Cymorth entrepreneuriaith
Mae Gwella Entrepreneuriaeth yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Wrecsam helpu i ddatblygu eu sgiliau menter neu eu cefnogi i ddechrau busnes newydd. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn dechrau busnes, llawrydd neu fod yn feistr arnoch eich hun, mae'r tîm gwella entrepreneuriaeth yma i helpu.
Digwyddiadau
Rydym yn cynnig digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn wedi'u trefnu'n fewnol ac ar y cyd â phartneriaid allanol. Mae'r digwyddiadau'n amrywio o sesiynau byr un awr i gynadleddau diwrnod llawn ac maent yn cynnwys pynciau sydd o ddiddordeb i'r rhai ar bob cam o hunangyflogaeth neu ddim ond yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd. Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau diweddaraf dilynwch ni ar Facebook a/neu Twitter, neu cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr drwy glicio yma.
Cymorth un-i-un
Gall myfyrwyr a graddedigion gael mynediad at gymorth cychwyn busnes un i un er mwyn helpu i ddatblygu syniadau, trafod camau a chyllid posibl ar gyfer hunangyflogaeth, neu drafod sut i ddatblygu busnes sy'n bodoli eisoes.
Mae hwn yn wasanaeth y gellir ei archebu ar ddyddiadau penodol drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â enhance@glyndwr.ac.uk i drefnu eich cyfarfod.
Mentora busnes parhaus
I ddilyn y cyfarfodydd un-i-un, mae gennym nifer o weithwyr proffesiynol lleol hefyd, rhai ohonynt yn fyfyrwyr blaenorol o'r Wrecsam, sydd wedi cytuno'n garedig i fod ar restr o fentoriaid busnes ar gyfer myfyrwyr a graddedigion Wrecsam.
I gofrestru eich diddordeb yn y gwasanaeth hwn ebostiwch enhance@glyndwr.ac.uk
Gofod busnes
Drwy ein gwasanaeth Rydym hefyd yn cynnig man cychwyn busnes hyblyg i fyfyrwyr a graddedigion i redeg eu busnesau.
Lolfa fenter - Cynnig swyddfeydd fforddiadwy i'w rhannu ar y prif gampws, delfrydol ar gyfer busnesau yn y cyfnod cynnar gyda phrisiau desgiau'n dechrau o ddim ond £12 yr wythnos
Tŷ'r prifathro - Mannau Swyddfa unigol a hyblyg ar gampws Regent Street. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys ystafelloedd cyfarfod/hyfforddi ar y cyd a chegin a rennir. Delfrydol ar gyfer busnesau newydd sy'n dymuno tyfu.
Gwobrau Gwella Entrprenuriaeth
Nod y Gwobrau Gwella Entrprenuriaeth yw arddangos y doniau entrepreneuraidd yn y rhanbarth, gyda gwobrau amrywiol ar gael i ddathlu llwyddiant busnesau arloesol!
Categorïau'r Gwobrau:
- Busness newydd gorau
- Menter gymdeithasol orau
- Rhwydweithiwr gorau
- Busnes myfyriwr/graddedig gorau
- Entrepreneur corfforaethol gorau
- Entrepreneur ifanc y flwyddyn
Dadlwythwch y Gwobrau Gwella Entreprenuriaeth Ffurflen Gais.
Adroddiad Effaith Prosiect 2021
Cyswllt
Ebost: enhance@glyndwr.ac.uk
Twitter: @WGUEnhance
Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr cliciwch yma