MA Ffotograffiaeth
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
1 BL (LlA)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Cysylltiadau cryf
gyda nifer o sefydliadau creadigol, orielau a diwydiannau.
Lleoliad
ger tirweddau anhygoel Gogledd Cymru.
Yn y deg
uchaf yn y DU ar gyfer ansawdd dysgu (Canllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times 2024).
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r cwrs MA Ffotograffiaeth yn hwyluso archwiliad manwl o faes gwaith personol pob myfyriwr, gan ganolbwyntio ar greadigrwydd, proffesiynoldeb, medrusrwydd a rhagoriaeth dechnegol.
Mae’r cwrs yn:
- Datblygu sgiliau ffotograffiaeth technegol ar lefel uwch.
- Canolbwyntio ar wella eich creadigrwydd, eich proffesiynoldeb a’ch medrusrwydd.
- Canolbwyntio’n gryf ar dwf yr unigolyn.
- Arwain myfyrwyr ar daith benodol i edrych ar wahanol arferion a methodoleg.
- Dysgu myfyrwyr i ganfod atebion arloesol i heriau gweledol a chysyniadol sy’n bresennol o fewn cyfrwng ffotograffiaeth.
Prif nodweddion y cwrs
- Mynediad i’n Stiwdio Ffotograffiaeth Cromlin Anfeidrol (Infinity-Curve) ar raddfa fawr, y cyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru.
- Cysylltiadau agos gyda sefydliadau diwylliannol a chreadigol ar draws y Gogledd Orllewin a Chymru megis Tŷ Pawb, Open Eye Gallery, FfotoGallery Newport, Tate Liverpool, a FACT Foundation for Art and Creative Technology.
- Ffocws cryf ar ddatblygu arfer unigol a chyflogadwyedd.
- Llwybr clir i symud ymlaen i astudio Doethuriaeth
Beth fyddwch chin ei astudio
Ymarfer Lleoli_Ffotograffiaeth – Mae’r elfen “LEOLI” o fewn y rhaglen MA Ffotograffiaeth yn anelu at gyflawni tri phrif nod yng nghyd-destun ffotograffiaeth.
Yn y lle cyntaf, mae’n arwain myfyrwyr i archwilio’r agweddau technegol, cysyniadol a damcaniaethol hanfodol ym maes ffotograffiaeth drwy archwiliad manwl o ddeunyddiau/technegau/dulliau, ymchwil cysyniadol a dadansoddiad beirniadol. Nod y broses hon yw gwella medrusrwydd a dealltwriaeth o gyfrwng ffotograffiaeth.
Yn ail, mae’r modiwl yn anelu at sefydlu a mynegi arferion ffotograffig pob myfyriwr o fewn parthau eang hanes, diwylliant, gwleidyddiaeth ac ontoleg. Mae hyn yn golygu datblygu ymwybyddiaeth frwd o gysyniadau ehangach sy’n dylanwadu ar eu diddordebau artistig.
Ymarferion Cwestiynu Ffotograffiaeth- Mae’r modiwl ‘CWESTIYNU’ yn canolbwyntio ar fireinio eich arferion ffotograffig drwy eu hymgorffori o fewn trafodaethau athronyddol a diwylliannol yn ymwneud â chysyniadau ehangach ym maes creu delweddau. Trwy groesawu’r arfer o gymryd risgiau cysyniadol ac arbrofi gyda chyfryngau sy’n herio technegau confensiynol, nod y modiwl yw tarfu ar ddulliau technegol arferol a chwestiynu canfyddiadau esthetig a thechnegol. Yn ogystal, mae’n anelu at helpu i ddatblygu iaith ar gyfer dadansoddi’r cysylltiad rhwng ffotograffiaeth a hunaniaeth ddiwylliannol, hanes, gwleidyddiaeth, amgylcheddau a materion cymdeithasol cyfoes. O fewn yr archwiliad hwn, ceir pwyslais penodol ar wella eich sgiliau ysgrifennu beirniadol, mynegiant llafar a thrafodaeth feirniadol. Bydd y sgiliau hyn yn rhoi sylfaen gref ar gyfer creu delweddau ffotograffig, gan feithrin dull gwybodus a chynnil i esblygu eich ymarfer.
