Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

1 Fl (LlA) 2 Fl (RhA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Elwa

o gysylltiadau diwydiant cryf

Astudiwch

ddyfodol ynni adnewyddadwy a'i risgiau a'i fanteision

Dysgwch

gan weithwyr proffesiynol profiadol ac arbenigwyr yn y maes 

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r MSC mewn Peirianneg (Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwy) yn cyflwyno darlun cyfoes o’r newid yn yr hinsawdd, ei achosion, canlyniadau, ac atebion. Byddwch yn edrych ar economeg ynni a’r marchnadoedd ynghyd â materion economaidd-gymdeithasol, diogelwch ynni ac ystyriaethau gwleidyddol. Mae mesurau lleihau ynni hefyd yn cael eu dadansoddi.

Mae’r opsiwn technoleg adnewyddadwy a storio ynni yn archwilio’r holl brif ffynonellau ynni adnewyddadwy (gwynt, solar, hydro afonydd, llanw a thonnau) a sut y gellir asesu, rhagweld, modelu, a defnyddio neu storio ynni.

Er mwyn cyrraedd targedau lleihau carbon 2050 i reoli’r newid yn yr hinsawdd, mae’r rhan fwyaf o wledydd wedi cytuno i dargedau i symud o ffynonellau ynni tanwydd ffosil traddodiadol i ynni adnewyddadwy a chynaliadwy. Mae’r arbenigedd hwn yn cynnig cyfle i raddedigion gael mynediad i’r maes cyffrous ac arloesol hwn sy’n tyfu.

Prif nodweddion y cwrs

  • Polisi drws agored i gwrdd â thiwtoriaid
  • Cefnogaeth ychwanegol trwy weithdai
  • Dysgwch y sgiliau peirianneg i ddylunio ac ymchwilio i ffynonellau ynni adnewyddadwy a chynaliadwy
 

Beth fyddwch chin ei astudio

MODIWLAU

  • Dulliau Ymchwil Peirianneg ac Astudiaethau Ôl-radd 
  • Dylunio ac Arloesedd mewn Peirianneg 
  • Modelu ac Efelychu Systemau Peirianneg Fecanyddol 
  • Technoleg Adnewyddadwy a Pheirianneg Integreiddio Storio 
  • Lleihau Ynni a Chynaliadwyedd 
  • Newid yn yr Hinsawdd, Canlyniadau, Atebion a Pholisïau
  • Traethawd Hir 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion mynediad arferol ar gyfer cael eich derbyn i astudio’n llawn amser neu’n rhan amser fydd un o’r canlynol:

  1. Gradd Anrhydedd Baglor mewn Peirianneg, neu Radd Baglor arall mewn disgyblaeth beirianneg briodol, fel arfer gydag o leiaf dosbarthiad 2:2 neu gyfwerth.
  2. Gellir derbyn ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r gofynion mynediad ond sydd â phrofiad proffesiynol sylweddol mewn maes arbenigol perthnasol, yn amodol ar gyfweliad a geirda.
  3. Cymwysterau cyfatebol o wlad dramor a ystyrir yn foddhaol gan dîm y rhaglen.

Fel arfer, bydd gofyn i ymgeiswyr sy’n gwneud cais trwy bwyntiau mynediad (b) ac (c) fynychu cyfweliad. Nid yw hyn bob amser yn bosibl, e.e., myfyrwyr tramor, ac os felly defnyddir y ffurflen gais ac argymhellion y tiwtor ‘cartref’ i benderfynu a ydynt yn addas; gellir defnyddio ffôn, y rhyngrwyd a fideo-gynadledda hefyd. Bydd lle ar y rhaglen yn cael ei gynnig yn seiliedig ar gymwysterau cefndir yr ymgeiswyr a, lle bo’n briodol, eu profiadau.

Meini prawf ansafonol i gael mynediad

Yn ôl y Rheoliadau ar gyfer ‘Graddau Meistr a Addysgir’ Prifysgol Wrecsam, mae’n bosibl i berson heb radd gael eu derbyn i ymgeisio, ar yr amod:

  1. Bod ganddynt gymhwyster nad yw’n radd y mae Prifysgol Wrecsam wedi barnu ei fod o safon foddhaol at ddiben derbyn i gwrs ôl-radd, a
  2. bod ganddynt swydd gyfrifol sy’n berthnasol i’r rhaglen, a’u bod wedi bod yn y swydd honno am o leiaf dwy flynedd o fewn y pum mlynedd diwethaf.

