Neil Thompson

Araith ar gyfer: Neal Thompson

Cyflwynir gan: Natalie Edwards

Mae’n bleser gennyf gyflwyno Neal Thompson ar gyfer gwobr Cymrawd Er Anrhydedd Prifysgol Wrecsam. 

Mae Neal Thompson yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn ymgynghorydd llawrydd a fu’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth fyw dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae’n gyfarwyddwr artistig Gŵyl Llangollen Fringe, ac yn gyd-sylfaenydd FOCUS Wales, sef gŵyl a chynhadledd arddangos ryngwladol flynyddol, a gynhelir yn Wrecsam.

A honno bellach yn ei deuddegfed flwyddyn, mae FOCUS Wales yn lletya dros 250 o berfformiadau byw a 400+ o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant cerdd, o bedwar ban byd, ac yn croesawu 20,000 o bobl i’r ŵyl yng nghanol y ddinas bob blwyddyn. Ers ei lansio yn 2011, mae FOCUS Wales wedi datblygu o fod yn ddigwyddiad â phanel mewn un gynhadledd, gyda llond llaw o sioeau byw, i gael ei chategoreiddio gan Lywodraeth Cymru fel Digwyddiad Unigryw ar gyfer Cymru. Mae hynny’n golygu ei fod yn ddigwyddiad sy’n cynrychioli diwylliant a hunaniaeth Cymru. Mae’n ddigwyddiad sydd hefyd yn gwneud cyfraniad economaidd sylweddol i ddinas Wrecsam, ym mhle cafodd ei gynnal o’r cychwyn cyntaf.

Mae Neal yn eiriolwr dros y celfyddydau a hefyd yn aelod sefydlol o Grŵp Cynghori Diwydiant Digwyddiadau Cymru, a sefydlwyd yn 2020 i gynrychioli buddiannau cerddoriaeth fyw a digwyddiadau diwylliannol, yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. 

Mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad neilltuol i Wrecsam a’r economi leol, mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno Neal Thompson i’w dderbyn ar gyfer ein hanrhydedd uchaf, sef Cymrodoriaeth Er Anrhydedd Prifysgol Wrecsam.