Alison McMillan
Athro yn Nhechnoleg Aerofod
- Ystafell: C130
- Ffôn: 01978 294418
- E-bost: a.mcmillan@wrexham.ac.uk
Addysg
Wedi gadael yr ysgol uwchradd yn yr Alban, symudais tua’r de i astudio ar gyfer BSc mewn Mathemateg a Ffiseg yng Ngholeg y Brifysgol Llundain, ac ymlaen wedyn at MSc mewn Mecaneg Gymhwysol yn Cranfield, a Doethuriaeth yn yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Swydd Stafford.
Dechreuodd y ddoethuriaeth fel prosiect yn ymchwilio i fethiant yn sgil ardrawiad mewn rhodenni rheoli carbon polygrisialog a ddefnyddir yn y diwydiant niwclear. Ar ôl bod wrthi am flwyddyn, bu newidiadau mawr yn Awdurdod Ynni Atomig y DU, a thynnodd ein partneriaid diwydiant allan o’r prosiect. Yn ystod yr haf hwnnw, darganfyddais fod llawer o ddiddordeb yn y diwydiant awyrofod mewn ardrawiadau plastigau sydd wedi’u hatgyfnerthu â ffibr carbon, lluniais gôd ar gyfer cyfrifiannell stiffrwydd laminiadau, ffurfiais y dadansoddiad moddol, a chymhwyso hwnnw i’r gyfrifiannell dadansoddi ardrawiad yr oeddwn wedi’i datblygu ar gyfer rhodiau carbon. Cysylltais â Rolls Royce, ac wedi hynny daethant i gydweithio yn y prosiect, gan ddarparu data enghreifftiol ar gyfer dilysu fy modelau.
Bûm mewn tair swydd ôl-ddoethurol wedyn - y gyntaf mewn Gwyddor Beirianyddol ym Mhrifysgol Rhydychen yn defnyddio cyfrifiadura esblygol a dadansoddi mathemategol er mwyn cael y strwythurau peirianyddol gorau i greu band pasio dirgryniad goddefol. Yn hynny o beth, roeddwn yn un o arloeswyr cynnar cyfrifiadura cyfochrog, gan rwydweithio’r cyfrifiaduron mewn dau labordy cyfrifiaduron a rhedeg tasgau anferthol dros wyliau’r israddedigion.
Roedd fy ail a fy nhrydedd swydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Keele. Roedd y
gyntaf o’r rhain yn yr Adran Mathemateg, yn modelu dirgryniad hunangynhyrfol gwichiadau olwynion rheilffordd. Mae hon yn broblem deinameg aflinol, a dim ond datrysiad cyfyngedig a geir drwy gynyddu’r gwanychu. Mae’r papur a ysgrifennais am y gwaith hwn yn un o’r rhai sydd wedi’i ddyfynnu fwyaf yn fy ngyrfa, ac enillodd “Ganmoliaeth Arbennig” yr EASD-ANIV i mi yn 1999.
Roedd fy nhrydedd swydd ôl-ddoethurol yn yr Adran Cyfathrebu a Niwrowyddoniaeth, yn gweithio ar brosiect cyfrifiadureg oedd yn gysylltiedig â systemau adnabod lleferydd. O fewn y tri mis cyntaf, roeddwn wedi canfod yn fathemategol na fyddai’r algorithm yr oedd fy ngoruchwyliwr am i mi ei ddefnyddio i godio yn gweithio, oherwydd ei fod yn mynd yn groes i ddeddf Nyquist, sef egwyddor samplo prosesu signalau sydd yr un fath yn fathemategol ag Egwyddor Ansicrwydd Heisenberg, Roeddwn i’n meddwl bod gwario arian trethdalwyr ar ymchwil a oedd yn sylfaenol ddiffygiol yn ddibwynt, ac ymgeisiais am swyddi ym myd diwydiant.
Rolls-Royce plc
Yn dilyn cyfweliad ble roeddwn wedi methu ag ateb unrhyw gwestiwn technegol, ond wedi gofyn llawer o gwestiynau technegol fy hun, cefais fy rhyfeddu o gael cynnig swydd mewn dadansoddi straen ym maes Trawsyriannau ac Adeileddau. Yn y dyddiau hynny, roedd y dylunwyr yn dal i ddefnyddio papur ar fyrddau dylunio enfawr, ac aeth misoedd heibio cyn i mi gael cyfrifiadur i wneud y gwaith dadansoddi straen arno, felly bûm yn rheoli tîm o gontractwyr allanol, ac yn cydlynu’r gwaith papur tystysgrifo. Ar ôl tua chwe mis, symudais i’r tîm caffael gallu, ble bûm yn cydlynu rhaglenni ymchwil a datblygu wedi’u cymhwyso i ddatblygu dulliau cynhyrchu ar gyfer adeileddau peiriannau.
Ymhen amser, aeth fy rôl yn ehangach a rhoddwyd cyfrifoldeb i mi dros y pecyn gwaith siafftiau ar gyfer awyren A400M. Cafodd y prosiect hwn ei osod i’r naill ochr wedi 9/11, oherwydd bod y diwydiant awyrofod wedi gorfod crebachu. Roedd recriwtio wedi’i rewi, a chafodd llawer o aelodau staff ar brosiectau a roddwyd i’r neilltu eu hadleoli i adrannau eraill. Yn fy achos i, symudais i Systemau Gwyntyllau, i weithio yn y Grŵp Ardrawiadau, sef y tîm sy’n gyfrifol am ddilysu profion a rhagfynegi dadansoddiadau ardrawiadau DYNA taro ADAR, llafn gwyntyll yn torri’n rhydd, a chyfyngu malurion mewn peiriannau. Treuliais flwyddyn yn gweithio ar gysyniad casyn cyfyngu haenog newydd, sydd bellach ar waith mewn peiriannau Trent 900 (ar awyrennau A380). Golygai hyn ddatblygu dulliau dadansoddi FEA, llunio nodweddion “deunyddiau” yn fathemategol i gynrychioli’r adeileddau haenog, mesur y nodweddion “deunyddiau” hynny drwy gynllunio dulliau profi dyfeisgar, ac yna ddilysu’r holl broses ddadansoddi drwy raglen brofi ar raddfa labordy. Cafodd y fethodoleg ei chymhwyso wedyn i’r casyn cyfyngu cyfan, a’i dilysu mewn prawf gyda llafn gwyntyll yn torri’n gyfan gwbl rhydd.
