Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

1 Fl (LlA) 3 Fl (RhA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Cynlluniwyd gan

academyddion ac arbenigwyr yn y diwydiant.

Asesiadau

arloesol sydd â ffocws ar y pwnc.

Gellir dewis

gwneud modiwl Ymarfer Uwch.

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r rhaglen MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol a Chadwyn Gyflenwi yn rhoi’r sylfeini i’r myfyrwyr hynny sydd ag ychydig neu ddim profiad gwaith yn y byd busnes er mwyn iddynt wireddu eu potensial rheoli yn y dyfodol yn y maes busnes o’u dewis.

Mae strwythur y rhaglen yn rhoi’r cyfle i chi astudio meysydd pwnc trwy’r llwybr a ddewiswch, tra hefyd yn gwneud modiwlau craidd ar draws y rhaglen, gan roi amrywiaeth eang, cysylltiad rhwng pynciau a chyfoethogi eich astudiaethau, yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal ag yng nghymuned ehangach y myfyrwyr.

Mae’r rhaglen MSc yn cynnwys meysydd gwybodaeth penodol, sgiliau a nodweddion meddylfryd gwahanol a’r rhain oll yn cyfrannu at berfformio’n effeithiol ar lefel rheoli mewn sefydliad. Mae cynnwys y modiwlau, y dull o’u cyflwyno a’r asesu yn datblygu proffil unigol y dysgwr, gan arwain at fwy o hyder a gallu i farchnata eu hunain fel gweithiwr proffesiynol.

Codwch eich astudiaethau i lefel ôl-raddedig ac adeiladu gyrfa mewn rôl yn rheoli busnes rhyngwladol a chadwyn gyflenwi.

Prif nodweddion y cwrs

  • Dewch yn rhan o Ysgol Fusnes mewn prifysgol sy’n un o dair yn y Deyrnas Unedig a oedd ar restr fer ryngwladol Gwobrau Rhagoriaeth AMBA/BGA 2022 am y strategaeth arloesi orau ar gyfer dysgu gweithredol
  • Ymunwch ag Ysgol Fusnes sydd eisoes â chymuned ôl-raddedig ryngwladol sefydledig a llwyddiannus
  • Cewch gwrdd ag arweinwyr busnes blaenllaw yn eich dewis faes
  • Dewch i ddefnyddio ein Hystafell Efelychu Busnes newydd i ddod â phroblemau busnes go iawn yn fyw
  • Cewch ddewis gwneud modiwl ymarfer uwch – 480 awr+ o brofiad lleoliad gwaith – mewn lleoliad 12 wythnos
 
 

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae’r modiwlau a astudir ar y rhaglen MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol a Chadwyn Gyflenwi yn eich annog i fynd ati’n weithredol i gymhwyso theori ac offer modelu i ddatblygu ac ehangu eich sgiliau arloesi, creadigrwydd, datrys problemau a chrebwyll. Byddwch yn datblygu’r sgiliau hyn er mwyn gwerthuso, asesu a rhesymu a gwneud penderfyniadau busnes ac ariannol y gellir eu cyfiawnhau mewn meysydd busnes a chadwyni cyflenwi allweddol, gan ganolbwyntio ar senarios o’r byd go iawn, trafodaethau, dadleuon a heriau cymhleth.

Byddwch yn datblygu dyfnder gwybodaeth trwy ddadansoddi theori ar gyfer ymarfer, gan eich galluogi i adeiladu setiau sgiliau arbenigol y mae galw amdanynt. Byddwch yn gwneud hyn ar yr un pryd ag archwilio meysydd cyfredol a rhai’r dyfodol mewn rheoli busnes rhyngwladol a chadwyni cyflenwi, gan roi’r wybodaeth a’r offer sydd eu hangen arnoch i wella eich rhagolygon a chael effaith broffesiynol ar eich gyrfa yn y dyfodol.

