BSc (Anrh) Rhwydweithiau a Diogelwch Cyfrifiadurol (Gyda Lleoliad Diwydiant)

Manylion cwrs
Côd UCAS
CNIP
Blwyddyn mynediad
2023
Hyd y cwrs
4 BL (llawn-amser)
Tariff UCAS
80-112
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r cwrs yma sy’n canolbwyntio’n ddwys ar dechnoleg wedi ei ddylunio mewn ymateb i fylchau adnabyddedig mewn sgiliau yn y diwydiant TG. Mae'n cynnwys cymysgfa o fodiwlau technoleg, diogelwch a rhwydweithio gyda sawl cyfle ymarferol.
Mae busnesau heddiw'n mynnu'r gallu i gael systemau a rhwydweithiau cyfrifiadurol sy'n gweithredu ar raddfa fyd-eang - felly mae galw uchel am bobl gyda'r sgiliau i wneud i hyn ddigwydd.
Bydd myfyrwyr yn:
- Datblygu sgiliau hanfodol a meddwl blaengar er mwyn magu'r hyder i gadw fyny gyda chyflymder y newid yn y maes hwn.
- Datblygu gwybodaeth dechnegol ynghylch gosod, diogelwch gweithredu a chynnal systemau a rhwydweithiau cyfrifiadurol a ddefnyddir mewn busnes a diwydiant.
- Datblygu sgiliau allweddol hanfodol ar gyfer y diwydiant megis gweithio mewn tîm, cyfathrebu a sgiliau busnes.
- Cael cyfle i weithio ar brosiectau go iawn.
- Dysgu am hanfodion cyfathrebu data a sut i gymhwyso’r wybodaeth hon i reoli, dylunio, cyflawni, ffurfweddu a gweithredu rhwydweithiau diogelwch ar delerau proffesiynol.
- Dysgu sut i adnabod ystod o fygythiadau o bwys i ddiogelwch rhwydweithiau a chreu a gweithredu strategaethau amddiffyn.
- Cael cyfle i gwblhau cymhwyster Aelod Cyswllt Rhwydwaith Ardystiedig Cisco (CCNA) wrth astudio ar gyfer eu gradd.
- Cael mynediad at offer diweddaraf Cisco Systems a ddefnyddir mewn sesiynau ymarferol.
- Cael opsiwn i wneud Blwyddyn o Leoliad Diwydiant.
- *Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 3ydd yn y DU ac yn 1af yng Nghymru am foddhad ag addysgu ac yn ail yn y DU ac yn 1af yng Nghymru am foddhad gyda’r cwrs yn nhablau cynghrair pwnc Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth, The Guardian University Guide 2022.
- *Astudio cwrs sy'n rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 4ydd yn y DU am brofiad y myfyriwr yn nhablau cynghrair pwnc Cyfrifiadura, Times and Sunday Times Good University Guide 2022.


Cyfrifiadura Mhrifysgol Wrecsam
Prif nodweddion y cwrs
- Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan Gymdeithas Cyfrifaduron Prydain.
- Cyfleusterau health o gyfrifiaduron personol a chyfrifiaduron wedi eu rhwydweithio gyda mynediad i’r Rhyngrwyd.
- Labordy cyfrifiaduron arbenigol sy’n bwrpasol ar gyfer rhwydweithio cyfrifiadurol.
- Mae’r maes pwnc cyfrifiadura yn Academi a gydnabyddir gan Cisco. Cewch gyfle i gwblhau cymhwyster Cydymaith Rhwydwaith Ardystiedig Cisco (CCNA) wrth ichi astudio ar gyfer eich gradd.
- Mae’r flwyddyn Lleoliad Diwydiant dewisol yn gyfle i fyfyrwyr ennill profiad uniongyrchol o’r gweithle ac ennill profiad gwaith gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.
- Mae’r cwrs yma yn ymateb i fylchau sgiliau adnabyddedig a byddwch yn datblygu'r ddealltwriaeth, y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth lwyddiannus.
- Mae’r Brifysgol yn gartref i ARCLab, sydd yn arbenigo mewn ymchwil ym maes Cyfrifiadura a Chyfrifiadureg.
- Mae’r Flwyddyn Lleoliad Diwydiant yn gyfle i fyfyrwyr ennill profiad uniongyrchol o’r gweithle ac ennill profiad gwaith gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.
- *Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 3ydd yn y DU ac yn 1af yng Nghymru am foddhad ag addysgu ac yn ail yn y DU ac yn 1af yng Nghymru am foddhad gyda’r cwrs yn nhablau cynghrair pwnc Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth, The Guardian University Guide 2022.
- *Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 4ydd yn y DU am brofiad y myfyriwr yn nhablau cynghrair pwnc Cyfrifiadura, Times and Sunday Times Good University Guide 2022.
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
Bydd eich blwyddyn gyntaf yn cynnwys deunydd sylfaenol hanfodol sy'n berthnasol i bob un o'n rhaglenni cyfrifiadura. Byddwch yn dysgu sgiliau sy'n benodol i'r pwnc ynghyd â sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu eich rhagolygon cyflogadwyedd.
