Mae José yn Ymchwilydd Doethuriaeth mewn Peirianneg Awyrenegol a Mecanyddol (Technoleg Amaethyddiaeth y Gofod) yn y Gyfadran Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, ac mae’n cael ei oruchwylio gan Dr Zheng Chen a Dr Neil Pickles.

Teitl y traethawd ymchwil / gwaith dan sylw: 

Systemau Rheoli Uwch ar gyfer Cynefin Capsiwl dan Wasgedd ar gyfer planhigion yn y gofod.

Pam wnes di ddewis y pwnc hwn a beth yw dy ddiddordebau ymchwil?  

Dewisais y pwnc hwn gan ei bod yn hysbys iawn y bydd Amaethyddiaeth y Gofod yn chwarae rhan allweddol yn y dyfodol agos. Dylai cyfanheddiadau dynol ar y Lleuad, y blaned Mawrth neu’r tu hwnt fedru tyfu eu planhigion a’u cnydau eu hunain er mwyn bod yn llwyr gynaliadwy. Rydym ni angen deall sut mae cnydau’n mynd i ymddwyn dan amodau planedol gwahanol (h.y. disgyrchiant gwahanol) er mwyn bwydo astronotiaid y dyfodol, cynhyrchu ocsigen a gwaredu carbon deuocsid diolch i ffotosynthesis. Yn fy nghynnig i rydw i’n canolbwyntio mwy ar Dechnoleg Amaethyddiaeth y Gofod. Fodd bynnag, mae llawer o fewnbwn gan Ddaeareg Planedol a Beioleg Planhigion gan fod rhaid i’r tair colofn gael eu cyfuno’n llwyr i gefnogi cynefinoedd yn y dyfodol.  

Beth wyt ti’n obeithio ei wneud yn y dyfodol a pha gyfleoedd wyt ti’n chwilio amdanyn nhw?  

Bydd yr holl wybodaeth wyddonol yn deillio o’r ddoethuriaeth yn cael ei defnyddio yn y Prosiect Lleuad Gwyrdd yn y dyfodol. Rwy’n cydlynu’r prosiect amlddisgyblaeth hwn a ddechreuodd yn wreiddiol ym mis Medi 2016. Gwnaethom lunio cytundeb cydweithredu gyda’r tîm o China wnaeth lwyddo i blannu ar y Lleuad am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2019 fel rhan o ymgyrch Chang'e 4. Mae nifer o sefydliadau’n ymwneud â’r prosiect hwn. Mae nifer o sefydliadau’n rhan o’r prosiect; rydym ni’n defnyddio ein labordai yn ne Sbaen, yn Granada, ynghyd â’r labordy naturiol a ddarperir gan ynys Lanzarote (Yr Ynysoedd Dedwydd) gan y cydnabyddir ei fod yn analog planedol (tebyg iawn i’r Lleuad neu’r blaned Mawrth hyd yn oed oherwydd ei darddiad folcanig a basalt).

Rwy’n gwneud hyn yn rhan amser gan fy mod i’n gweithio fel peiriannydd gyda’r gweithgynhyrchydd ceir enwog Bentley Motors Limited lle rydw i’n dysgu gwerthoedd fel pwysigrwydd gwaith tîm ac ansawdd ym mhopeth rydym ni’n ei wneud.