Tua’r cyfnod hwn, roedd fy ngweithgareddau arloesi a’m diddordeb yn y broses o gael patent yn cael eu cydnabod, a chefais rôl rhan-amser yn Gynrychiolydd Eiddo Deallusol i’r uned fusnes, ochr yn ochr â’m rôl dadansoddi ardrawiadau. Yn rhinwedd y rôl hon, roeddwn yn annog cydweithwyr i sylweddoli bod eu dyfeisiadau yn rhai y gellir cael patent arnynt, ac yn pwysleisio gwerth patentau i’r cwmni. Yn y cyfnod y bûm yn cyflawni’r rôl honno, gwnaethom gyflawni dwbl targed yr uned fusnes ar gyfer datgelu dyfeisiadau newydd. Agwedd ychwanegol ar y gwaith hwn oedd rheoli allforio, a daeth hyn yn llawer mwy cymhleth o ganlyniad i ymwneud y cwmni â dwy fersiwn o raglen datblygu Awyrennau Ymladd Cyfunol yr UDA. Enillais wobr fewnol am fy ngwaith yn datblygu’r broses mewn perthynas â rheoli data rheoli allforio, a chynorthwyo cydweithwyr i gydymffurfio â’r gofynion.
Yn dilyn hynny, rhoddwyd cyfrifoldeb i mi dros arwain datblygiad dulliau strategol ar gyfer gwyntyllau cyfansawdd a chasynau cyfyngu cyfansawdd. Rhan bwysig o hyn oedd tyfu’r tîm arbenigol, drwy recriwtio o’r tu allan ac o’r tu mewn i’r cwmni er mwyn datblygu’r arbenigedd mewnol, a thrwy ddatblygu a chryfhau perthnasoedd â phrifysgolion a phartneriaid posib yn y gadwyn cyflenwi. Bûm yn cydlynu datblygiad Canolfan Dechnoleg y Brifysgol ym Mryste, ac yn cymathu hynny â dadansoddi ardrawiadau, profi a galluoedd perthnasol eraill yn Rhydychen, Imperial College, Nottingham, Southampton, Ulster a TU Dresden.
Dros gyfnod o amser, wrth i’r rhaglenni dulliau aeddfedu, ac i’r gallu nesáu at Lefel 6 Parodrwydd Technoleg, trosglwyddwyd y strategaeth i ofal y rhai fyddai’n arwain datblygiad y safle cynhyrchu, a cham cyflwyno’r cynnyrch newydd. Wrth i’m rôl i fynd yn llai, gwelais gyfle i ailgydio yn fy niddordeb mewn modelu a nodweddu defnyddiau cyfansawdd, ac i weithio’n agosach gyda’r academyddion. Llwyddais yn fy nghais am Gymrodoriaeth Diwydiant y Gymdeithas Frenhinol, a bûm yn Gymrawd rhan-amser am 4 blynedd, yn bennaf gyda Phrifysgol Bryste, ond gan gydweithio hefyd ag Imperial College, Rhydychen, Ulster, a Dresden. Daeth fy niddordeb cychwynnol mewn effeithiau diffygion mewn defnyddiau cyfansawdd yn fwy cyffredinol, wrth i mi sylweddoli nad oedd diffygion a garwedd arwynebau yn cael eu hymchwilio’n ddigonol mewn cydrannau metel chwaith.
Nawr
Y dyddiau hyn, rwy’n dal i weithio ar ddiffygion a garwedd arwynebau. Rwyf wedi ceisio gosod cysyniad lludded deunyddiau ym myd rhagfynegi ar sail ffiseg sefydledig (elastigedd a phlastigrwydd), ar sail dealltwriaeth o ddosbarthiad diffygion a nodweddion garwedd arwynebau. Mae ffordd bell i fynd eto, ond mae’r ymagwedd hon yn darparu gwerth posib drwy leihau cost y
“pyramid profi” sydd ei angen ar raglen profi lludded lawn sy’n seiliedig ar ystadegau.
Mae cryn ddiddordeb wedi bod yn yr ymagwedd hon yng nghyd-destun cydrannau â swyddogaeth bwysig sydd wedi’u cynhyrchu gydag ychwanegion, ble mae’r dull cynhyrchu yn dueddol i ganiatáu diffygion. Mae gwaith a gyflawnwyd ar y cyd â’r Athro Rhys Jones AC (Monash ac Athro Gwadd yn Wrecsam) wedi cael effaith gyda Llynges UDA a’u cynlluniau cynnal awyrennau.
