Mae Joe yn fyfyriwr Rheoli Adeiladu 3edd flwyddyn BA (Anrh) ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.

Beth oeddech chi’n ei gwneud cyn dod i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Cyn i mi ddechrau prifysgol, roeddwn i’n saer i adeiladwr tai.

Beth a’ch denodd i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Roeddwn i’n hoffi’r ffaith fod PGW ar fy ngharreg drws, a'u bod nhw’n derbyn myfyrwyr ar sail eu profiad nid dim ond system pwyntiau UCAC.

A wnaethoch chi fynychu diwrnod agored? Beth oedd eich argraffiadau?

Da, roedd yn awyrgylch braf, croesawgar a chyffrous.

A oedd yn ddefnyddiol?

Oedd, mi oedd. Tra roeddwn i yna, dywedodd fy narlithwyr i mi mai dim ond dau ddiwrnod yr wythnos oedd cwrs llawn amser ac y byddwn i’n gorffen mewn tair blynedd yn hytrach nap hump. Wnaeth y tîm cyngor ariannol i fyfyrwyr fy helpu i ganfod pa gyllid oedd ar gael beth oedd y ffyrdd gorau o wneud cais am arian.

Sut oedd awyrgylch y campws? 

Roedd yn awyrgylch bywiog a chyfeillgar

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich cwrs?

Dw i’n dipyn o ‘geek’, felly dwi’n mwynhau ysgrifennu fy aseiniadau! Dw i hefyd yn mwynhau dysgu am bwnc dw i’n frwdfrydig iawn amdano a defnyddio’r wybodaeth dw i wedi’i hennill yn fy ngwaith.

Beth ydych chi’n gobeithio ei gwneud unwaith ichi raddio?

Dw i eisoes yn Ddirprwy Reolwr Safle ar safe adeiladu tri diwrnod yr wythnos, felly mi hoffwn i symud ymlaen i fod yn Rheolwr Safle a Rheolwr Cytundebau.

Sut fu’r gefnogaeth?

Mae’r gefnogaeth wedi bod yn wych, mae fy narlithwyr bob amser yn barod i ateb cwestiynau, neu fynd dros bethau.

Sut ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi elwa o astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Os na fyddwn i wedi dechrau fy ngradd, byddwn i’n sicr ddim wedi cael y swydd dw i’n ei gwneud rŵan. Mae hefyd wedi rhoi llawer mwy o hunanhyder i mi.

Sut fyddech chi’n crynhoi eich profiad o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam mewn gair?

Mewnweledol - mae fy amser yn Glyndŵr wedi rhoi dealltwriaeth llawer dwysach a fwy llydan o’r diwydiant dw i am ddilyn gyrfa ynddo.