Close up of hands gesticulating, in front of a laptop, pen and notebook.

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2025

Hyd y cwrs

2 BL (Rhan-Amser)

Tariff UCAS

48-72

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Ffocws

ar dwf busnes a dilyniant gyrfa   

Cwricwlwm

eang wedi'i gynllunio gan weithwyr proffesiynol y diwydiant 

Wedi'i Harchredu

gan CMI

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r cymhwyster unigryw hwn sy'n seiliedig ar waith wedi'i gynllunio ar gyfer y gweithiwr proffesiynol sydd am ddatblygu ei wybodaeth fusnes a'i sgiliau rheoli i symud ymlaen ymhellach yn ei yrfa neu gymryd cyfeiriad newydd.

Byddwch yn:

  • Astudio gradd ran-amser a fydd yn eich galluogi i ganolbwyntio ar eich sefydliad eich hun tra'n cael mewnwelediad i ddiwydiannau eraill
  • Astudiwch gwrs sy’n cael ei arwain gan y diwydiant ac sy’n canolbwyntio ar yrfadiolch i’n perthynas gref â chyflogwyr mawr sydd wedi cyfrannu at gynnwys y cwrs, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu galw a gofynion y diwydiant heddiw
  • Ennill sgiliau uwch o ran cyflwyno, cymhwyso theori ac ysgrifennu academaidd
  • Dysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant
  • Gallu cael mynediad at amrywiaeth o fanteision gan gynnwys gwasanaethau ymgynghorol a chanolfan e-ddysgu BGA oherwydd bod Prifysgol Wrecsam yn Aelod Efydd o Gymdeithas Graddedigion Busnes

Bydd cwblhau'n llwyddiannus ar Lefel 4 (15 mis) yn rhoi Tystysgrif Addysg Uwch mewn Rheolaeth Busnes Cymhwysol i chi, tra bod 15 mis ychwanegol o ddysgu llwyddiannus yn cyflawni Gradd Sylfaen. Gallwch ychwanegu at BA (Anrh) mewn Rheolaeth Busnes Cymhwysol gydag astudiaeth 15 mis ychwanegol ar Lefel 6.  

 

Person sat on a laptop

Busnes ymMhrifysgol Wrecsam

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae’r cwrs hwn yn mabwysiadu dull dysgu cyfunol hyblyg, sy’n cynnwys dysgu wyneb yn wyneb a thasgau ar-lein i gyd yn cynnwys cynnwys sydd wedi’i deilwra ar gyfer gwella gyrfa ar draws ystod eang o ddiwydiannau. Wedi'u hintegreiddio i'n Diwrnodau Dysgu mae darlithoedd gan arbenigwyr o’r diwydiantar y cyd â rhaglen Syniadau Mawr Cymru.
  • Mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy'n gweithio'n llawn amser. Mae'n ymdrin ag ystod eang o themâu busnes, gan gynnwys arweinyddiaeth a rheolaeth, marchnata, arloesi, gweithrediadau, HRM a mwy. Mae'r themâu hyn yn rhyng-gysylltiedig ac yn cael eu cymhwyso i'ch sefydliad.
  • Mae cymhwyso theori yn uniongyrchol i'ch busnes yn gwella dealltwriaeth o'r sefydliad cyfan ac yn darparu strategaethau ar gyfer twf, arloesi a datblygu busnes.
  • Rydym yn deall y pwysau o weithio’n llawn amser wrth astudio, felly, rydym yn ymfalchïo yn y gefnogaeth a ddarperir gennym wrth i chi lywio eich ffordd drwy’r radd.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae’r cwricwlwm cynhwysfawr yn trafod disgyblaethau busnes allweddol, gan gynnwys marchnata, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol, datblygu sgiliau arweinyddiaeth busnes ymarferol a damcaniaethol.