Yn ogystal ag ymchwil peirianneg sy’n gysylltiedig â deunyddiau, rwyf yn datblygu ymarfer rhyng- a thraws-ddisgyblaethol. Fel peiriannydd sydd â chefndir cryf mewn mathemateg, ffiseg a chyfrifiadureg, mae digonedd o gyfleoedd ar gyfer gweithgaredd rhyngddisgyblaethol. Mae’r ochr drawsddisgyblaethol yn fwy diddorol, ac (yn fy meddwl i), yn dod yn fwyfwy pwysig. Fel peirianwyr (a STEM-wyr eraill), mae’n rhaid i ni ddefnyddio ein gwybodaeth a’n sgiliau i ddatrys problemau technolegol. Beth nad ydyn ni’n tueddu i’w wneud ydy ffurfio golwg fanwl o ba broblemau y dylid eu datrys. Yn nisgyblaeth “Rhagoriaeth Proses”, ceir offeryn o’r enw “Y Pum Pam”. Y syniad ydy mynd at wraidd problem proses weithgynhyrchu drwy ofyn “Pam?” ar lefelau cynyddol o fanylder, nes bydd gwraidd y broblem wedi’i hamlygu. Rwy’n credu bod angen ymagwedd debyg yn ein gwaith arloesi: mae angen i beirianwyr (STEM-wyr) ymgysylltu mwy gyda phobl a’r ffordd maent yn byw eu bywydau, er mwyn sicrhau bod yr amser a’r egni a rown i’n gwaith yn arwain at welliannau yn y bywydau hynny, yn hytrach nag yn ychwanegu at gymhlethdodau a chostau.
Mae mater y Newid yn yr Hinsawdd a Sero Net yn enghraifft o hynny: mae “anghenion a’r defnydd” o ynni yn cynyddu’n gynt nag y gallwn ni sicrhau gwelliannau yn effeithlonrwydd peiriannau. Beth mae angen i ni ei wneud ydy cydnabod bod llawer o’r “anghenion a defnyddiau” hyn wedi tyfu ar sail aneffeithlonrwydd systemig a achoswyd drwy ddatrys y problemau anghywir. Yr anhawster ydy gweld drwy’r holl gymhlethdod rhyng-gysylltiedig, a gweld pa gyfleoedd sydd i osgoi’r cyfan, a symud yn uniongyrchol at ddatrysiad newydd. Gelwir yr ymagwedd hon yn Beirianneg Trawsnewid. Yn ogystal â Pheirianneg Trawsnewid, mae angen i ni gael gwared ar ein rhagfarnau hefyd. Er bod peirianwyr yn dod o bob math o gefndir, mae ein bywydau pob-dydd yn benodol i leoliadau. Rydym yn byw ein bywydau ein hunain, nid rhai pobl eraill. Gallai mwy o ymgysylltu â grwpiau amrywiol ein helpu i weld y tu hwnt i’n canfyddiadau ein hunain ynglŷn â pha ddatrysiadau sy’n bwysig.
Fframio fy Niddordebau Ymchwil
Mae fy "Niddordebau Ymchwil" wedi’u diffinio gan y rhyngweithio rhwng nifer o ffactorau:
- Fy nhalentau, sgiliau a phrofiad
- Fy ngwerthoedd, a pha anghenion neu nodau sy’n gymhelliant i mi
- Unrhyw gyfleoedd neu gyfyngiadau
Ac mae pob un o’r ffactorau hyn yn effeithio ar y dewisiadau rwyf wedi’u gwneud o ran yr ymchwil rwyf wrthi’n gweithio arno.
Talentau, Sgiliau a Phrofiad
Mae fy nhalentau ym maes mathemateg ac arloesi wrth ddatrys problemau. Mae gennyf sgiliau ar lefel uchel mewn Dadansoddi Elfennau Meidraidd, modelu mathemategol, a dadansoddi data. Mae gennyf brofiad o gymhwyso’r sgiliau hyn i berfformiad mecanyddol deunyddiau: deunyddiau cyfansawdd; effeithiau diffygion, athreiddedd a’r hyn a gynhwysir ar nodweddion deunyddiau; efelychu prosesau gweithgynhyrchu; optimeiddio; datblygu dulliau drwy gyfrifiadureg; ac ati. Bydd manylion yr union feysydd y mae gennyf brofiad ynddynt yn amlwg yn fy nghyhoeddiadau ymchwil a’m patentau, ac rwy’n cynnal gwefan bersonol + ORCiD ble caiff y wybodaeth honno ei churadu.
Gwerthoedd a Chymhelliant
Mae pob gweithgaredd ymchwil yn fater o ddewis. Yn anorfod, bydd rhywun yn dewis maes disgyblaethol y mae ganddynt dalent digonol ynddo, ac mae arbenigedd yn datblygu drwy brofiad a’r broses o ddatblygu sgiliau. I gychwyn, y cymhelliant i rywun fydd eu diddordebau mewn disgyblaeth benodol. Yn fy achos i, mathemateg a ffiseg “fodern” (perthynoledd cyffredinol, ffiseg gronynnau, mecaneg cwantwm, ac ati) oedd hynny: Roeddwn eisiau deall yr egwyddorion sylfaenol. Cymhelliant sy’n dilyn ydy anghenion realaeth: fel oedolyn, mae angen i rywun gyfrannu at gymdeithas ac ennill bywoliaeth. Dros amser, newidiodd fy nghymhelliant: Roeddwn i eisiau cymhwyso fy ngwybodaeth at waith “â diben ymarferol”. Newidiais gyfeiriad tuag at beirianneg fecanyddol, er mwyn defnyddio fy nhalentau a’m sgiliau ar gyfer dilysu dyluniadau peirianyddol.
Wrth i fy ngyrfa ddatblygu, sylweddolais fod fy nghymhellion hefyd yn dod dan ddylanwad cryf fy ngwerthoedd. Doedd osgoi anghyseinedd gwybyddol rhwng y gwaith a wnawn a’m gwerthoedd ddim yn ddigon bellach, des i ddeall y dylai fy ngwerthoedd arwain fy nghymhellion, ac y dylai fy ngwaith gynnal fy ngwerthoedd yn rhagweithiol.
