Gwyddonwyr Chwaraeon Prifysgol Wrecsam yn cydweithio gyda Chlwb Bocsio Amatur Yr Wyddgrug
Date: Dydd Mercher, Medi 18, 2024
Mae adran Chwaraeon Prifysgol Wrecsam yn cefnogi bocswyr lleol drwy wella eu perfformiad a lleihau eu risg o anaf, drwy bartneriaeth newydd gyda Chlwb Bocsio Amatur yr Wyddgrug (ABC).
Bydd y dull cydweithredol newydd hwn yn golygu y bydd Darlithwyr Chwaraeon a Gwyddonwyr y Brifysgol yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau'r clwb er mwyn cefnogi eu datblygiad a'u twf.
Gan ddefnyddio Labordy Biomecaneg a Gwyddorau Perfformiad newydd y Brifysgol, sy'n cynnwys amrywiaeth o dechnoleg sy'n arwain y diwydiant, bydd y tîm Chwaraeon yn cael mewnwelediadau manwl i fecaneg y corff dynol, er mwyn dyrchafu perfformiad bocswyr.
I nodi'r bartneriaeth newydd yn swyddogol, daeth aelodau'r tîm Chwaraeon a chynrychiolwyr o'r clwb ynghyd i lofnodi memorandwm o ddealltwriaeth i ffurfioli'r cydweithrediad.
Meddai Sara Hilton, Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddor Pêl-droed a Hyfforddi ym Mhrifysgol Wrecsam: "Rydym yn falch iawn o fod yn partneru ac yn gweithio gydag ABC yr Wyddgrug i'w helpu i gefnogi twf a datblygiad y genhedlaeth nesaf o focswyr yn yr ardal leol.
"Mae'r clwb yn gwneud gwaith gwych yn eu cymuned leol a chydag ysgolion lleol, ac rydym ni fel adran eisiau cefnogi hynny, a hefyd yn cefnogi'r clwb o safbwynt Gwyddor Chwaraeon a thrwy lwybrau addysgol, yma yn y Brifysgol."
Meddai Anne Marie Phillips, cyd-sylfaenydd ABC Yr Wyddgrug: "Mae'r bartneriaeth hon rhyngom ni a'r Brifysgol yn mynd i fod yn wych i ni fel clwb a'n bocswyr yn gyffredinol - mae'r cyfleoedd dysgu fel rhan o'r cydweithio yma yn mynd i fod yn amhrisiadwy.
"Nid yn unig y bydd hyn o fudd i ni ond i holl gymuned Yr Wyddgrug a'r ysgolion yr ydym yn eu cefnogi."
Ychwanegodd Dr Caroline Hughes, Deon Cyswllt Ymgysylltu â Myfyrwyr ym Mhrifysgol Wrecsam: "Mae ein hadran Chwaraeon yn falch iawn o fod yn gweithio gydag ABC yr Wyddgrug i'w helpu i ddatblygu eu perfformiad, lleihau eu risg i anaf, ac yn ei dro, datgloi potensial llawn bocswyr – ac yn rhoi'r wybodaeth honno i'r genhedlaeth nesaf o focswyr ac athletwyr.
"Rydym yn falch o allu defnyddio arbenigedd ein tîm a'n cyfleusterau o safon diwydiant, er mwyn datblygu athletwyr ymhellach yn ein cymuned - a'r bartneriaeth hon yw'r enghraifft ddiweddaraf ohonom yn gweithio gyda chlybiau a thimau i rannu ein hadnoddau a'n gwybodaeth.
"Trwy'r mewnwelediadau arbenigol a'r ymchwil y bydd ein Gwyddonwyr Chwaraeon yn gallu eu darparu, byddwn yn helpu i wthio ABC yr Wyddgrug i'w terfynau."