Waeth beth fo cymwysterau mynediad ymgeisydd, rhaid i’r myfyriwr ddangos tystiolaeth sy’n bodloni’r panel cyfweld o’u gallu i gwblhau gwaith academaidd i’r safon ofynnol i gwblhau’r cynllun astudio arfaethedig yn llwyddiannus.

 
 

Addysgu ac Asesu

Sail y rhaglen yw’r Fframwaith Dysgu Gweithredol (ALF). Mae’r dull dysgu cyfunol hwn yn rhan allweddol o’r cyflwyno ac mae’n cynnwys addysgu, cymorth dysgu, a chynnal sesiynau ar-lein. Mae’r Fframwaith yn cynnig dull mwy hyblyg o ddysgu i fyfyrwyr ac mae’n hanfodol i roi cyfle cyfartal i bob myfyriwr lwyddo.

Mae’r dulliau dysgu ac addysgu yn adlewyrchu disgrifyddion nodweddion gradd Meistr yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) yn y ffyrdd canlynol:

  1. Defnyddir darlithoedd i rannu gwybodaeth allweddol a dangos ffyrdd newydd o weithio a fydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o egwyddorion eu maes astudio yn ogystal â chanfod ffyrdd newydd o weithio.
  2. Bydd astudiaethau achos, chwarae rôl, a gweithio mewn grŵp yn cael eu defnyddio i gynorthwyo wrth roi’r egwyddorion ar waith yn ehangach. Byddant hefyd yn cael eu defnyddio i ysgogi trafodaeth ac ymarfer sgiliau datrys problemau. Bydd hyn hefyd yn galluogi myfyrwyr i werthuso pa mor briodol yw gwahanol ddulliau o ddatrys problemau.
  3. Mae defnyddio portffolios yn ysgogi adfyfyrio ar y rhinweddau sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, a hynny’n gofyn am ysgwyddo cyfrifoldeb personol a gwneud penderfyniadau. Yn ogystal, maent yn galluogi myfyrwyr i nodi terfynau eu gwybodaeth a’u sgiliau a nodi strategaethau ar gyfer datblygu.
  4. Defnyddir asesiadau i hybu dysgu yn ogystal â rhoi syniad am gyflawniad y myfyriwr.

Mae cyfleoedd yn y rhaglen i gael adborth ffurfiannol, diagnostig a chrynodol. Defnyddir dulliau asesu sy’n adlewyrchu anghenion y grŵp myfyrwyr ac yn rhoi modd profi gwybodaeth a deilliannau dysgu’r rhaglen yn ogystal â galluogi datblygu ac asesu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy.

Pan wneir gwaith grŵp wedi’i asesu, bydd disgwyl i chi greu nodiadau am gyfarfodydd a llunio cynlluniau gweithredu, a thrwy’r rheiny ddangos eich bod wedi cyfrannu’n gyfartal at y dasg. Yr elfen hon o gyfraniad personol fydd yn pennu asesiad eich modiwl yn gyffredinol. h.y., ni ddylai pob myfyriwr o fewn grŵp ddisgwyl cael yr un marc.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

Mae'r dulliau addysgu'n cynnwys darlithoedd, sesiynau labordy, seminarau a arweinyr gan fyfyrwyr ac ymchil gan gyfarwyddyd.

Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig o bob modiwl, gan ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pwnc-benodol a'u sgiliau allweddol.

 
 

Rhagolygon gyrfaol

Mae’r rhaglen MSc Peirianneg (Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwy) yn ateb anghenion ystod o ddiwydiannau amrywiol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, wrth gyflenwi darpar weithwyr o’r radd flaenaf iddynt yn y dyfodol. Mae’r rhaglen wedi’i llunio i roi cyfleoedd i chi ddangos eich arbenigedd technegol perthnasol, eich arloesedd, eich ymrwymiad a’ch crebwyll, gan felly gynhyrchu myfyrwyr sy’n weithwyr Peirianneg proffesiynol ac yn ased y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr y dyfodol. Mae cyn-fyfyrwyr naill ai mewn cyflogaeth amser llawn neu wrthi’n astudio am PhD.

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae'r cwrs yn eich cyfarparu â gwybodaeth drylwyr a sgiliau mewn peirianneg sydd ar flaen y gad pan ddaw i dechnolegau newydd a'r rhai sy'n dod i'r amlwg. Bydd gan raddedigion y fantais o ddod yn arbenigwyr yn y diwydiant neu i fynd ar drywydd gyrfaoedd ymchwil yn y byd academaidd.

 

 
 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.