Mewn geiriau eraill, mae agweddau ar fy ngwaith sydd o werth posib yn gyffredinol (gwell dealltwriaeth o ddeunyddiau, neu well dulliau o ddilysu mecanyddol). Mae’r rhain yn weithgareddau clodwiw, ond nid ydynt yn hyrwyddo fy ngwerthoedd sylfaenol. Yng nghyd-destun y Newid yn yr Hinsawdd, roeddwn yn teimlo bod gennyf gymhellion eraill i’w bodloni: dod â fy ngallu peirianyddol i weithio er lles cymdeithas, a hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd. Ar hyn o bryd, rwy’n ceisio cydbwyso fy ngweithgareddau rhwng y ddau faes yma.
Cyfleoedd a Chyfyngiadau
Mae cyllid ymchwil yn darparu'r cyfle i gael rhagor o bersonél ac adnoddau. Mae galwadau ymchwil yn gyffredinol yn denu mwy o geisiadau nag y gellir eu cyllido, felly rhaid ennill cyllid yn erbyn cystadleuaeth gref. Mae rhywun yn ceisio creu cyfleoedd drwy sylwi ar anghenion, datblygu syniadau, ac yna paratoi a chynllunio ar gyfer sicrhau tystiolaeth a dilysrwydd i’w cynllun ymchwil. Hefyd, wrth geisio am gyllid o’r pwrs cyhoeddus, dylai fod disgwyliad cymesur y daw canlyniad sydd o werth: effaith.
Gall cyfyngiadau fod yn faterion ymarferol sy’n cyfyngu ar yr hyn y gellir ac na ellir ei wneud. Er enghraifft, mynediad at gyfarpar ymchwil addas. Gall cyfyngiadau amlygu eu hunain hefyd ar ffurf addasrwydd yr ymchwilydd a’r amgylchedd ymchwil ar gyfer mynd i’r afael â math penodol o broblem. Er enghraifft, pan oeddwn yn gweithio yn Rolls Royce, bûm yn arwain ac yn cynnal gweithgareddau ymchwil ar Lefel Parodrwydd Technoleg (TRL) 4-6. Mae ymchwil awyrofod ar TRL4-6 yn ymwneud â chymaint o is-systemau, amodau gweithredu, a gofynion diogelwch, mae’n anodd dychmygu y byddai gan dîm mewn prifysgol brofiad digon eang i allu gweithio’n ystyrlon, oni bai eu bod yn rhan o dîm dan arweiniad diwydiant. Eto i gyd, mae amgylchedd prifysgol yn llawer mwy cydnaws â’r cyfleoedd ar gyfer ymchwil ar lefelau TRL1-3: er enghraifft, dealltwriaeth sylfaenol o ddeunyddiau, profi dulliau dadansoddi cyfrifiadurol newydd, ac ati.
Ar beth rydw i’n canolbwyntio ar hyn o bryd?
Yn ddiweddar, rwyf wedi ymgeisio ar gyfer nifer o ffynonellau cyllid sy’n canolbwyntio ar ddealltwriaeth y cyhoedd o agweddau sy’n ymwneud â’r Newid yn yr Hinsawdd: does dim un o’r rhain wedi bod yn llwyddiannus hyd yn hyn. Efallai mai’r broblem ydy y disgwylir i beirianwyr sy’n gweithio yn y maes hwn ddyfeisio peiriannau newydd, yn hytrach nag ymgysylltu â naratifau pobl? Rwy’n poeni os na fydd peirianwyr yn ymgysylltu fel hyn, fyddwn ni ddim yn gweithio ar y problemau iawn.
Ym maes nodweddu deunyddiau, buodd ceisiadau ymchwil cynharach yn aflwyddiannus, ac eithrio prosiect bychan InnovateUK dan arweiniad Busnes Bach/Canolig. Rwyf wedi bod yn datblygu fy nghynnyrch fy hun o ran cyhoeddiadau ymchwil ac rwyf wedi bod yn targedu cais penodol, gyda’r bwriad o ffurfio tîm mawr ar gyfer y cais ymchwil - ond ar hyn o bryd, mae cynnydd yn hyn o beth wedi’i gyfyngu gan yr angen i gwblhau’r EEOC.
O ystyried y cyfan, pan fydd cyfyngiadau’n pwyso’n drymach na chyfleoedd, mae angen newid cyn y gellir gwneud cynnydd.
