
Lorna Bates
Mae Lorna yn fyfyriwr MA Ymarfer Celf ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.
Beth oeddech chi'n ei wneud cyn dod i Brifysgol Glyndŵr?
Roeddwn i'n rhoddwr gofal rhan amser i'r henoed, arlunydd/crëwr hunangyflogedig a mam.
Beth wnaeth eich denu i PGW, ac i'r cwrs?
Y ffaith fod PGW yn lleol i mi, a bod y cwrs yn cael ei chynnal mewn rhywle roeddwn ei gweld fel ysgol celf hefo hunaniaeth annibynnol a meddylfryd 'ysgol celf'.
Beth wnaethoch chi fwynhau mwyaf am eich cwrs?
Dw i wedi mwynhau bod yn ôl mewn amgylchedd addysgol. Ar ôl seibiant gyrfa hir yn magu teulu, roedd yn wych i fod ymysg pobl o'r un anian ac i feddwl yn academaidd eto.
Beth wnaeth eich synnu chi mwyaf am y cwrs?
Y syndod mwyaf oedd gymaint roedd fy mhractis celf wedi datblygu. Dw i wedi archwilio, ail-strwythuro a myfyrio ar fy mhractis nes fy mod i'n hyderus y bydd yn gynaliadwy ar ôl gadael Glyndŵr.
Sut rydych chi wedi elwa o'ch amser ym Mhrifysgol Glyndŵr?
Mae astudio yn PGW wedi helpu fi mewn sawl ffordd: mae fy hyder wedi tyfu, dw i wedi mwynhau bod yn ôl mewn addysg, dw i wedi cael cyfleoedd a defnyddio cyfleusterau buaswn i hefo ddim syniad amdanyn nhw fel arall a dwi wedi cwrdd â chymaint o bobl hyfryd, staff a myfyrwyr.
Dw i hefyd wedi cael fy nghyflwyno i broses ymchwilio cyd-destun a phractis, rhywbeth oedd braidd yn brin yn fy ngradd gyntaf.
Sut bydd y cwrs yn helpu'ch gyrfa?
Mae'r cwrs wedi helpu fi ddiffinio pwy ydw i fel person creadigol ac ail-werthuso beth sy'n bwysig i fi'n broffesiynol a ble dw i eisiau mynd hefo'n ngyrfa.
Dwi wedi cael cyfleoedd i herio fy hun ac ennill sgiliau cyflwyno, mae gen i fwy o hyder a 'does gen i ofn gen i o orfod cyfiawnhau fy hun fel arlunydd rhagor. Y peth bydda i'n methu mwyaf fydd peidio cael statws myfyriwr - mae wedi rhoi'r rhyddid i pan roeddwn i'w hangen mwyaf.
Sut fu'r gefnogaeth?
Bydda i'n methu cymorth cyfoedion hefyd. Dwi wedi gwneud ffrindiau gwych yma, a dw i'n bwriadu cadw mewn cysylltiad â nhw - maen nhw'n rhan o fy rhwydwaith newydd. Byddwn i byth wedi cwrdd â nhw oni bai am yr MA hwn yn Glyndŵr.