.jpg)
Rachel Holian
Mae Rachel yn fyfyriwr MA Ymarfer Celf ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.
Beth oeddech chi'n ei wneud cyn dod i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?
Graddiais gyda gradd BA (Anrh) dosbarth 1af mewn Dylunio 3D o Brifysgol Fetropolitan Manceinion yn 2005, yr wyf wedi bod yn gweithio fel darlithydd celf a dylunio rhan amser yng Ngholeg Cambria ers 2006.
Ers graddio, rwyf wedi parhau i weithio fel ceramegydd rhan amser yn fy stiwdio gartref gan arddangos a gwerthu gwaith trwy orielau a sioeau.
Beth oedd wedi eich denu chi i Brifysgol Wrecsam Glyndŵr?
Roedd fy ymarfer fel arlunydd wedi arafu ac roeddwn i'n teimlo bod angen 'ffocws' arnaf a chyfle i ddatblygu fy ngwaith ymhellach wrth wella fy sgiliau. Mae'r rhaglen MA wedi'i theilwra i fod yn hyblyg gyda chyfarwyddyd ac arbenigedd, fel y gellir cyfuno ac archwilio ffiniau crefft a chelf gain mewn ffyrdd nad not ydynt yn bosibl ar gyrsiau MA mwy 'penodol' eraill.
Sut mae'r awyrgylch o gwmpas y campws?
Cyfeillgar a chefnogol.
Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich cwrs?
Rwy'n mwynhau'r 'ffocws' a'r posibiliadau newydd o ran cyfeiriad fy ymarfer. Mae hyn wedi bod yn bosibl ac wedi cael ei wireddu drwy gymysgedd o ymarfer yn y gweithdy, aseiniadau theori, a beirniadaethau a thiwtorialau gyda thiwtoriaid arbenigol.
Beth ydych chi'n gobeithio ei wneud pan fyddwch chi'n graddio?
Parhau fel ceramegydd gweithiol â dull gweithredu mwy medrus â mwy o ffocws, yn gwerthu ac yn arddangos drwy orielau a sioeau.
Sut oedd y cymorth?
Yn dda, mae'r sesiynau beirniadu gyda thiwtoriaid wedi cefnogi ac wedi annog cynhyrchu a datblygu gwaith newydd.
Sut ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi elwa o astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam?
Rwyf wedi elwa trwy allu cynhyrchu corff newydd o waith. Mae fy sgiliau ymarferol wedi datblygu, ac rwyf wedi gallu ymestyn fy ngwybodaeth a'm cysyniadau y tu ôl i'm gwaith.
Pe baech chi'n crynhoi eich profiad ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam mewn un gair, beth fyddai hynny a pham?
Datblygu. Gan fy mod wedi cael yr amser, y gefnogaeth a'r adnoddau i ddatblygu fy ymarfer fel ceramegydd.