Prosiectau Ymchwil
Teitl | Rôl | Disgrifiad | Dyddiad |
---|---|---|---|
Cadarnhau data priodweddau ar gyfer oes cynnyrch cyfansawdd (COMP_LIFE) - Prosiect wedi’i gwblhau | Partner arweiniol ar ran Prifysgol Wrecsam | Prosiect Innovate UK dan arweiniad Ferroday Ltd | 04/2016 - 09/2016 |
For the Relief of Our Planet | Arweinydd | Prosiect llyfr rhyngddisgyblaethol â nifer o awduron | 04/2020 - 10/2024 |
Rôl athreiddedd isarwyneb mewn traul cyswllt ymyl haenau | Arweinydd | Cam presennol fy ymchwil gwagleoedd a garwedd arwynebau | 01/2023 - 10/2024 |
Sbesimenau prawf wedi’u teilwra mewn peiriannau profi cyffyrddiad traddodiadol er mwyn nodweddu priodweddau plastigrwydd deunyddiau | Arweinydd | Rhan gyntaf: defnyddio FEA i fodelu a deall goblygiadau dylunio ar gyfer sbesimenau prawf wedi’u teilwra sy’n cynnwys gwagleoedd a nodweddion eraill: ffeilio cais patent, ysgrifennu papur ymchwil. Ail ran: ymgeisio am gyllid ymchwil, cynnal gwaith optimeiddio dyluniad ar gyfer sbesimen wedi’i deilwra gan ddefnyddio dulliau AI, dangos yr egwyddorion yn y labordy, yna ailddylunio’r sbesimen wedi’i deilwra. |
01/2024 - 10/2024 |
Deunyddiau a Safbwyntiau ynglŷn â Cherbydau a Moeseg mewn Polisi Trafnidiaeth (Polisi MOVE_IT) - Ysgrifennu cynnig | Arweinydd | Datblygu cynnig ymchwil | 04/2024 - 07/2024 |
Cyhoeddiadau
Blwyddyn | Cyhoeddiad | Math |
---|---|---|
2022 | Characterization of continuous carbon fibre reinforced 3D printed polymer composites with varying fibre volume fractions, Composite Structures, 282. [DOI] Saeed, Khalid;McIlhagger, Alistair;Harkin-Jones, Eileen;McGarrigle, Cormac;Dixon, Dorian;Shar, Muhammad Ali;McMillan, Alison;Archer, Edward |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2021 | The ventilation of buildings and other mitigating measures for COVID-19: a focus on wintertime, PROCEEDINGS OF THE ROYAL SOCIETY A-MATHEMATICAL PHYSICAL AND ENGINEERING SCIENCES, 477. [DOI] Burridge, Henry C.;Bhagat, Rajesh K.;Stettler, Marc E. J.;Kumar, Prashant;De Mel, Ishanki;Demis, Panagiotis;Hart, Allen;Johnson-Llambias, Yyanis;King, Marco-Felipe;Klymenko, Oleksiy;McMillan, Alison;Morawiecki, Piotr;Pennington, Thomas;Short, Michael;Sykes, David;Trinh, Philippe H.;Wilson, Stephen K.;Wong, Clint;Wragg, Hayley;Davies Wykes, Megan S.;Iddon, Chris;Woods, Andrew W.;Mingotti, Nicola;Bhamidipati, Neeraja;Woodward, Huw;Beggs, Clive;Davies, Hywel;Fitzgerald, Shaun;Pain, Christopher;Linden, P. F. |
Cyhoeddiad Arall |
2021 | Energy efficiency in extrusion-related polymer processing: A review of state of the art and potential efficiency improvements, Renewable and Sustainable Energy Reviews, 147. [DOI] Abeykoon, Chamil;McMillan, Alison;Nguyen, Bao Kha |
Cyhoeddiad Arall |
2021 | Aerodynamic space tether system as a system with distributed parameters, Elenev, D. V.;Zabolotnov, Y. M.;McMillan, A.J. |
Cyhoeddiad Arall |
2021 | Opportunities and prejudices in synthetic experiments, McMillan, A.J. |
Cyhoeddiad Arall |
2020 | Combined effect of both surface finish and sub-surface porosity on component strength under repeated load conditions, ENGINEERING REPORTS, 2. [DOI] McMillan, Alison J.;Jones, Rhys |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2019 | An exploratory study of the FinTech (Financial Technology) education and retraining in UK, [DOI] Sung, Anna;Leong, Kelvin;Sironi, Paolo;O'Reilly, Tim;McMillan, A.J. |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2019 | APPLICATION OF ULTRASONIC GUIDED WAVES FOR SURFACE ROUGHNESS MEASUREMENT, Structural Health Monitoring 2019. [DOI] MARK JAHANBIN;SRIDHAR SANTHANAM;JEONG-BEOM IHN;ALISON MCMILLAN |
Cyhoeddiad Cynhadledd |
2018 | Carbon Nanotube Technology as an Option for Future Computing Devices, EMERGING TECHNOLOGIES IN COMPUTING, ICETIC 2018. [DOI] Luhyna, Nataliia;Excell, Peter;Day, Richard J.;McMillan, Alison J.;Inam, Fawad;Osanlou, Ardeshir |
Cyhoeddiad Cynhadledd |
2018 | Life cycle analysis of steel railway bridges, THEORETICAL AND APPLIED FRACTURE MECHANICS, 97. [DOI] Peng, D.;Jones, R.;Cairns, K.;Baker, J.;McMillan, A. |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2018 | A computational study of the influence of surface roughness on material strength, Meccanica, 53. [DOI] McMillan, Alison;Jones, Rhys;Peng, Daren;Chechkin, Gregory A. |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2018 | Crack growth: Does microstructure play a role?, Engineering Fracture Mechanics, 187. [DOI] Jones, R.;Raman, R. K. Singh;McMillan, A. J. |
Cyhoeddiad Arall |
