Coleg Rhyngwladol Dimensions
Sefydlwyd Coleg Rhyngwladol Dimensions (DIMENSIONS), Ysgol Fasnachol Dimensions gynt, ym 1980 gyda'r prif nod i ddarparu mynediad at addysg gynhwysfawr o ansawdd uchel i fyfyrwyr wedi'i theilwra i gwrdd â'u hanghenion a gofynion unigryw. Ers hynny, mae DIMENSIONS wedi derbyn enw da am ddarparu rhaglenni addysgol unigryw a chadarn gyda sylfaen eang, gan bontio lefelau gwahanol o astudio, i fyfyrwyr ar draws amryw gefndir diwylliannol ac ieithyddol, yn ogystal â phroffiliau addysg.
Gellir astudio'r cyrsiau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam canlynol yn Dimensions:
- BEng (Anrh) Peirianneg Electronig a Thrydanol (L6 Ychwanegol) llawn amser
- MSc Peirianneg (Electronig a Thrydanol) llawn amser
- MSc Peirianneg (Mecatroneg) llawn amser
- MSc Peirianneg (Gweithgynhyrchu Mecanyddol) llawn amser