Modiwlau a addysgir

  • Strategaeth Gorfforaethol a Rheolaeth Ryngwladol (craidd): Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ffurfio a gweithredu strategaethau mewn amgylchedd busnes rhyngwladol, gan ystyried ffactorau busnes ac amgylcheddol mewnol ac allanol a heriau sy’n effeithio ac yn dylanwadu ar strategaethau ac arweinyddiaeth, a sut mae hyn yn trosi i reolaeth a gweithrediadau.
  • Cyllid a Chyfrifyddu ar gyfer Busnes (craidd): Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno gwybodaeth ynghylch llunio a dadansoddi datganiadau ariannol yn ogystal â hanfodion cyllid ac adrodd ariannol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Mae hefyd yn ystyried strwythur y marchnadoedd ariannol a’r amgylcheddau y maent yn gweithredu ynddynt.
  • Brandio Sefydliadau yn Rhyngwladol (craidd): Mae’r modiwl hwn yn eich galluogi i fynd ati’n strategol i ystyried brandio sefydliadau a strategaethau brandio sy’n dylanwadu ar enw da, y gweithlu, cynhyrchion a’r rheolaeth ar draws amrywiol swyddogaethau sefydliad er mwyn darganfod a sylweddoli gwerth brandio a rheoli brand yn y tirwedd busnes.

Modiwlau sy’n benodol i bwnc

  • Gweithrediadau Rhyngwladol a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi (llwybr pwnc craidd): Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r elfennau damcaniaethol sy’n cyfrannu at gael cadwyn gyflenwi sy’n gweithredu’n effeithiol mewn amgylchedd busnes cyfoes sy’n gyson newid a lle mae lleihau aflonyddu ac ymateb yn gyflym i gwsmeriaid yn flaenoriaeth. Ei nod yw galluogi astudiaeth o weithrediadau a systemau cadwyn gyflenwi, y rheolaeth arnynt a’r cyd-destun allanol byd-eang cyfnewidiol y maent yn gweithredu ynddo.
  • Rhagfynegi Cyfres Amser a Rhaglen Linol (llwybr pwnc craidd): Nod y modiwl hwn yw eich arfogi â thechnegau efelychu a modelu rhaglen llinol sylfaenol sydd eu hangen i ddatrys problemau rheoli a gwneud y penderfyniadau gorau mewn perthynas â chadwyn gyflenwi.

Modiwlau Opsiynol

  • Entrepreneuriaeth Ryngwladol (opsiwn): Cewch archwilio gwahanol brosesau a chysyniadau entrepreneuraidd, modelau damcaniaethol, a’r rôl y mae diwylliant yn ei chwarae o ran sut i ddechrau, datblygu a rheoli menter fyd-eang. Byddwch hefyd yn astudio’r ffactorau amgylcheddol sy’n effeithio ar entrepreneuriaeth ryngwladol, gan ganfod sut mae entrepreneuriaid yn gwneud dewisiadau ar lefel ddomestig a rhyngwladol, gan gynnwys ehangu’n rhyngwladol a’r amgylchedd ariannol byd-eang.
  • Globaleiddio a Materion Cyfoes mewn Busnes Rhyngwladol (opsiwn): Cewch ymchwilio ac archwilio tueddiadau mewn busnes rhyngwladol ac ystyried sut maent yn cyfrannu at fwy o gyd-ddibyniaeth ymhlith economïau, marchnadoedd rhyngwladol newydd a datblygol, technolegau a datblygiadau gwleidyddol.
  • Egwyddorion ac Arferion Busnesau Rhyngwladol (opsiwn - 20 credyd): Cyfle i archwilio arferion ac egwyddorion busnesau a sefydliadau rhyngwladol mewn cyd-destun byd-eang, gan annog datblygiad ac ymgysylltiad drwy ddealltwriaeth feirniadol o’r maes pwnc hwn o safbwynt rheolaeth. Byddwch yn mynd ati’n feirniadol i edrych ar arferion busnes cyfoes, a byddwch yn ymchwilio ac yn astudio effaith y rhain ar yr amgylchedd busnes ehangach trwy ddadansoddi yn seiliedig ar theori, yn ogystal ag edrych ar ba arferion ac egwyddorion busnes fydd yn llywio dyfodol economïau a chymdeithasau busnes yn fyd-eang.