2018 | On the interaction between corrosion and fatigue which determines the remaining life of bridges, Fatigue and Fracture of Engineering Materials and Structures, 41. [DOI] Peng, D.;Jones, R.;Singh, R. R. K.;Berto, F.;McMillan, A. J. |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2018 | A Model and Application of Vibratory Surface Grinding, JOURNAL OF MANUFACTURING SCIENCE AND ENGINEERING-TRANSACTIONS OF THE ASME, 140. [DOI] Bechcinski, Grzegorz;Ewad, Heisum;Tsiakoumis, Vaios;Pawlowski, Witold;Kepczak, Norbert;McMillan, Alison;Batako, Andre D. L. |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2017 | A review of composite product data interoperability and product life-cycle management challenges in the composites industry, ADVANCED MANUFACTURING-POLYMER & COMPOSITES SCIENCE. [DOI] McMillan, Alison J.;Swindells, Norman;Archer, Edward;McIlhagger, Alistair;Sung, Anna;Leong, Kelvin;Jones, Rhys |
Cyhoeddiad Arall |
2017 | Estimation of the particle concentration in hydraulic liquid by the in-line automatic particle counter based on the CMOS image sensor, OPTICAL MEASUREMENT SYSTEMS FOR INDUSTRIAL INSPECTION X. [DOI] Kornilin, Dmitriy V.;Kudryavtsev, Ilya A.;McMillan, Alison J.;Osanlou, Ardeshir;Ratcliffe, Ian |
Cyhoeddiad Cynhadledd |
2017 | Numerical simulation of non-Newtonian polymer film flow on a rotating spoked annulus, Journal of Applied Polymer Science, 134. [DOI] Miah, Md Salim;Hossain, Mohammad Sayeed;Ashraf, Muhammad Arif;Al-Assaf, Saphwan;McMillan, Alison |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2017 | Crack growth in a naturally corroded bridge steel, Fatigue and Fracture of Engineering Materials and Structures, 40. [DOI] Ali, K.;Peng, D.;Jones, R.;Singh, R. R. K.;Zhao, X. L.;McMillan, A. J.;Berto, F. |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2017 | Composite repairs to bridge steels demystified, Composite Structures, 169. [DOI] Ali, K.;Raman, R. K. Singh;Zhao, X. L.;Jones, R.;McMillan, A. J. |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2017 | DEPLOYMENT AND STABILIZATION OF AN AERODYNAMIC SPACE TETHER SYSTEM, THIRD IAA CONFERENCE ON DYNAMICS AND CONTROL OF SPACE SYSTEMS 2017. Elenev, Dmitrii V.;Zabolotnov, Yuri M.;McMillan, Alison J. |
Cyhoeddiad Cynhadledd |
2017 | Crack Growth From Naturally Occurring Material Discontinuities, Aircraft Sustainment and Repair. [DOI] Jones, R.;Peng, D.;McMillan, A.J. |
Pennod Lyfr |
2016 | Explicit Finite Element Modelling as a Development Tool for New Ultrasound Testing Methodologies for Detection and Characterization of Porosity and Defects in Composites, [DOI] McMillan, A.J.;Holeczek, K |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2016 | Thin film flow on a vertically rotating disc of finite thickness partially immersed in a highly viscous liquid, Chemical Engineering Science, 143. [DOI] Miah, Md Salim;Al-Assaf, Saphwan;Yang, Xiaogang;McMillan, Alison |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2016 | Determination of particle sizes in hydraulic liquids based on image- and subpixel processing, APPLICATIONS OF DIGITAL IMAGE PROCESSING XXXIX. [DOI] Kornilin, Dmitriy V.;Kudryavtsev, Ilya A.;McMillan, Alison J.;Osanlou, Ardeshir;Ratcliffe, Ian |
Cyhoeddiad Cynhadledd |
2016 | Synthesis of a discrete-action thermo-bimetallic actuator with a tongue, 4TH INTERNATIONAL CONFERENCE ON ADVANCED COMPOSITES AND MATERIALS TECHNOLOGIES FOR ARDUOUS APPLICATIONS (ACMTAA). [DOI] Nikolaeva, A.;McMillan, A. J.;Gavriushin, S. |
Cyhoeddiad Cynhadledd |
2015 | Metallographic Analysis and Microstructural Image Processing of Sandblasting Nozzles Produced by Powder Metallurgy Methods, POWDER METALLURGY AND METAL CERAMICS, 54. [DOI] Povstyanoi, O. Yu.;Sychuk, V. A.;McMillan, A.;Rud', V. D.;Zabolotnyi, O. V. |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2015 | Optical and Quasi-Optical Analysis of System Components for a Far-Infrared Space Interferometer, TERAHERTZ, RF, MILLIMETER, AND SUBMILLIMETER-WAVE TECHNOLOGY AND APPLICATIONS VIII. [DOI] Bracken, C.;O'Sulllvan, C.;Donohoe, A.;Murphy, A.;Savini, G.;Juanola-Parramon, R.;Baccichet, N.;Guisseau, A.;Ade, P.;Pascale, E.;Spencer, L.;Walker, I.;Dohlen, K.;Lightfoot, J.;Holland, W.;Jones, M.;Walker, D. D.;McMillan, A. |
Cyhoeddiad Cynhadledd |
2015 | Geometry generation challenges for modelling and analysis of micro-structured materials, ADVANCED MATERIALS FOR DEMANDING APPLICATIONS. [DOI] McMillan, A. J. |
Cyhoeddiad Cynhadledd |
2015 | Discrete action micro-actuator optimization, ADVANCED MATERIALS FOR DEMANDING APPLICATIONS. [DOI] Nikolaeva, A.;McMillan, A. J.;Gavriushin, S. |
Cyhoeddiad Cynhadledd |
