MSc Cyfrifiadura

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2023, 2024
Hyd y cwrs
1 Fl (LlA) 2 Bl (RhA)
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Datblygwch
arbenigedd annatod sy'n berthnasol i'r diwydiant i fod yn arbenigwr cyfrifiadura ystwyth ac addasadwy.
Arfogwch
eich hun gyda'r wybodaeth graidd i ddod yn ymarferydd effeithiol yn y diwydiant cyfrifiadura.
Cymhwyswch
eich dysgu gyda phrosiect sy'n cynnwys dylunio a gweithredu darn sylweddol o feddalwedd.
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae'r rhaglen hon sy'n canolbwyntio'n broffesiynol yn rhoi i fyfyrwyr nad yw eu gradd gyntaf mewn cyfrifiadura (neu y dyfarnwyd eu gradd gyfrifiadura beth amser yn ôl), y sgiliau sydd eu hangen i ddod yn weithiwr TG proffesiynol sy'n ymarfer.
- Bydd y cwrs yn eich helpu i ddatblygu arbenigedd annatod sy'n berthnasol i'r diwydiant i ddod yn arbenigwr cyfrifiadura ystwyth ac addasadwy.
- Mae'n cynnwys amrywiaeth o ddulliau addysgu a fydd yn rhoi'r wybodaeth graidd i chi ddod yn ymarferydd effeithiol yn y diwydiant cyfrifiadura.
- Cewch eich cefnogi a'ch arwain gan staff profiadol, a fydd yn rhoi cipolwg trylwyr i chi ar raglennu cyfrifiadurol a systemau cronfa ddata.
Prif nodweddion y cwrs
- darparu cyfle i astudio ar lefel ôl-raddedig i'r bobl hynny nad yw eu gradd gyntaf menw cyfrifiadura
- darparu sgiliau arbenigol, technegol ym maes rhwydweithio, neu ddatblygu'r we a symudol, neu Faterion Proffesiynol ac Ymarfer Proffesiynol;
- cynhyrchu ymarferwyr a chanddynt ddealltwriaeth uwch o a'r gallu i ddefnyddio, y caledwedd a'r meddalwedd sydd ar gael ac/neu sydd eu hangen ar gyfer datblygu a defnyddio systemau cyfrifiadurol
- galluogi myfyrwyr i gael hyd i, cwerthuso'n feirniadol a lledaenu canlyniadau ymchwil
- cyfoethogir darlithoedd/tiwtorialau a sesiynau ymarferol gan ddeunyddiau ar-lein ychwanegol, sy’n cynnwys llawer o adnoddau fydd yn eich galluogi i barhau i ddysgu’n annibynnol trwy amrywiaeth o ddulliau
- rhoi sylfaen gadarn i fyfyrwyr ar gyfer ymchwil bellach ac/neu ddatblygiad proffesiynol.
Beth fyddwch chin ei astudio
MODIWLAU
- Dulliau Astudio ac Ymchwil Ôl-raddedig
- Caledwedd a Meddalwedd Rhwydweithio
- Technegau a Thechnolegau Rhwydweithio
- Systemau and Dadansoddi Cronfeydd Data
- Datblygu Meddalwedd - Rhaglennu Gwrthrych-gyfeiriadol
- Sganio Gorwelion Technolegol
- Traethawd Hir
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Y gofyniad mynediad safonol ar gyfer y rhaglenni hyn yw gradd anrhydedd dosbarth 2:2 o leiaf mewn maes pwnc sy'n gysylltiedig â Chyfrifiadureg, neu gymhwyster cyfwerth mewn unrhyw radd sy'n seiliedig ar wyddoniaeth a chanddi elfen gyfrifidura/peirianneg gryf. Mewn rhai achosion, gall ymgeiswyr sydd â phrofiad masnachol neu ddiwydiannol sylweddol gael eu derbyn, yn amodol ar gyfweliad a geirda.
Addysgu ac Asesu
Dulliau Astudio ac Ymchwil Ôl-raddedig
- Gwaith cwrs - 40% - 1500 o eiriau
- Gwaith cwrs - 60% - 2000 o eiriau
Caledwedd a Meddalwedd Rhwydweithio
- Gwaith cwrs - 50% - 2000 o eiriau
- Prawf yn y dosbarth - 20%
- Tasgau ymarferol – 30%
Technegau a Thechnolegau Rhwydweithio
- Gwaith cwrs - 50% - 2000 o eiriau
- Prawf yn y dosbarth - 20%
- Tasgau ymarferol – 30%
Systemau and Dadansoddi Cronfeydd Data
- Gwaith cwrs - 50%
- Gwaith cwrs - 50% - 3000 o eiriau
Datblygu Meddalwedd - Rhaglennu Gwrthrych-gyfeiriadol
- Gwaith cwrs - 50%
- Gwaith cwrs - 50%
Sganio Gorwelion Technolegol
- Gwaith cwrs - 70% - 3000 o eiriau
- Cyflwyniad - 30%
Traethawd Hir
- Cynnig ymchwil- 10% - 2,000 o eiriau
- Traethawd Hir - 90% - 15,000 to 20,000 o eiriau
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i ganolbwyntio mwy ar eich llwybrau gyrfaol ym maes cyfrifiadura neu'r llwybrau addysgol. Byddwch yn meddu ar yr wybodaeth a’r cymhwysedd angenrheidiol i barhau i ddatblygu'n broffesiynol yn y gweithle. Efallai y byddwch yn manteisio ar y cyfle i fynd ymlaen i ymchwiliad academaidd ar lefel uwch.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ffioedd dysgu Prifysgol Wrecsam 2023/24 ar gyfer MSc Cyfrifiadura yw £5,940.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Rhyngwladol
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.