Ar ôl cwblhau LLB ym Mhrifysgol Aberystwyth bu Dylan yn ymarfer fel cyfreithiwr am dros 20 mlynedd cyn iddo droi at ddysgu. Bu Dylan yn gweithio fel tiwtor/darlithydd yng Ngholeg Cambria yn dysgu’r gyfraith/gwleidyddiaeth a gwasanaethau cyhoeddus, datblygodd gyrsiau Cymraeg a dwyieithog a gweithiodd ar radd Sylfaen Cyfiawnder Troseddol gyda Phrifysgol Caer.
Mae Dylan yn awdur y llyfr ‘The Man in Black’ sy’n adrodd hanes pan oedd fel cyfreithiwr yn cynrychioli llofrudd cyfresol.
Mae gan Dylan brofiad sylweddol o weithio ar y teledu a’r radio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae gan Dylan ddiddordeb mewn llawer o chwaraeon ac mae wrth ei fodd yn sgïo, cerdded mynyddoedd a physgota ac mae ganddo'r uchelgais o gerdded i Wersyll Sylfaen Everest rhyw ddydd.