Modiwlau Traethawd Hir

  • Dulliau Ymchwil a Thraethawd Hir: Byddwch yn dysgu am natur a chynnwys methodolegau ac ymchwil academaidd sy’n cyd-fynd â fframweithiau ymchwil wrth gael eich cyflwyno i dechnegau dadansoddi, dulliau samplu a moeseg ymchwil, cyn cwblhau cynnig ymchwil ym maes pwnc eich rhaglen astudio. Byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil a llunio traethawd hir gan ddilyn y cwestiwn ymchwil a gynigiwyd gennych yn y modiwl Dulliau Ymchwil. Yn ystod y modiwl, byddwch yn: cynllunio eich dull ymchwil; sicrhau sêl bendith; casglu data; dadansoddi data; ac ysgrifennu eich ymchwil.

Os ydych yn gwneud yr Ymarfer Uwch byddwch yn mynd ar interniaeth 12-wythnos yn ychwanegol at yr uchod.

Lleoliad Ymarfer Uwch

Mae pob rhaglen MSc busnes yn cynnig modiwl ymarfer uwch ychwanegol sy’n rhoi’r cyfle i chi gael mwy o gredydau trwy wneud interniaeth 3 mis mewn cwmni. Mae hyn yn helpu i roi cyfleoedd gwych i chi o ran cyflogadwyedd yn y dyfodol a’r cyfle i ddefnyddio’r wybodaeth o’ch astudiaethau mewn prosiectau bywyd go iawn.

(Nid yw’r Brifysgol yn trefnu lleoliadau a’ch cyfrifoldeb chi yw hyn.)

 
 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Fel arfer disgwylir i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd gyntaf dda (2:2 neu uwch mewn unrhyw bwnc), neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol. Derbynnir cymhwyster nad yw’n radd, os yw’r Brifysgol yn barnu ei fod o safon foddhaol at ddiben derbyn ôl-raddedig. Gall ymgeiswyr fod wedi graddio’n ddiweddar, wedi cael eu gradd anrhydedd, ac sy’n dymuno mynd yn eu blaenau i astudiaethau ôl-raddedig er mwyn gwella eu cyfleoedd gyrfa. Lle bo angen, neu fel rhan o bolisïau a phrosesau’r Brifysgol, gall ymgeiswyr fod yn destun meini prawf dethol ychwanegol.

Mae’r ffigurau hyn wedi’u bwriadu i fod yn ganllaw cyffredinol. Ystyrir pob cais yn unigol.

Amlinellir cymwysterau mynediad rhyngwladol ar wefan Canolfan Wybodaeth Cydnabyddiaeth Academaidd Cenedlaethol y DU (NARIC) gan ddangos yr hyn sy’n gyfatebol i gymhwyster mynediad o’r DU.

Yn ogystal â’r gofynion mynediad academaidd, rhaid i bob ymgeisydd nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt ddangos hyfedredd yn yr iaith Saesneg.

Mae myfyrwyr Ewropeaidd yn gallu darparu’r dystiolaeth hon mewn nifer o ffyrdd (gweler https://glyndwr.ac.uk/International-students/academic-entry-requirements/ i gael manylion), gan gynnwys IELTS.

Rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gael Prawf Iaith Saesneg Diogel a Gymeradwywyd gan UKVI (sef SELT) (gweler https://glyndwr.ac.uk/International-students/English-language-requirements/ i gael manylion).