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

MODIWLAU

  • Yr Amgylchedd Busnes Modern: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth o reolaeth ac arweinyddiaeth trwy archwilio nodweddion a sgiliau rheolwyr ac arweinwyr. Bydd y modiwl yn rhoi cipolwg ar natur a swyddogaethau rheolaeth trwy astudio sefydliadau lleol, cenedlaethol a byd-eang. Bydd y modiwl hefyd yn datblygu eich sgiliau astudio, gan gyflwyno cyfeirnodi, sgiliau ysgrifennu academaidd ac arweiniad ar gyfer deall briffiau aseiniadau.
  • Marchnata mewn Byd Digidol: Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno egwyddorion ac arferion marchnata yn yr amgylchedd busnes digidol cyfoes. Nid yw'n rhagdybio unrhyw wybodaeth flaenorol o'r pwnc. Mae’r modiwl yn rhoi trosolwg o natur a chwmpas marchnata a’r grymoedd amgylcheddol sy’n effeithio ar weithgarwch marchnata mewn oes ddigidol, gan eich annog i gofleidio’r cyfleoedd y mae technolegau digidol yn eu cyflwyno er mwyn bodloni amcanion y sefydliad mewn cyd-destun cymhwysol. Trafodir cysyniadau ac arferion dadansoddi a chynllunio marchnata, gan gynnwys segmentu, targedu a lleoli ac arferion gorau ar gyfer marchnata defnyddwyr a sefydliadol gan dynnu ar astudiaethau achos ac enghreifftiau o ddiwydiant. Rhoddir sylw hefyd i bob newidyn hanfodol o'r cymysgedd marchnata a'i effaith ar gynllunio marchnata ac archwilir marchnata digidol - y dirwedd sy'n esblygu'n barhaus a'r offer marchnata digidol, sianeli a chyfryngau 
  • Arloesedd ac Entrepreneuriaeth: Nod y modiwl hwn yw rhoi’r wybodaeth i chi ddeall entrepreneuriaeth, entrepreneuriaid a’r cyfraniad i gymdeithas a’r economi. Mae'n archwilio cynhyrchu syniadau ac arloesi ymhellach ac yn eich galluogi i gynnal senario maes busnes ar gyfer buddsoddiad posibl. Bydd yn cynnig cyfle i chi ddewis a chymhwyso technegau entrepreneuraidd sy’n canolbwyntio ar gyfleoedd i ddatblygu meddwl creadigol, dadansoddi ariannol, a sgiliau datrys problemau. Byddwch yn gallu cyflwyno'ch syniadau arloesol ar ddiwedd y modiwl. 

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

MODIWLAU

  • Rheoli Heriau Busnes Cyfoes: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o gysyniadau allweddol o fewn busnes, egwyddorion cyfathrebu rhanddeiliaid a rheoli perthnasoedd, a goblygiadau ymarferol cyfraith busnes. Bydd y bloc addysgu hwn yn cael ei astudio trwy ddull astudio achos, dysgu o achosion busnes go iawn, a chymhwyso'r wybodaeth i sefyllfaoedd ymarferol.
  • Gwella Perfformiad Sefydliadol: Ffocws sylfaenol y modiwl fydd egwyddor sylfaenol y llinell waelod driphlyg - y fframwaith cyfrifyddu sy'n ymgorffori mesurau llwyddiant cymdeithasol, ariannol ac amgylcheddol. Byddwch yn ymchwilio i bob un o'r dimensiynau hyn ac yn dysgu sut mae'n bosibl cymhwyso a datblygu'r cysyniadau hyn i werthuso a gwella perfformiad busnes mewn persbectif eang i greu mwy o werth busnes a mantais gystadleuol.
  • Diwylliant Sefydliadol a Datblygiad Pobl: Modiwl yw hwn sydd â’r nod o gydnabod pwysigrwydd gallu cymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd yn ystod y rhaglen i wella arferion yn y gweithle. dyma gyfle i ymchwilio i syniadau arloesol ar gyfer gwelliannau i fater penodol yn y gweithle, a byddwch yn cael eich annog i ganolbwyntio ar eich datblygiad personol a phroffesiynol o fewn y cyd-destun gwaith.  

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 48-72 o bwyntiau tariff UCAS ar TAG Safon Uwch a/neu brofiad perthnasol.  

Mae’n rhaid ichi gael mynediad at gyfrifiadur a chyswllt rhyngrwyd.

Addysgu ac Asesu

Addysgir y radd Sylfaen dros ddwy flynedd yn rhan amser. Rydym yn cynnal 12 Diwrnod Dysgu y flwyddyn, a disgwylir presenoldeb o 9.30 – 4.30 ar gampws Plas Coch. Yn ogystal, bydd tasgau ar-lein wythnosol i'w cwblhau a fydd yn sail ac yn ategu ein Diwrnodau Dysgu.  

Mae tri, 40 credyd, modiwl y flwyddyn, pob un â phedwar Diwrnod Dysgu. Mae ein Diwrnodau Dysgu yn cynnwys darlithoedd bach, siaradwyr gwadd, trafodaethau a gweithgareddau ymarferol.   

Mae gan bob modiwl ddau asesiad. Mae'r rhain yn amrywio o adroddiadau ysgrifenedig, portffolios, tasgau ymarferol a gallant fod yn waith unigol neu grŵp. 

Rhagolygon gyrfaol

Mae ein tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ymroddedig wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni'ch nodau proffesiynol. Maent yn darparu cyngor personol, adnoddau defnyddiol, a digwyddiadau cyflogadwyedd allgyrsiol

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn cynnig ystafelloedd en-suite ar y campws yn ein Pentref Myfyrwyr Wrecsam. Mae'r mannau preifat, wedi'u dodrefnu'n llawn hyn mewn lleoliad cyfleus, gan ddarparu mynediad hawdd i gyfleusterau campws, ardaloedd astudio, a mannau cymdeithasol. Hefyd, dim ond 10 munud ar droed ydych chi o ganol y ddinas! 

Gyda'r holl filiau wedi'u cynnwys, Wi-Fi am ddim, diogelwch 24/7, a meysydd cymdeithasol mawr, fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer profiad myfyriwr gwych. 

Archwiliwch ein hopsiynau llety i ddod o hyd i'ch cartref perffaith oddi cartref.