Gyda chefnogaeth eich tiwtoriaid, byddwch yn dysgu am rai o'r ffeithiau, cysyniadau, technegau, prosesau dylunio hanfodol a hefyd cyd-destun rhwydweithiau cyfrifiadurol. Byddwch hefyd yn dysgu am faterion yn ymwneud â chaledwedd, gan gynnwys rhyngweithio a chyfathrebu data, a'u heffaith ar gynllunio a pherfformiad cyffredinol systemau cyfrifiadurol.
MODIWLAU
- Systemau Cyfrifiadurol
- Rheoli Data
- Datrys Problemau a Rhaglennu
- Peirianneg Gwybodaeth a Systemau
- Dylunio a Datblygu Gwefannau
- Hanfodion Rhwydweithiau a Diogelwch
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
Yn eich ail flwyddyn byddwch yn parhau i ddysgu am hanfodion y ddisgyblaeth, ac mae modiwlau mwy arbenigol yn dechrau cael eu cyflwyno. Byddwch yn datblygu eich sgiliau ymchwiliol a chyfrifiadurol trwy eu rhoi ar waith mewn gwaith labordy ac ymarferol i feysydd fel dylunio rhwydweithiau. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect grŵp, gydag astudiaeth ddichonolrwydd yn rhan ohono, i ddylunio, cynhyrchu a phrofi prototeip o system rhwydwaith neu gynnyrch. Erbyn diwedd eich ail flwyddyn, byddwch yn gallu dangos y sgiliau rhyngbersonol, trefnu ac astudio sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth israddedig ac ar gyfer dysgu gydol oes mewn gyrfa fel peiriannydd rhwydweithio proffesiynol.
MODIWLAU
- Technoleg Gweinydd
- Rhwydweithio: Ehangu Rhwydweithiau
- Cyfrifiadura Cyfrifol
- Cyfrifiadura Cymhwysol
- Prosiect Grŵp
Blwyddyn 3 (Lleoliad Diwydiant)
Yn ystod y flwyddyn hon, byddwch yn mynychu sesiynau tiwtorial ynglŷn â’r flwyddyn leoliad, gan gynnwys y broses o ganfod lleoliad addas, disgwyliadau eich blwyddyn lleoliad ac arweiniad ar gynhyrchu eich cynnig. Yn semester 2 byddwch yn gweithio gyda Chydlynydd Lleoliad i gyflwyno eich cynnig, a fydd yna’n cael ei ystyried a’i adolygu. O fod yn llwyddiannus yn ystod y broses hon, fe ewch ymlaen i wneud eich Lleoliad Diwydiant yn ystod eich trydedd flwyddyn a byddwch yna’n dychwelyd atom ar gyfer lefel 6 (cyfanswm o 4 blynedd).
BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)
Unwaith ichi gyrraedd eich blwyddyn olaf, byddwch yn datblygu eich sgiliau ymhellach trwy fodiwlau a addysgir a gwaith ymchwil, gan ganolbwyntio ar y datblygiadau diweddaraf yn eich disgyblaeth o ddewis. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect blwyddyn olaf unigol, a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer y math o dasgau a sefyllfaoedd y gallech ddod ar eu traws yn y gweithle. Bydd gwaith ymarferol a gwaith prosiect y flwyddyn olaf yn datblygu ymhellach eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth arbenigol fanwl a hefyd eich sgiliau ymarferol o fewn meysydd allweddol y ddisgyblaeth, fel y'u cymhwysir at ddatblygu systemau a gwasanaethau rhwydweithio trwy ddefnyddio technolegau cyfredol a newydd.
MODIWLAU
- Rheoli Prosiect TG
- Diogelwch Rhwydwaith
- Rheoli Rhwydweithiau a Systemau
- Technolegau’r Dyfodol
- Prosiect
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwyntiau tariff UCAS ar TAG Safon Uwch neu gyfatebol. Caiff cymwysterau Lefel UG a Sgiliau Allweddol Lefel 3 priodol eu hystyried hefyd.
Addysgu ac Asesu
Ystyrir asesu fel rhan annatod o ddysgu ac mae meini prawf asesu yn gysylltiedig â deilliannau dysgu modiwlau unigol. Mae'r dulliau asesu yn cynnwys asesiadau ymarferol, adroddiadau a thraethodau, dadansoddi astudiaethau achos, cyflwyniadau llafar, papurau seminar, gwaith prosiect, portffolio datblygiad personol, arholiadau a phrofion dosbarth dibaratoad. Bydd asesu yn cynnwys aseiniadau unigol a rhai grŵp/tîm.
DYSGU AG ADDYSGU
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae cyfrifiadura yn hanfodol i'r rhan fwyaf o yrfaoedd y dyddiau hyn, fodd bynnag, bydd y cwrs hwn yn eich paratoi yn benodol ar gyfer nifer o swyddi penodol sy'n gysylltiedig â'r diwydiant, megis:
- Rheolwr rhwydwaith
- Dadansoddwr rhwydwaith
- Gweinyddwr systemau
- Arbenigwr diogelwch cyfrifiadurol
- Galwedigaethau eraill yn ymwneud â chyfrifiaduron
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ffioedd dysgu Prifysgol Wrecsam 2023/24 ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.
Rhyngwladol
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.