2012 | Measurement of the fracture toughness associated with the longitudinal fibre compressive failure mode of laminated composites, Composites Part A: Applied Science and Manufacturing, 43. [DOI] M.J. Laffan;S.T. Pinho;P. Robinson;A.J. McMillan |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2012 | Moderate energy impact analysis combining phenomenological contact law with localised damage and integral equation method, INTERNATIONAL JOURNAL OF IMPACT ENGINEERING. [DOI] A.J. McMillan;C. Monroy Aceves;M.P.F. Sutcliffe |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2012 | Material strength knock-down resulting from multiple randomly positioned voids, Journal of Reinforced Plastics and Composites, 31. [DOI] Alison J McMillan |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2012 | Aerofoil flutter: fluid-mechanical analysis and wind tunnel testing, Journal of Physics: Conference Series. [DOI] Wensuslaus, A. L.;McMillan, A. J. |
Cyhoeddiad Cynhadledd |
2012 | Strength knock-down assessment of porosity in composites: modelling, characterising and specimen manufacture, Journal of Physics: Conference Series. [DOI] McMillan, Alison J.;Archer, Edward;McIlhagger, Alistair;Lelong, Guillaume |
Cyhoeddiad Cynhadledd |
2012 | Mesh generation and geometrical modelling of 3D woven composites with variable tow cross-sections, Computational Materials Science, 51. [DOI] E. Potter;S.T. Pinho;P. Robinson;L. Iannucci;A.J. McMillan |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2012 | Translaminar fracture toughness testing of composites: A review, Polymer Testing, 31. [DOI] | Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
Anrhydeddau a Gwobrau
Dyddiad | Teitl | Corff Dyfarnu |
---|---|---|
01-2023 | Llongyfarchiadau (Elsevier, dwy erthygl mynediad agored yn ymdrin â Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig) | Elsevier |
01-2023 | Llongyfarchiadau ar eich erthygl a ddyfynnwyd fwyaf yn 2021 (Royal Society Publishing) | Royal Society Publishing |
01-2023 | Enillydd: Menyw eithriadol yn STEM Gorllewin Canolbarth Lloegr | Gwobrau’r Menywod |
Cymdeithasau Proffesiynol
Cymdeitha | Ariennir gan |
---|---|
Institution of Mechanical Engineers | Cymrawd, FIMechE, CEng |
Y Sefydliad Ffiseg | Cymrawd, FInstP, CPhys |
Advance HE | Cymrawd, FHEA |
Cymdeithas Fyd-Eang Peirianneg Trawsnewid | Cyswllt, AGATE |
Pwyllgorau
Enw | Dyddiad |
---|---|
Cyngor y Sefydliad Ffiseg (Ymddiriedolwr, Ysgrifennydd Anrhydeddus) | 10/2021 |
Y Sefydliad Ffiseg, Grŵp Hanes Ffiseg (Trysorydd) | 10/2021 |
Y Sefydliad Ffiseg, Grŵp Hanes Ffiseg (Trysorydd) | 06/2019 |
Y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol, Ardal Swydd Stafford (Cadeirydd) | 06/2024 |
Patentau a Chytundebau Trwyddedu
Rhif | Teitl |
---|---|
US8647072 | Cydran yn cynnwys matrics resin |
US8137053 | Cyfosodiad â’r aelod cyntaf a’r ail yn rhai y gellir eu hadnabod drwy’r cyfansoddiad cyntaf a’r ail, pob un yn cynnwys un neu fwy o isotopau o’r un elfen |
US9097139 | Casyn cyfyngu |
US6913436 | Cydosod llafn injan tyrbin nwy |
EP1669547 | Aerffoil cyfansawdd |
EP2363271 | Cydran haenog sy’n cynnwys deunydd rhyddhau rhwng yr haenau |
EP2369292 | Cydosodiad a dull mesur straen |
US9086362 | Cydrannau cyfansawdd haenog |
US9140140 | Elfen fflans gyfansawdd |
EP2051065 | Cydosodiad wedi’i labelu ag isotopau |
GB2450139 | Aerffoil ar gyfer peiriant tyrbin nwy |
US8734114 | Llafn ar gyfer peiriant tyrbin nwy yn cynnwys deunydd cyfansawdd gyda gwagleoedd wedi’u cyflunio i weithredu fel mannau cychwyn craciau pan fydd yn destun ton anffurfio |
EP1391642 | Seliau a dulliau o wneud seliau |
US9140131 | Dulliau ar gyfer rheoli ffrithiant rhwng arwynebau cyswllt heterogenaidd |
GB2416192 | Gwyntyll â dwythell gydag adeiledd cyfyngu |
US8011882 | Cydosodiad llafn |
GB2493735 | Dull ar gyfer lleoli arteffactau mewn deunydd |
US8774497 | Dull ar gyfer lleoli arteffactau mewn deunydd |
US10072693 | Cydosodiad casynau |
EP1669543 | Cyfluniad aerffoil- llwyfan |
EP2415585 | Casyn cyfyngu o ddeunydd cyfansawdd ar gyfer peiriant tyrbo |
GB2422407 | Adeiledd cyfyngu aerffoil |
EP1681439 | Llafn cyfansawdd |
US7384240 | Llafn cyfansawdd |
US8033789 | Cyfarpar i atal rhew rhag cronni |
US8459955 | Aerffoil |
US7399158 | Trefniant llafnau |
EP2286983 | Llwybr dargludo trydan mewn adeiledd ffibr wedi’i gyfnerthu a’i ragsylweddyn |
US8333565 | Aerffoil cyfansawdd |
EP2365186 | Gwelliannau mewn perthynas â chydrannau cyfansawdd haenog |
GB2489480 | Gwelliannau mewn perthynas â chydrannau cyfansawdd haenog |
US8703033 | Dulliau a chyfarpar ar gyfer ffurfio cydran gyfansawdd |
EP243060 | Dulliau a chyfarpar ar gyfer ffurfio cydran gyfansawdd |
GB2433556 | Cydrannau ysgafn |