Ymarfer Mynegiant_Ffotograffiaeth- Yn y modiwl "MYNEGIANT", bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar greu pecyn o waith ffotograffig gan hefyd fireinio’r sgiliau sy’n angenrheidiol i’w gyflwyno i’r cyhoedd. Rhoddir pwyslais ar ymgorffori arferion ffotograffiaeth pob myfyriwr o fewn byd celfyddydol a diwylliannol fodern ehangach, drwy fireinio’r gallu i fynegi yn ysgrifenedig ac ar lafar, a’r gallu i gynnal arddangosfa.
Mae’r modiwl yn anelu at baratoi myfyrwyr ar gyfer lansio gyrfa gynaliadwy mewn ffotograffiaeth ar ôl graddio, drwy ymchwilio i ddatblygiad ac amrywiaeth portffolio, llunio dogfennau proffesiynol, ysgrifennu a chyflwyno ceisiadau, archwilio ffrydiau ariannu diwylliannol a masnachol ac ymchwilio i yrfaoedd.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Ar hyn o bryd, rydym yn gofyn am radd gychwynnol mewn pwnc perthnasol, ar lefel Dosbarth Cyntaf neu 2:1, neu dystiolaeth o weithgarwch diweddar yn y pwnc sy’n gyfwerth â’r safonau hyn fel y pennir mewn cyfweliad.
Addysgu ac Asesu
Mae’r strategaeth addysgu a dysgu ar gyfer y rhaglen Ffotograffiaeth yn cyd-fynd â’r Fframwaith Dysgu Gweithredol, gan ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd allweddol a rheoli darpariaeth ar y safle ac ar-lein yn effeithiol.
Rhoddir pwyslais ar gyfleoedd dysgu yn y byd go iawn, ac mae’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau ymarferol, deallusol a phroffesiynol sy’n ofynnol o fewn y diwydiannau Ffotograffig.
Byddwch yn cael eich dysgu drwy amrywiaeth o Ddarlithoedd, seminarau a gweithdai ymarferol wedi’u cyflwyno gan staff academaidd a thechnegol.
Addysgu ac Asesu
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i ganfod eich diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae’r rhaglen MA Ffotograffiaeth yn cynnig ystod eang o lwybrau gyrfa ar ôl graddio. Mae’r cwrs nid yn unig yn paratoi graddedigion i weithio fel ffotograffwyr a gwneuthurwyr ffilm proffesiynol a’r amrywiaeth eang o feysydd sydd ar gael yn y maes, ond mae hefyd yn caniatáu ar gyfer datblygiad i’r diwydiannau creadigol ehangach.
Nod y rhaglen hon yw helpu i wella cyflogadwyedd myfyrwyr, gan y bydd yn darparu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer gweithio mewn arferion celf a dylunio amlddisgyblaethol, megis:
- Ymchwilydd
- Golygydd digidol
- Cyfarwyddwr
- Cyfarwyddwr cynorthwyol
- Golygydd ffotograffau
- Asiant
- Cyd-ymgymerwr galeri
- Cynhyrchydd
- Curadur
- Athro / darlithydd
- Rheolwr / cynorthwyydd stiwdio
Ar ôl cwblhau’r cwrs MA Ffotograffiaeth, mae cyfle i raddedigion symud ymlaen i astudio ymhellach ar gyfer Doethuriaeth.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.Yn amodol ar ddilysu
Mae cyrsiau sy’n cael eu dangos fel rhai “amodol ar ddilysu” yn gyrsiau newydd sy’n cael eu cwblhau ac mae manylion y cyrsiau yma yn y broses o gael eu penderfynu drwy’r gylchred gymeradwyo, a elwir yn broses ‘ddilysu’. Cyn gynted ag y bo’r rhaglenni wedi eu dilysu bydd manylion y cwrs yn cael eu cadarnhau.
Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn dal i fod yn ‘amodol ar ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.
Rhyngwladol
Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.