffordd yn cael ei gytuno rhwng y cyflogwr, y prentis a’r Brifysgol a fydd yn manylu’r hyfforddiant yn y gwaith a’r cymwyseddau proffesiynol, yn benodol i’r cyflogwr unigol (megis arferion gweithio, strwythurau a phrosesau’r cwmni, sefydlu, ac ymddygiad proffesiynol).

DYSGU AC ADDYSGU

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Disgwylir i fyfyrwyr fod mewn swyddi amser llawn berthnasol a chymhwyso dysgu perthnasol i’w gweithle drwy brosiectau cymhwysol a thrwy ddefnyddio enghreifftiau o’r byd go iawn yn eu hasesiadau.

 
 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae cyfrifiadura yn hanfodol i’r rhan fwyaf o yrfaoedd y dyddiau hyn, bodd bynnag, bydd y cwrs hwn yn eich paratoi yn benodol ar gyfer nifer o swyddi penodol sy’n gysylltiedig â’r diwydiant, megis:

  • Dylunydd rhwydwaith/cronfeydd data
  • Rheolwr rhwydwaith/cronfeydd data
  • Datblygwr gwefannau
  • Datblygwr / datblygwr apiau meddalwedd
  • Rolau rhyngweithiol amlgyfrwng
  • Cymorth TG
  • Ymgynghoriaeth TG
  • E-fasnach

 

 
 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

 
 

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.