 
 

Addysgu ac Asesu

Sut y byddwch yn dysgu

  • Dysgu cyfunol sy’n defnyddio’r Fframwaith Dysgu Gweithredol
  • Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol (Fframwaith Dysgu Gweithredol)
  • Sesiynau wedi’u haddysgu wyneb yn wyneb
  • Trafodaeth wedi’i hwyluso
  • Rhoi eich barn a chynnal dadl
  • Herio
  • Paratoi deunydd a chyflwyno testun i gyd-fyfyrwyr
  • Astudio annibynnol – darllen ac ymchwilio
  • Dehongli
  • Cwblhau asesiadau
  • Adborth i aseiniadau

Mae strategaeth dysgu ac addysgu’r rhaglenni yn seiliedig ar ddatblygu ac ennill gwybodaeth, ymddygiadau, sgiliau, a gwerthoedd newydd neu wedi’u haddasu, a’r rhain yn arwain at rymuso dysgwyr â’r hyder i gymryd rhan, yn feirniadol ac yn greadigol, wrth astudio eu maes pwnc. Cefnogir hyn drwy bynciau llosg busnes sy’n codi er mwyn i fyfyrwyr i gael profiad uniongyrchol o’r deunydd pwnc mewn modd sy’n perthyn yn agos i arferion busnes a rheolaeth.

Bydd yr addysgu yn digwydd drwy gymysgedd o ddulliau ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys darlithoedd, tiwtorialau, dadleuon grŵp, a dysgu drwy brofiad a fydd yn cael eu hintegreiddio a’u cefnogi drwy ddefnyddio datblygiadau technolegol i roi mwy o hyblygrwydd ac amrywiaeth, ynghyd â mynediad at ystod ehangach o adnoddau a deunyddiau sy’n cefnogi Fframwaith Dysgu Gweithredol y Brifysgol.

Oriau cyswllt y rhaglen fydd darlithoedd ffurfiol a thiwtorialau o tua 3 awr y modiwl bob wythnos.

Sut y cewch eich asesu

Byddwch yn cael eich asesu trwy amryw o ddulliau cyfoes megis traethodau, adroddiadau, cynlluniau strategaeth, portffolios, adfyfyrion, blogiau fideo, posteri, a chyflwyniadau sydd â’r nod o greu dysgwyr hyderus pan fyddant yn symud i’r gweithle.

Rhoddir cyngor, arweiniad ac adborth o asesu ffurfiannol a chrynodol a defnyddir hyn yn ffordd i ddatblygu ac ennill sgiliau dysgu a dod i ddeall arferion academaidd cadarn, gan ddefnyddio, lle bynnag y bo modd, yr amgylchedd dysgu rhithwir traws-raglen.

 
 

Rhagolygon gyrfaol

Meistr y Gwyddorau (MSc) neu Meistr y Gwyddorau (MSc) gydag Ymarfer Uwch

Ar gyfer yr holl lwybrau MSc Rhyngwladol, mae’r canlynol yn berthnasol mewn perthynas â dyfarniadau ymadael:

  • Mae’r Dystysgrif Ôl-radd mewn Rheolaeth yn ddyfarniad ymadael sydd ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau 60 credyd ar lefel 7 ac sy’n dewis peidio â pharhau â’r rhaglen.
  • Mae’r Diploma Ôl-radd yn ddyfarniad ymadael sydd ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau 60 credyd ar lefel 7 ond sy’n dewis peidio â pharhau â’r rhaglen: Diploma Ôl-radd Rheoli Busnes Rhyngwladol a Chadwyn Gyflenwi

Bydd myfyrwyr sydd â 120 credyd a 60 credyd o’u modiwl ymarfer uwch ond sy’n dewis peidio â pharhau â’r rhaglen yn gadael gyda’r dyfarniad canlynol:

  • Diploma Ôl-radd Rheoli Busnes Rhyngwladol a Chadwyn Gyflenwi gydag Ymarfer Uwch

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

 
 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.