Malvern International
Wedi’i sefydlu’n wreiddiol yng nghanol yr 1980au, cafodd Malvern ei sefydlu i ddarparu cyrsiau gohebiaeth ar gyfer hyfforddiant cyfrifiadurol yn Singapore i ddechrau. Gan weld y cyfle i ddarparu rhaglenni addysgol, ad-drefnwyd y cwmni ym 1988 a daeth yn gwmni addysg eang. Ar ôl yr ail-strwythuro hwn, dechreuodd y cwmni ddatblygu rhaglenni partneriaeth gyda phrifysgolion a sefydliadau sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol.
Gyda’r holl weithrediadau bellach yn digwydd yn y DU, mae Malvern International mewn cyfnod o dwf ac ehangu gyda thair ysgol yn y DU, sef Malvern House Llundain, Malvern House Brighton a Communicate School ym Manceinion, a dwy Ganolfan Astudiaeth Ryngwladol ar gampws gan gynnwys Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Gellir astudio’r cwrs canlynol gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam yn Malvern International:
- Modiwlau Iaith Saesneg (Blwyddyn Sylfaen Ryngwladol) llawn amser