US7656517 | Cyfarpar a dull profi |
GB2420314 | System cyfyngu llafn peiriant tyrbin nwy a deunydd laminedig |
US7827685 | Seliau a dulliau o wneud seliau |
GB2490128 | Dulliau ar gyfer rheoli ffrithiant rhwng arwynebau cyswllt heterogenaidd |
GB2430472 | Cydosodiad llafn |
EP2952753 | Cydosodiad casynau |
EP2415584 | Dyfais a dull torri ffibr |
US8714960 | Dyfais a dull torri ffibr |
US7329102 | Llafn |
EP1798378 | Trefniant mowntio ar gyfer llafn tyrbin nwy |
US7121758 | Trefniant cymal |
GB2403779 | Llafn arweiniol |
US7753648 | Gosodiadau llafn arweiniol ar gyfer peiriannau tyrbin nwy |
US7481618 | Trefniant mowntio |
EP1344559 | Gwahanydd aer/olew |
US8650966 | Cydosodiad a dull mesur straen |
US7837446 | Llafn cyfansawdd |
EP1681440 | Llafn cyfansawdd |
US7922456 | Cydrannau ysgafn |
GB2453921 | Matrics cydran |
GB2489673 | Casyn cyfyngu ar gyfer peiriant tyrbin nwy |
GB2442744 | Cyfarpar a dull profi |
US7513734 | System cyfyngu llafn peiriant tyrbin nwy a deunydd laminedig |
US7503164 | Gwyntyll â dwythell gydag adeiledd cyfyngu |
EP2487024 | Cyfarpar a dull ar gyfer ffurfio cydran gyfansawdd |
US9168686 | Cyfarpar ar gyfer ffurfio cydran gyfansawdd |
US7198472 | Cydrannau wedi’u mowntio ar lwyfan |
GB2395855 | Cywasgiad tonnell |
US7783116 | Cywasgiad tonnell |
US8920115 | Deunydd cyfansawdd a dull |
US7604199 | Adeiledd cyfyngu aerffoil |
EP1657402 | Llafn |
US8435003 | Cyfarpar i atal rhew rhag cronni |
US7090463 | Llafn arweiniol |
GB2397343 | Cydosod llafn injan tyrbin nwy |
US9562443 | Llwybrau dargludo trydan |
US6893478 | Gwahanydd aer/olew |
Golygu Manylion Cyflogaeth
Cyflogwr | Swydd | Dyddiad |
---|---|---|
Prifysgol Wrecsam | Athro mewn Technoleg Awyrofod | 09/2012 - 10/2024 |
Prifysgol Keele | Cymrawd Ymchwil | 06/1995 - 04/1997 |
Rolls-Royce plc | Rolau amrywiol, yn bennaf mewn Caffael Galluoedd a gwaith cysylltiedig | 04/1997 - 10/2011 |
Prifysgol Staffordshire | Cynorthwy-ydd Ymchwil | 10/1998 - 10/2021 |
Prifysgol Oxford | PDRA | 05/1993 - 06/1995 |
Addysg
Sefydliad | Cymhwyster | Pwnc | Dyddiad |
---|---|---|---|
Prifysgol Staffordshire | Doethuriaeth Rôl Dirgryniad mewn Ardrawiadau Elastig | Ffiseg | 10/1988 - 03/1992 |
Coleg y Brifysgol, Llundain | BSc Mathemateg a Ffiseg | Mathemateg a Ffiseg | 10/1983 - 06/1986 |
Prifysgol Cranfield | MSc Mecaneg Gymhwysol | Mecaneg Gymhwysol | 09/1987 - 09/1988 |
Leithoedd
Laith | Darllen | Ysgrifennu | Siarad |
---|---|---|---|
Russian | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig | Hyfedredd Elfennol | Hyfedredd Elfennol |
Welsh | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig | Hyfedredd Elfennol | Hyfedredd Elfennol |
German | Hyfedredd Proffesiynol Llawn | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig |
English | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog |
Esperanto | Hyfedredd Elfennol | Hyfedredd Elfennol | Hyfedredd Elfennol |
Spanish; Castilian | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig | Hyfedredd Elfennol | Hyfedredd Elfennol |
French | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig | Hyfedredd Elfennol | Hyfedredd Elfennol |
Latin | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig | Hyfedredd Elfennol | Dim Hyfedredd |
Adolygydd neu Olygydd Cylchgronau
Enw'r Cyfnodolyn | Gweithgaredd |
---|---|
Advanced Manufacturing: Polymer and Composites Science | Bwrdd Golygyddol |
Proceedings of Higher Educational Institutions. Machine Building | Bwrdd Golygyddol |
Fractal and fractional | Adolygydd Cymheiriaid |
Acta Mechanica | Adolygydd Cymheiriaid |
Engineering structures | Adolygydd Cymheiriaid |
Journal of composite materials | Adolygydd Cymheiriaid |
Materials | Adolygydd Cymheiriaid |
Steel research international | Adolygydd Cymheiriaid |
Symmetry | Adolygydd Cymheiriaid |
Applied Sciences | Adolygydd Cymheiriaid |
Sustainability | Adolygydd Cymheiriaid |
Theoretical and applied fracture mechanics | Adolygydd Cymheiriaid |
Archive of Applied Mechanics | Adolygydd Cymheiriaid |
Engineering fracture mechanics | Adolygydd Cymheiriaid |
International journal of structural integrity | Adolygydd Cymheiriaid |
Journal of manufacturing and materials processing | Adolygydd Cymheiriaid |
Mathematics | Adolygydd Cymheiriaid |
Gweithgareddau Allgymorth
Teitl | Disgrifiad |
---|---|
For the Relief of Our Planet | Rhaglen hir o fforymau trafod bob pythefnos. Cyfres o weminarau a gynhelir gan y Sefydliad Ffiseg. Prosiect llyfr aml-awdur Dau weithdy |
Astudiaeth arsylwi ar awyr y nos | Astudiaeth arsylwi unigol, wedi'i ddilyn gan gyflwyniad ar-lein a thrafodaeth ar y canlyniadau |